Cofnodion:
Gadawodd y Cynghorydd Bryan Davies y cyfarfod drwy gydol y
drafodaeth. Cadarnhaodd y Prif
Weithredwr, Eifion Evans fod y Cynghorydd Rhodri Evans eisoes wedi gadael y
cyfarfod cyn dechrau'r trafodaethau.
Arhosodd y Cynghorydd Gareth Davies yn Siambr y Cyngor gan nodi na
fyddai'n pleidleisio ar y mater hwn.
Rhoddodd Cadeirydd y Cyngor amlinelliad o'r broses hyd yma, a gwahoddodd
y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet dros yr Economi ac Adfywio i
gyflwyno'r adroddiad i'r Cyngor.
Nododd y Cynghorydd Clive Davies fod y Cyngor fel Awdurdod Cofrestru wedi
cyfarwyddo Aseswr Annibynnol i ystyried a yw'r athrawiaeth anghydnawsedd statudol yn atal
cofrestru'r Tir fel maes tref neu bentref.
Roedd yr Ymgynghorydd Annibynnol wedi darparu nodyn Arolygydd ym mis
Rhagfyr ynglŷn â'r weithdrefn, sydd wedi'i chynnwys yn atodiad 1.
Darllenodd y
Cynghorydd Clive Davies rannau perthnasol Atodiad 1.
Nododd y Cynghorydd Clive Davies hefyd fod
yr Ymgynghorydd Annibynnol yn darparu Adroddiad Arolygydd ar y mater
rhagarweiniol o anghydnawsedd statudol sydd wedi'i gynnwys yn Atodiad 2, gan
ddyfynnu paragraffau 20, a pharagraffau 24 - 27 o'r adroddiad. Nododd fod yn
rhaid i'r cais nawr gael ei ystyried gan y Cyngor (sy'n gweithredu fel yr
Awdurdod Cofrestru) i'w benderfynu.
Nododd y Cynghorydd Keith Henson fod
'cydbwysedd tebygolrwydd' yn awgrymu y gallai hyn fod yn farn oddrychol ac y
gallai Bargyfreithiwr arall fod wedi dod i gasgliad gwahanol, gan nodi y byddai
am gael mwy o wybodaeth am hyn. Nododd y
Cadeirydd fod cydbwysedd tebygolrwydd yn brawf sifil, ac atgoffodd yr Aelodau y
gofynnir iddynt ystyried argymhelliad y Bargyfreithiwr ynghylch yr amddiffyniad
anghydnawsedd statudol.
Dywedodd y Swyddog Monitro wrth yr Aelodau
bod cydbwysedd tebygolrwydd yn brawf sifil h.y. yn fwy tebygol na pheidio. Dywedodd hefyd wrth yr Aelodau fod y mater anghydnawsedd
statudol yn gwestiwn cyfreithiol. Mae hynny'n golygu na all aelodau ddod i
ddyfarniad gwahanol ar y ffeithiau yn gyfreithlon gan nad yw'n fater o
ddisgresiwn iddynt ganfod bod yr amddiffyniad anghydnawsedd statudol yn methu a
byddai angen iddynt allu egluro pam fod dadansoddiad cyfreithiol yr arolygydd
yn anghywir. Os mai'r argymhelliad yw ei fod yn methu a'ch bod yn pleidleisio
yn erbyn yr argymhelliad, mae'r broses hon wedyn wedi dod i ben, a byddai'n
agored i chi fel Awdurdod Cofrestru ofyn am gyngor ynghylch prosesau
gweithdrefnol ar gyfer y dyfodol. Yr
argymhelliad yw eich bod yn gwrthod, ond os nad ydych yn cytuno, nid yw'n
golygu nad yw'n cael ei ganiatáu, gan y byddai angen ymholiad cyhoeddus.
Gofynnodd y Cynghorydd Gareth Lloyd am
eglurhad a oes proses apelio os caiff y cais ei wrthod; a oedd y tir lle cafodd
Hafan y Waun ei adeiladu hefyd yn ddarostyngedig i'r un cymal addysgol ac
felly'n creu cynsail; a beth yw goblygiadau ail-bwrpasu'r tir yn y Cynllun
Datblygu Lleol.
Nododd y Cynghorydd Elizabeth Evans nad oedd
y Cynghorydd John Roberts yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw, ond
ei fod wedi cyflwyno sylw ysgrifenedig a ddarllenodd y Cynghorydd Elizabeth
Evans ar ei ran. Nododd y datganiad
ysgrifenedig fod y tir wedi'i gadw at ddibenion addysg; fodd bynnag,
penderfynwyd adeiladu ysgol newydd Ysgol Ardwyn mewn mannau eraill. Yn y cyfamser, roedd y defnydd o'r tir wedi
newid yn gynyddrannol ac nid yw'n debyg i'w ddiben gwreiddiol mwyach.
Nododd y Cynghorydd Gareth Davies nad oedd
cymal addysgol ar y tir pan gafodd ei brynu i ddechrau, ac yn ystod cyfarfod a
gynhaliwyd ar 12 Mehefin 1985, penderfynodd Cyngor Sir Dyfed brydlesu'r tir yn
Erw Goch i Gyngor Dosbarth Ceredigion i'w ddefnyddio fel caeau chwarae
cymunedol. Nododd fod trigolion wedi
defnyddio rhan o'r tir ar gyfer pêl-droed a bod cystadleuaeth Tarian Waun yn
arfer cael ei chynnal yno flynyddoedd lawer yn ôl. Dywedodd fod yr elfen o bwrpas addysgol wedi
do di ben flynyddoedd yn ôl, ond nid yw adroddiad y Bargyfreithiwr yn rhoi
unrhyw ystyriaeth i hyn. Nododd hefyd y
gwerth a roddwyd gan Bolisi Cynllunio Cymru mewn perthynas â mannau gwyrdd.
Cynigiodd y Cynghorydd Matthew Vaux
bleidlais. Cafodd hyn ei eilio gan y
Cynghorydd Paul Hinge a chytunwyd yn unfrydol.
Cynhaliwyd
pleidlais a gofnodwyd, fel y cytunwyd ac yn unol â Rheol 14.5 o Reolau
Gweithdrefn y Cyngor a gynhwysir yng Nghyfansoddiad y Cyngor.
O blaid:
Neb (0)
Yn erbyn:
Clive Davies, Euros Davies, Gethin Davies, Ifan Davies, Marc Davies, Meirion Davies,
Rhodri Davies, Amanda Edwards, Endaf Edwards, Elizabeth Evans, Eryl Evans, Gwyn
Wigley Evans, Raymond Evans, Wyn Evans, Keith Henson, Paul Hinge, Hugh Hughes,
Gwyn James, Gareth Lloyd, Sian Maehrlein, Ann Bowen Morgan, Caryl Roberts, Mark
Strong, Wyn Thomas, Matthew Vaux, Alun Williams, Carl Worrall a Maldwyn Lewis
(28)
Atal:
Neb (0)
Yn unol â hynny, nid yw’r argymhelliad yn pasio.
Dogfennau ategol: