Eitem Agenda

I ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Democrataidd ar Adolygiad o Ddosbarthiadau Etholiadol, Mannau Pleidleisio a Gorsafoedd Pleidleisio 2023

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd ac Aelod o’r Cabinet dros y Gwasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phobl a Threfniadaeth, gyflwyno’r adroddiad i’r Cyngor gan nodi bod Deddf Gweinyddu Etholiadol 2006, fel y’i diwygiwyd, wedi cyflwyno dyletswydd ar bob awdurdod lleol ym Mhrydain i adolygu eu dosbarthiadau etholiadau a’u mannau pleidleisio o leiaf unwaith bob pum mlynedd. Nododd fod adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Cabinet ar 5 Medi 2023 lle cytunwyd i gychwyn yr adolygiad gorfodol ar 2 Hydref 2023, gyda chyfnod yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 10 Tachwedd 2023.

 

Nododd fod adolygiad rhagarweiniol wedi’i gynnal o’r dosbarthiadau etholiadol, y mannau pleidleisio a’r gorsafoedd pleidleisio presennol yn ardal Ceredigion gyda’r bwriad o brofi eu haddasrwydd, a nodi unrhyw ddewisiadau eraill posibl lle bernir eu bod yn addas. Wrth asesu’r trefniadau presennol, ystyriwyd lleoliad, maint, argaeledd a hygyrchedd y mannau a’r gorsafoedd pleidleisio. Derbyniwyd 16 ymateb i’r ymgynghoriad ffurfiol a gellir eu gweld yn Atodiad A ynghyd â sylwadau a chynigion y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol).

 

Nododd y Cynghorydd Bryan Davies fod ymateb hwyr wedi dod i law, ar ôl cyhoeddi'r agenda, oddi wrth Neuadd Bentref Llwyncelyn yn nodi y byddent yn fodlon darparu’r neuadd fel gorsaf bleidleisio yn unig ar ddiwrnod yr etholiad. Ar ôl ystyried yr ymateb hwyr hwn, ac os bydd yr argymhelliad diwygiedig yn cael ei gymeradwyo, cynigiodd fod yr argymhelliad i symud yr orsaf bleidleisio o Neuadd yr Eglwys yn Llanarth i'r Ysgubor ar Fferm Bargoed yn cael ei dynnu’n llwyr o'r argymhellion ar ddiwedd yr adroddiad.

 

Eglurodd Eifion Evans, Prif Weithredwr a Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) fod Festri Capel Llwyncelyn wedi cael ei ystyried yn anaddas fel Gorsaf Bleidleisio, a bod Pwyllgor Neuadd y Pentref wedi mynnu parhau â gweithgareddau eraill yn y Neuadd ar ddiwrnod yr etholiad, ac nad oedd modd gwarantu defnydd ecsgliwsif o’r adeilad ar ddiwrnod yr etholiad.  Dywedodd y Cynghorydd Marc Davies fod sicrwydd wedi’i anfon gan Bwyllgor Neuadd Bentref Llwyncelyn y byddai’r orsaf bleidleisio yn cael defnydd ecsgliwsif ac na fyddai gweithgareddau eraill yn cael eu cynnal yn y Neuadd yn ystod etholiadau. Cadarnhawyd hyn gan Lowri Edwards, Swyddog Arweiniol Corfforaethol y Gwasanaethau Democrataidd.

 

Holodd y Cynghorydd John Roberts a fyddai'r adeilad wrth ochr Ysgol Comins Coch ar gael, gan fod yr adeilad bellach ar gau.  Cadarnhaodd Eifion Evans mai Cyngor Sir Ceredigion sy'n berchen ar yr adeilad ac felly ni fyddai'r cau yn effeithio arno. 

 

Nododd y Cynghorydd Euros Davies ei fod yn ymwybodol o'r ymgynghoriad ond nad oedd ef a'r Cyngor Cymuned wedi rhoi ymateb.  Nododd fod pryderon wedi'u codi ynghylch trosglwyddo'r Orsaf Bleidleisio o Neuadd Eglwys Llanwnnen i Ysgol Cwrtnewydd, a allai gael effaith ar y nifer a bleidleisiai am fod pleidleiswyr Llanwnnen yn tueddu i gerdded i bleidleisio.  Gofynnodd a fyddai modd ystyried ‘Y Grannell’ fel lleoliad amgen.

 

Eglurodd Eifion Evans nad oedd yr Orsaf Bleidleisio yn Neuadd Eglwys Llanwnnen yn foddhaol ac nad oedd yn bodloni gofynion Deddf Etholiadau 2022.  Cynigir bod yr Orsaf Bleidleisio yn cael ei symud i Ysgol Cwrtnewydd oherwydd diffyg opsiynau yn Llanwnnen.  Mae’r ‘Grannell’ yn dŷ tafarn ac felly mae'n annhebygol y byddai'r landlord yn fodlon cau'r dafarn am ddiwrnod cyfan er mwyn iddi gael ei defnyddio fel gorsaf bleidleisio, tra'n sicrhau uniondeb yr etholiad a chyfrinachedd y cyhoedd fydd yn pleidleisio, a hefyd sicrhau na fydd dim na neb yn tarfu arnynt.

 

Nododd y Cynghorydd Euros Davies fod Fferm Bargoed hefyd yn dŷ tafarn, serch hynny, esboniodd Eifion Evans fod Fferm Bargoed yn gallu darparu adeilad ar wahân i fod yn orsaf bleidleisio.  Hefyd gofynnodd y Cynghorydd Euros Davies a yw hyn yn mynd yn groes i bolisi'r Cyngor o ran trafnidiaeth ac Ôl Troed Carbon.  Eglurodd Eifion Evans fod y broses Etholiadau ar wahân yn llwyr i ddyletswyddau'r Cyngor.

 

Nododd Eifion Evans fod ganddo fel Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) bwerau dirprwyedig i adolygu'r trefniadau ar unrhyw adeg, ac os bydd Neuadd Eglwys Llanwnnen yn derbyn cyllid grant i wella'r cyfleusterau gan ddod â nhw i safon sy'n dderbyniol o ran gofynion Deddf Etholiadau 2022, neu os caiff lleoliad addas arall ei nodi, y byddai'n ailedrych ar y penderfyniad hwn o fewn y cyfnod adolygu o bum mlynedd.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Keith Henson beth fyddai'n digwydd pe na bai cyfleusterau megis yr Hen Ysgol yng Nghribyn (Canolfan Steffan) ar gael.  Cadarnhawyd bod argymhelliad i drosglwyddo'r Orsaf Bleidleisio i Felin-fach yn y tymor byr, ac y byddai'n dychwelyd i Ganolfan Steffan yng Nghribyn unwaith y byddai’r cyfleusterau yno yn cyrraedd y safon ac ar gael i'w defnyddio fel gorsaf bleidleisio.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Eryl Evans a fyddai Ysgol y Dderi yn gorfod cau ar ddiwrnod yr etholiad, gan nodi y byddai hyn yn annheg ar y disgyblion. Cadarnhaodd Eifion Evans fod mynedfa ar wahân ar gyfer disgyblion Ysgol y Dderi, Llangybi, ac felly byddai'r ysgol yn aros ar agor ar ddiwrnod yr etholiad.  Hefyd gofynnodd y Cynghorydd Eryl Evans ynghylch y trefniadau parcio i rieni sy'n gollwng ac yn casglu eu plant o'r ysgol.  Cadarnhaodd Eifion Evans y byddai hyn yn fater i Gorff Llywodraethu’r Ysgol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Gareth Lloyd am i Aelodau unigol gael gwybod am unrhyw gynigion i newid y trefniadau presennol yn eu Ward, gan fod llawer ohonynt heb ymateb i'r ymgynghoriad.

 

Cafodd y newid arfaethedig parthed Neuadd Eglwys Llanarth ei dynnu'n ôl.

 

Yn dilyn y drafodaeth PENDERFYNWYD i:

 

a)    Nodi na wneir newidiadau i’r Dosbarthiadau Etholiadol;

b)    Gwneud y newidiadau canlynol i’r Mannau Pleidleisio a’r Gorsafoedd Pleidleisio:

·       Symud o Adeilad Byddin yr Iachawdwriaeth i Ganolfan Morlan,    Aberystwyth;

·       Symud o Neuadd Eglwys Llanwnnen i Ysgol Cwrtnewydd;

·       Symud o Neuadd Gymunedol Betws Ifan i Festri Capel Beulah;

·       Symud o Festri Capel Bryngwyn i Festri Capel Beulah;

·       Symud o Landygwydd i Festri Capel Beulah;

·       Symud o Neuadd Llangybi i’r Ganolfan Gymunedol yn Ysgol y Dderi;

·       Symud o Neuadd y Paith i Neuadd y Pentref, Llanfarian;

·       Symud o Festri Capel Llwyncelyn i Neuadd Bentref Llwyncelyn;

·       Symud o Ganolfan y Dyffryn i Neuadd Bentref Aberporth.

 

c)    Rhoi trefniadau wrth gefn ar waith ar gyfer y Gorsafoedd Pleidleisio canlynol:

·       Tŷ’r Harbwr, Trefechan i ddefnyddio Clwb Pêl-droed Aberystwyth;

·       Canolfan Steffan, Cribyn i ddefnyddio Neuadd Goffa Felin-fach;

·       Neuadd Aberporth i ddefnyddio Canolfan y Dyffryn.

Dogfennau ategol: