Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Nia Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: 1.
Ymddiheuriadau a)
Ymddiheurodd
y Cynghorydd Keith Evans am ei anallu i fod yn bresennol gan ei fod ar
ddyletswyddau eraill ar ran y Cyngor. b)
Ymddiheurodd
y Cynghorydd John Roberts am ei anallu i fynychu’r cyfarfod. c)
Ymddiheurodd
James Starbuck, Cyfarwyddwr Corfforaethol am ei anallu i fynychu’r cyfarfod. |
|
Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu Cofnodion: a) Gwnaeth y
Cynghorwyr Bryan Davies a Rhodri Evans ddatgan budd personol a rhagfarnu mewn
perthynas ag eitem 10 b) Gwnaeth
Gareth Davies ddatgan budd personol a rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 10 gan
nodi na fyddai’n pleidleisio ar y mater. |
|
Materion Personol Cofnodion: a) Gwnaeth y Cynghorydd Bryan Davies ddymuno’n dda i Alan Davies ar ei ymddeoliad a diolchodd iddo am ei wasanaeth hir i’r Cyngor; b) Gwnaeth y Cynghorydd Hugh Hughes longyfarch i Mr Pete Davies a Mr Phil Jones am eu cydnabyddiaeth ddiweddar are u gwasanaeth gwirfoddol i Uned Tân Borth dros gyfnod o 35 mlynedd; c) Ar ran y Cynghorydd John Roberts, gwnaeth y Cynghorydd Paul Hinge longyfarch i Gruffydd Rhys Evans o Gapel Bangor, ar dderbyn lle yn Academi Frenhinol Celfyddydau Dramatig (RADA), ac am ennill Gwobr Sir Ian McKellen yn 2023; d) Gwnaeth y Cynghorydd Wyn Evans longyfarch i Eryn Jones a Ryan Jones, Bronant, ar gael eu dewis yn rhan o Dîm Pêl-droed Gogledd Cymru; e) Gwnaeth y Cynghorydd Ifan Davies longyfarch Cylch Meithrin Pontrhydfendigaid ar gael eu gwobrwyo fel Cylch Meithrin gorau Cymru; f) Gwnaeth y Cynghorydd Ifan Davies longyfarch Will Evans ar ennill yr Adran Iau yn y British Auto Grass; g) Gwnaeth y Cynghorydd Ifan Davies longyfarch Ifan Jones ar ennill Enduro Cymru yn y categori dan 19 oed; h) Gwnaeth y Cynghorydd Gwyn Wigley Evans longyfarch Mrs Peg Jones, Llanrhystud, ar ddathlu ei phen-blwydd yn 102; i) Gwnaeth y Cynghorydd Meirion Davies longyfarch Tom a Beth Evans, Llanfihangel y Creuddyn, ar flwyddyn lwyddiannus arall yn tyfu pwmpenni, gan nodi eu hymddangosiad diweddar ar raglen deledu yn siarad am eu profiadau. |
|
Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd 21 Medi 2023 PDF 112 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau bod
cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd
ar 21 Medi 2023 yn gywir Materion yn Codi Nid oedd unrhyw faterion yn codi.
|
|
Cyflwyniad gan y Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru Cofnodion: Gwnaeth Roger Thomas, Prif
Swyddog Tân a Sarah Mansbridge, Swyddog adran 151 ar gyfer Gwasanaeth Tân ac
Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, roi cyflwyniad i’r Cyngor gan roi trosolwg
o’r gwasanaeth. Diolchodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis, Cadeirydd y
Cyngor i’r Swyddogion am eu cyflwyniad gwybodus ac addysgiadol. Nododd y
Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor, bod y Cyngor yn cydnabod ac yn
gwynebu’r un heriau a bydd penderfyniadau anodd angen eu gwneud er mwyn
cydbwyso toriadau yn y gwasanaeth a Threth Cyngor cynyddol, a fydd yn
effeithio’r bobl fwyaf bregus yn ein cymuned. Yn wahanol i’r blynyddoedd
blaenorol, roedd yn gobeithio y byddai cais Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth
Gorllewin Cymru yn cael ei gydnabod a’i resymu. Gofynnodd hefyd am eglurhad os
oedd yr arian a godwyd trwy’r ardoll Treth y Cyngor yn aros yng Ngheredigion
neu’n cael ei wario yn rhywle arall. Nodwyd gan Sarah Mansbridge bod yr ardoll wedi’i
selio ar y boblogaeth: er hyn, mae Ceredigion yn cael buddion o gael mynediad
at yr holl adnoddau sydd ar gael ar draws ardal gyfan y Gwasanaeth Tân ac
Achub. Ail-adroddwyd hyn gan Roger Thomas a nododd bod y Gwasanaeth yn edrych
ar yr ardal gyfan ac yn symud adnoddau o un ardal i’r llall yn ôl yr angen.
Roedd y cynnydd sylweddol i’r ardoll y llynedd oedd gwella'r gwasanaeth ar-alw
a darparu taliadau er mwyn i’r staff ar-alw fynychu cyrsiau hyfforddiant
gorfodol. Gwnaeth Aelodau hefyd ofyn cwestiynau ynghylch y
chwyddiant a ragwelir a’r codiadau cyflog, ymweld â busnesau neu adeiladau
annomestig, ac uchelgeisiau’r gwasanaeth i gyflawni statws carbon niwtral. Nododd yr Aelodau hefyd fod yr Awdurdod Tân
yn codi ardoll ar y Cyngor yn wahanol i'r Awdurdod Heddlu sy'n braesept ar
filiau Treth y Cyngor preswylwyr. Cadarnhaodd Roger Thomas fod hynny'n unol â'r
ddeddfwriaeth bresennol, ond ei fod ar ddeall y byddai ymgynghoriad gan
Archwilio Cymru ar Lywodraethu Awdurdodau Tân yn dod i ben yn fuan, a allai fod
yn gyfle i'r mater gael ei godi ac edrych arno eto. Nododd Sarah Mansbridge y risgiau sy’n gysylltiedig
â rhagdybio’r gyllideb ar gyfer dyfarniadau tâl a chwyddiant a chadarnhaodd y
byddai amcangyfrif o’r costau yn cael eu darparu erbyn 31 Rhagfyr 2023. |
|
Datganiad o Dderbyn Swydd ac Ymrwymiad i gadw at y Cod Ymddygiad gan y Cynghorydd Raymond Evans Cofnodion: Gwnaeth Elin Prysor, Swyddog Monitro’r Cyngor
annerch y Cyngor ar y gofynion statudol i bob Aelod wneud Datganiad Derbyn ac
ymgymryd i gydymffurfio â’r Cod Ymddygiad, gan gadarnhau bod y Cynghorydd
Raymond Evans wrth wneud ei Ddatganiad Derbyn Swydd statudol, wedi derbyn
hyfforddiant cynhwysfawr ar God Ymddygiad y Cyngor ddydd Llun 24 Gorffennaf
2023. Mae hyn er mwyn iddo gyflawni ei
swyddogaethau gyda dealltwriaeth o Egwyddorion Bywyd Cyhoeddus, ei
ddyletswyddau a'i gyfrifoldebau o dan y Cod, a hefyd y canlyniadau ar gyfer
methu â gwneud hynny. Derbyniodd y Cynghorydd Raymond
Evans ar lafar ei Ddatganiad Derbyn Swydd ac i gydymffurfio â'r Cod Ymddygiad a
lofnodwyd ganddo yn flaenorol a'i wrthlofnodi gan y Swyddog Priodol. |
|
Cofnodion: Gwnaeth Gareth Davies, Aelod
y Cabinet dros Gyllid a Chaffael, gyflwyno’r adroddiad gan nodi bod disgwyl i’r Datganiad
o Gyfrifon 2022-23 gael eu cyflwyno yn
y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar y 30 Tachwedd 2023 ac yna ymlaen i’r Cyngor yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw. Nododd fod y Cyfrifon
wedi'u cyflwyno i Archwilio Cymru ddydd Gwener 18 Awst 2023 i baratoi
ar gyfer cwblhau'r Archwiliad Cyfrifon erbyn 30 Tachwedd 2023, a diolchodd i'r Swyddogion am gwblhau'r gwaith hwn mewn modd
mor amserol. Fodd bynnag,
mae Archwilio Cymru wedi hysbysu Cyngor Sir
Ceredigion na fyddent yn gallu cwrdd
â'r dyddiad cau hwn oherwydd
materion adnoddau. Derbyniwyd cytundeb llafar gan Archwilio Cymru i ddarparu gwybodaeth
cyn y cyfarfod a ail-drefnwyd i’r 6 Chwefror 2024. Ar hyn o bryd
mae Cyngor Sir Ceredigion yn
aros am gadarnhad ysgrifenedig gan Archwilio Cymru. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Nododd y Cadeirydd fod yr adroddiad hwn wedi'i gymeradwyo
gan y Cabinet ar 3 Hydref
2023, ac argymhellwyd felly bod yr eitem hon yn cael
ei thynnu yn ôl o agenda'r
Cyngor. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet dros Bartneriaethau,
Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Gwarchod y Cyhoedd yr adroddiad i'r Cyngor
gan nodi bod gan awdurdodau lleol rôl strategol i’w gweithredu o dan Ddeddf Tai
(Cymru) 2014 yn y ffordd y mae'r farchnad dai lleol yn gweithredu. Nododd fod y Strategaeth Tai Lleol presennol oedd yn gyfnod o 5 mlynedd
wedi bod ar waith ers 2018, ac yn dilyn adolygiad yn cynnwys Uwch Swyddogion a
phartneriaid, ymgynghori, casglu a dadansoddi data, datblygwyd y Strategaeth
Tai ddiwygiedig sy'n nodi'r weledigaeth am 5 mlynedd arall, gydag
ychwanegiadau. Nododd y Cynghorydd Caryl Roberts, Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a
Chraffu Cymunedau Iachach fod yr adroddiad wedi cael ei ystyried gan y Pwyllgor
yn ystod ei gyfarfod ym mis Mai 2023, a'i bod wedi’i argymell i'w gymeradwyo
gan y Cyngor. Diolchodd
y Cynghorydd Elizabeth Evans i'r Swyddogion am eu gwaith, gan nodi bod y data
sydd wedi'i gynnwys yn yr adroddiad yn ymwneud â'r rhai sy'n aros am dai yn ei
gwneud yn anodd iawn i’w ddarllen. Yn
dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD
cymeradwyo'r Strategaeth Tai i’w fabwysiadu. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gadawodd y Cynghorydd Bryan Davies y cyfarfod drwy gydol y
drafodaeth. Cadarnhaodd y Prif
Weithredwr, Eifion Evans fod y Cynghorydd Rhodri Evans eisoes wedi gadael y
cyfarfod cyn dechrau'r trafodaethau.
Arhosodd y Cynghorydd Gareth Davies yn Siambr y Cyngor gan nodi na
fyddai'n pleidleisio ar y mater hwn. Rhoddodd Cadeirydd y Cyngor amlinelliad o'r broses hyd yma, a gwahoddodd
y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet dros yr Economi ac Adfywio i
gyflwyno'r adroddiad i'r Cyngor. Nododd y Cynghorydd Clive Davies fod y Cyngor fel Awdurdod Cofrestru wedi
cyfarwyddo Aseswr Annibynnol i ystyried a yw'r athrawiaeth anghydnawsedd statudol yn atal
cofrestru'r Tir fel maes tref neu bentref.
Roedd yr Ymgynghorydd Annibynnol wedi darparu nodyn Arolygydd ym mis
Rhagfyr ynglŷn â'r weithdrefn, sydd wedi'i chynnwys yn atodiad 1. Darllenodd y
Cynghorydd Clive Davies rannau perthnasol Atodiad 1. Nododd y Cynghorydd Clive Davies hefyd fod
yr Ymgynghorydd Annibynnol yn darparu Adroddiad Arolygydd ar y mater
rhagarweiniol o anghydnawsedd statudol sydd wedi'i gynnwys yn Atodiad 2, gan
ddyfynnu paragraffau 20, a pharagraffau 24 - 27 o'r adroddiad. Nododd fod yn
rhaid i'r cais nawr gael ei ystyried gan y Cyngor (sy'n gweithredu fel yr
Awdurdod Cofrestru) i'w benderfynu. Nododd y Cynghorydd Keith Henson fod
'cydbwysedd tebygolrwydd' yn awgrymu y gallai hyn fod yn farn oddrychol ac y
gallai Bargyfreithiwr arall fod wedi dod i gasgliad gwahanol, gan nodi y byddai
am gael mwy o wybodaeth am hyn. Nododd y
Cadeirydd fod cydbwysedd tebygolrwydd yn brawf sifil, ac atgoffodd yr Aelodau y
gofynnir iddynt ystyried argymhelliad y Bargyfreithiwr ynghylch yr amddiffyniad
anghydnawsedd statudol. Dywedodd y Swyddog Monitro wrth yr Aelodau
bod cydbwysedd tebygolrwydd yn brawf sifil h.y. yn fwy tebygol na pheidio. Dywedodd hefyd wrth yr Aelodau fod y mater anghydnawsedd
statudol yn gwestiwn cyfreithiol. Mae hynny'n golygu na all aelodau ddod i
ddyfarniad gwahanol ar y ffeithiau yn gyfreithlon gan nad yw'n fater o
ddisgresiwn iddynt ganfod bod yr amddiffyniad anghydnawsedd statudol yn methu a
byddai angen iddynt allu egluro pam fod dadansoddiad cyfreithiol yr arolygydd
yn anghywir. Os mai'r argymhelliad yw ei fod yn methu a'ch bod yn pleidleisio
yn erbyn yr argymhelliad, mae'r broses hon wedyn wedi dod i ben, a byddai'n
agored i chi fel Awdurdod Cofrestru ofyn am gyngor ynghylch prosesau
gweithdrefnol ar gyfer y dyfodol. Yr
argymhelliad yw eich bod yn gwrthod, ond os nad ydych yn cytuno, nid yw'n
golygu nad yw'n cael ei ganiatáu, gan y byddai angen ymholiad cyhoeddus. Gofynnodd y Cynghorydd Gareth Lloyd am
eglurhad a oes proses apelio os caiff y cais ei wrthod; a oedd y tir lle cafodd
Hafan y Waun ei adeiladu hefyd yn ddarostyngedig i'r un cymal addysgol ac
felly'n creu cynsail; a beth yw goblygiadau ail-bwrpasu'r tir yn y Cynllun
Datblygu Lleol. Nododd y Cynghorydd Elizabeth Evans nad oedd y Cynghorydd John Roberts yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw, ond ei fod wedi cyflwyno sylw ysgrifenedig a ddarllenodd y Cynghorydd Elizabeth Evans ar ei ran. Nododd y datganiad ysgrifenedig fod y tir wedi'i gadw at ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10. |
|
Cadarnhau enwebiadau Cynrychiolwyr Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethu Ysgolion PDF 64 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd
Wyn Thomas, Aelod y Cabinet dros
Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau'r
adroddiad i'r Cyngor gan nodi bod y Cynghorydd Raymond
Evans wedi'i enwebu fel Llywodraethwr Awdurdod Lleol ar gais Ysgol Gynradd
Gymunedol Llanfarian. PENDERFYNWYD cadarnhau enwebiad y Cynghorydd Raymond Evans fel Llywodraethwr Awdurdod Lleol Ysgol Gynradd Gymunedol Llanfarian. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phobl a Threfniadaeth yr adroddiad i'r Cyngor gan nodi bod y protocol drafft wedi'i ddatblygu gyda chefnogaeth y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ac yn cynnwys gwybodaeth fel mynychu cyfarfodydd ac ymddygiad ar-lein, a'i fod yn cynnwys cynnig i ddarparu hyfforddiant i'r Aelodau. Nododd y Cynghorydd Elizabeth Evans fod y protocol wedi cael ei drafod yn gynhwysfawr yn y pwyllgor a bod pob aelod yn gefnogol i'r cynigion. Yn dilyn trafodaeth PENDERFYNWYD: a) Cymeradwyo’r protocol ar gyfer mynychu cyfarfodydd awdurdodau lleol aml-leoliad a darllediadau electronig o gyfarfodydd b) Nodwch fod y protocol hwn yn disodli’r protocol blaenorol. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd
y Cyngor a'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Democrataidd,
Polisi, Perfformiad a Phobl
a Threfniadaeth yr adroddiad
i'r Cyngor gan nodi bod y
mater hwn wedi cael ei ystyried
gan y Pwyllgor Gwasanaethau
Democrataidd a gofynnodd i'r
Cynghorydd Elizabeth Evans a oedd
yn dymuno gwneud sylw ar
yr adroddiad. Nododd
y Cynghorydd Elizabeth Evans, Cadeirydd
y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd fod y Pwyllgor Gwasanaethau
Democrataidd wedi ystyried
y cynnig i gynnal ymarfer peilot lle mae'r
Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a'r Pwyllgor Llywodraethu
ac Archwilio yn cael eu cynnal
o bell a'i argymell i'w gymeradwyo gan y Cyngor. Rhoddodd y Cynghorydd Gareth
Lloyd, Is-gadeirydd y Pwyllgor
Gwasanaethau Democrataidd sicrwydd mai ymarfer oedd
hwn ac nid penderfyniad terfynol. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD
yn unfrydol i gymeradwyo'r
cynllun peilot i gynnal y Pwyllgor
Gwasanaethau Democrataidd a'r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio drwy ddulliau o bell am gyfnod o 18 mis yn unig. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd
y Cyngor a'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Democrataidd,
Polisi, Perfformiad a Phobl
a Threfniadaeth yr adroddiad
i'r Cyngor gan nodi bod y
protocol wedi'i ddatblygu i adlewyrchu argymhellion
Canllawiau Statudol ac Anstatudol Llywodraeth Cymru ar gyfer Prif
Gynghorau Cymru.
Nododd fod y
protocol wedi cael ei ystyried gan
y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn ei gyfarfod
dyddiedig 9 Mehefin 2023 a chan Weithgor y Cyfansoddiad yn ystod ei gyfarfod
dyddiedig 26 Medi 2023. Nododd
y Cynghorydd Elizabeth Evans, Cadeirydd
y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd fod hwn yn
fecanwaith hynod bwysig i Gynghorwyr
godi materion lle maent yn
teimlo nad oes dewisiadau amgen a bod yr holl fecanweithiau eraill wedi methu. Nododd fod y Pwyllgor Gwasanaethau
Democrataidd yn argymell
bod y Cyngor yn cymeradwyo'r
protocol drafft i'w gynnwys yng Nghyfansoddiad
y Cyngor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD
yn unfrydol gymeradwyo'r
Protocol ar gyfer Galwad am Weithredu gan y Cynghorydd. |
|
Penodi Aelodau i'r rolau canlynol: Grŵp Tasg a Gorchwyl i ddilyn i
fyny ar Archwilio
Cymru - Cynllunio 7 Aelod (gwleidyddol gytbwys) · Cynghorydd Clive Davies · Cynghorydd Ceris Jones · Cynghorydd Chris James · Cynghorydd Gareth Lloyd · Cynghorydd Ifan Davies · Cynghorydd Elizabeth Evans · Cynghorydd Paul Hinge Cydbwyllgor y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a Maethu Cymru Cyrychiolydd Cyngor/Cabinet: Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet ar gyfer Llesiant Gydol Oes Bwrdd Llywio Dinas Llên Cynrychiolydd o’r Cabinet: Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid Cydbwyllgor Corfforaethol: Is Bwyllgor Safonnau 2 Aelod o’r Pwyllgor (un Cynghorydd ac un Aelod Lleyg) Cynghorydd Gwyn Wigley Evans (Cynghorydd) Carol Edwards (Aelod lleyg) Cofnodion: PENDERFYNWYD penodi Aelodau i'r rolau canlynol: Grŵp
Gorchwyl a Gorffen dilynol Cynllunio Archwilio Cymru 7 Aelod (yn wleidyddol gytbwys) ·
Y Cynghorydd Clive
Davies ·
Y Cynghorydd Ceris
Jones ·
Y Cynghorydd Chris
James ·
Y Cynghorydd Gareth
Lloyd ·
Y Cynghorydd Ifan
Davies ·
Y Cynghorydd Elizabeth
Evans ·
Y Cynghorydd Paul
Hinge Cyd-bwyllgor
Gwasanaeth Cenedlaethol Mabwysiadu a Maethu Cymru Cynrychiolydd y Cyngor/Cabinet: y Cynghorydd
Alun Williams, Aelod Cabinet ar
gyfer Llesiant Gydol Oes Bwrdd
Llywio Dinas Llên Cynrychiolydd
y Cabinet: y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet ar gyfer Diwylliant, Hamdden a Gwasanaeth Cwsmer Cyd-bwyllgor
Corfforaethol: Safonau 2 Aelod o’r Pwyllgor (un Cynghorydd ac yn Aelod lleyg) Y Cynghorydd Gwyn Wigley Evans (Cynghorydd) Carol Edwards (Aelod Lleyg) |