Cyswllt: Nia Jones
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cod Ymddygiad Cynghorydd Ann Bowen Morgan Cofnodion: Anerchodd Elin Prysor, Swyddog Monitro, y Cyngor ynglŷn â’r gofyniad
statudol i bob Aelod wneud Datganiad o Dderbyn ac ymrwymiad i gydymffurfio â’r Cod
Ymddygiad, gan gadarnhau bod y Cynghorydd Ann Bowen Morgan, sy’n gwneud y
Datganiad statudol o Dderbyn y Swydd heddiw, wedi cael hyfforddiant cynhwysfawr
ar God Ymddygiad y Cyngor ddydd Llun Hydref 10fed 2022. Mae hyn er mwyn i Aelodau gyflawni eu swyddogaethau
gyda dealltwriaeth o Egwyddorion Bywyd Cyhoeddus, eu dyletswyddau a’u
cyfrifoldebau o dan y cod, a hefyd y canlyniadau am fethu â gwneud hynny. |
|||||||||||||||||||
Datganiad o Dderbyn y Swydd ac Ymrwymiad i gydymffurfio â'r Cod Ymddygiad Cofnodion: Derbyniodd y Cynghorydd Ann Bowen Morgan ar lafar y
Datganiad o Dderbyn y Swydd a'r ymrwymiad i gydymffurfio â'r Cod Ymddygiad a
gafodd ei lofnodi a'i gydlofnodi gan y Swyddog Priodol. Estynnodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Ifan Davies, ac
Arweinwyr y Grwpiau y Cynghorwyr Bryan Davies, Gareth Lloyd ac Elizabeth Evans
eu croeso iddi. |
|||||||||||||||||||
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorwyr Endaf Edwards a Sian Maehrlein
am eu hanallu i fynychu'r cyfarfod. Ymddiheurodd James Starbuck, Cyfarwyddwr Corfforaethol am
ei anallu i fynychu'r cyfarfod. |
|||||||||||||||||||
Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu Cofnodion: Datganodd y Cynghorwyr Bryan Davies, Gareth Davies a
Rhodri Evans fuddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu mewn perthynas â
chofnod 9 isod ac aethant allan o'r cyfarfod yn ystod y trafodaethau. |
|||||||||||||||||||
Materion Personol Cofnodion: a) Llongyfarchodd y Cynghorydd Ifan Davies Geredigion,
y Cyngor a’i Swyddogion am eu holl waith caled yn sicrhau bod yr Eisteddfod yn llwyddiant
ysgubol, gan nodi’r ganmoliaeth enfawr a gafwyd i Bentref Ceredigion a’r 200 a
rhagor o weithgareddau a drefnwyd yn ystod yr wythnos. Talodd deyrnged i Gyngor
Tref Tregaron a phawb a fu’n ymwneud ag addurno eu trefi a’u pentrefi i
groesawu pawb i Geredigion. Ategwyd ei eiriau gan Arweinydd y Cyngor, y
Cynghorydd Bryan Davies ac Arweinwyr y Grwpiau y Cynghorwyr Gareth Lloyd ac
Elizabeth Evans; b) Llongyfarchodd y Cynghorydd Ifan Davies Rali
Bae Ceredigion, a oedd wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Ategwyd hyn gan y
Cynghorydd Bryan Davies a bwysleisiodd bwysigrwydd digwyddiadau o’r fath i
ddatblygiad economaidd Ceredigion; c) Croesawodd y Cynghorydd Bryan Davies y Cynghorydd
Mark Strong yn ôl i'w gyfarfod cyntaf o'r Cyngor yn dilyn cyfnod o absenoldeb
salwch; d) Llongyfarchodd y Cynghorydd
Marc Davies Mrs Elizabeth Edwards o Giliau Aeron ar ddathlu ei phen-blwydd yn
100 oed; e) Llongyfarchodd y Cynghorydd Marc Davies Josh Tarling ar ennill Medal Aur ym Mhencampwriaeth Treial Amser
y Byd dan 21 a gynhaliwyd yn Awstralia ar 21 Medi eleni; f) Llongyfarchodd y Cynghorydd Ceris Jones Gerwyn,
Glenys, Andrew, Ann a Gwenan Owen o Ddihewyd am ennill y safle cyntaf drwy
Brydain gyda ‘First Milk’ am ansawdd eu llaeth; g) Llongyfarchodd y Cynghorydd Ceris Jones Anni Grug Lewis-Hughes ar ennill gradd rhagoriaeth mewn
arholiad tapddawnsio yn ddiweddar; h) Estynnwyd llongyfarchiadau’r Cynghorydd Euros
Davies, a ddarllenwyd gan y Cynghorydd Ifan Davies, i Esyllt Ellis-Griffiths ar
gael ei dewis yn Llysgennad Sioe Frenhinol Cymru yn 2024, gan nodi bod cinio i
lansio Sioe 2024 a noddir gan Geredigion wedi’i gynnal yn ddiweddar; i) Llongyfarchodd y Cynghorydd Gareth Davies Tomi
Morgan a ddaeth ymlaen fel eilydd yn 65 oed yn ystod ail hanner gêm bêl-droed
gan sgorio tair gôl o fewn 11 munud i CPD Penparcau; j) Llongyfarchodd y Cynghorydd Rhodri Evans Llanddewi
Brefi am ennill y pentref addurnedig gorau ar gyfer yr Eisteddfod; k) Llongyfarchodd y Cynghorydd Gwyn Wigley Evans Glwb
Ffermwyr Ifanc Llangwyryfon ar ennill y Diwrnod Maes am yr 8fed tro. l) Llongyfarchodd y Cynghorydd Keith Henson Sioned
Harries, sy’n chwarae rhif 8 i Dîm Rygbi Merched Cymru, gan nodi y bydd yn
chwarae yn erbyn Awstralia yn ystod oriau mân dydd Sadwrn; m) Llongyfarchodd y Cynghorydd Carl Worrall Helen Pearce o Bow Street a Pamela
Worrall o Benparcau ar gael eu dewis ar gyfer y
pencampwriaethau pysgota genweirio môr rhyngwladol yn Nhiwnisia
eleni; n) Llongyfarchodd y Cynghorydd Matthew Vaux Sefydliad
y Merched Cross-Inn ar ddathlu 100 mlynedd; o) Llongyfarchodd y Cynghorydd Eryl Evans David Davies
o Silian ar gael ei ddewis yn Llywydd y Gymdeithas Tir Glas; p) Llongyfarchodd y Cynghorydd Hugh Hughes Ronnie Davies sydd wedi ymddeol ar ôl 30 mlynedd fel Rheolwr
Bad Achub y Borth, a 56 mlynedd o wasanaeth i Fad Achub y Borth a’r RNLI; q) Llongyfarchodd y Cynghorydd Hugh Hughes Pete Davies sydd wedi ymddeol yn dilyn 40 mlynedd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau fel cofnod cywir Gofnodion
cyfarfodydd y Cyngor a gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2022 ac 8 Gorffennaf 2022 a
Chyfarfod Arbennig y Cyngor a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf 2022, yn amodol ar y
newidiadau a ganlyn: a) Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Cyngor ar 8 Gorffennaf
2022 ar Faes y Pentref gan y Cynghorydd Clive Davies, nid y Cynghorydd Bryan
Davies; b) Nodi y dylai eitem z, Mater Personol ar gyfer
cyfarfod y Cyngor yn dwyn dyddiad 3 Mawrth 2022 ddarllen Griff
Lewis nid Gruff Lewis. |
|||||||||||||||||||
Apwyntio Aelodau i'r rolau canlynol:
Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r enwebiadau a'r penodiadau canlynol o
Aelodau:
|
|||||||||||||||||||
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorwyr Wyn Thomas a Bryan Davies yr adroddiad i’r
Cyngor gan nodi bod y Cynghorydd Ann Bowen Morgan wedi’i henwebu fel
cynrychiolydd yr Awdurdod Lleol ar Gorff Llywodraethu Ysgol Bro Pedr, a bod y
Cynghorydd Wyn Thomas wedi’i enwebu fel cynrychiolydd yr Awdurdod Lleol ar
Fwrdd Rheoli'r Uned Cyfeirio Disgyblion. PENDERFYNWYD yn unfrydol cadarnhau’r Cynghorydd Ann Bowen
Morgan fel cynrychiolydd yr Awdurdod Lleol ar Gorff Llywodraethu Ysgol Bro
Pedr, a’r Cynghorydd Wyn Thomas fel cynrychiolydd yr Awdurdod Lleol ar Fwrdd
Rheoli’r Uned Cyfeirio Disgyblion. |
|||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Clive Davies yr adroddiad i'r
Cyngor gan nodi y cyflwynwyd adroddiad blaenorol i'r Cyngor ar 8 Gorffennaf
2002 yn rhoi cefndir cais i Gofrestru Tir ar gyfer Maes Pentref ar gae Erw Goch
yn gyfagos i Hafan y Waun, Waunfawr, Aberystwyth. Yn ystod y cyfarfod
penderfynwyd gorchymyn Bargyfreithiwr i weithredu fel asesydd annibynnol.
Mae'r adroddiad a gyflwynwyd i'r Cyngor heddiw yn cynnwys adroddiad cychwynnol
a gynhyrchwyd gan Katherine Barnes, Bargyfreithiwr sy'n amlinellu'r ffordd o
weithredu a gynigir gan yr Asesydd Annibynnol. Nododd yr aelodau eu siom na fu dim trafodaeth nac
ymdrechion i gyfryngu gydag ymgeiswyr. Nodwyd
ei bod er budd trigolion a’r cyhoedd i sicrhau bod y broses gywir yn cael ei
dilyn o’r cychwyn cyntaf ac i beidio â rhagfarnu penderfyniadau yn y dyfodol
heb gyngor annibynnol gan Fargyfreithiwr. Eglurwyd bod rôl Ceredigion fel
tirfeddiannwr a chorff gwneud penderfyniadau yn gwbl ar wahân a bod rolau
Swyddogion hefyd yn cael eu gwahanu er mwyn sicrhau bod prosesau yn deg ac yn
dryloyw. Nodwyd taw mater i’r Tirfeddiannwr / cynrychiolwyr
cyfreithiol fyddai ystyried trafodaethau gyda’r gymuned. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD: (a) Awdurdodi’r
bargyfreithiwr fel yr asesydd annibynnol i ystyried fel mater rhagarweiniol, a
thrwy sylwadau ysgrifenedig (oni bai bod y bargyfreithiwr wedi hynny yn
ystyried y byddai gwrandawiad neu ymchwiliad yn fwy priodol), a yw'r athrawiaeth
o anghydnawsedd statudol yn atal cofrestru'r Tir yn
Faes Tref neu Bentref; (b) Awdurdodi’r
bargyfreithiwr fel yr asesydd annibynnol i ysgrifennu adroddiad yn amlinellu ei
hargymhelliad ynghylch a yw amddiffyniad anghydnawsedd
statudol y Tirfeddiannwr yn llwyddo. Mae'r adroddiad i'w rannu â'r pleidiau, a
bydd ar gael i'r cyhoedd; (c) Os
yw adroddiad y bargyfreithiwr fel yr asesydd annibynnol y cyfeirir ato yn (b)
yn cynghori bod amddiffyniad yr anghydnawsedd
statudol yn llwyddo, i’r graddau mai’r argymhelliad a wneir i’r Awdurdod
Cofrestru yw na ddylai gofrestru’r Tir fel Maes Tref neu Bentref, y bydd y Cais
bryd hynny yn cael ei ystyried gan yr Awdurdod Cofrestru ar gyfer penderfyniad; (d) Os
bydd adroddiad y bargyfreithiwr fel yr asesydd annibynnol y cyfeirir ato yn (b)
yn cynghori bod amddiffyniad yr anghydnawsedd
statudol yn methu, bydd yn mynd ymlaen i gynnal ymchwiliad cyhoeddus i
archwilio’r materion sy’n weddill. (e) Yn
dilyn yr ymchwiliad cyhoeddus, bydd y bargyfreithiwr fel yr asesydd annibynnol
yn rhoi adroddiad i'r Awdurdod Cofrestru sy'n amlinellu ei dadansoddiad o'r
dystiolaeth a'r argymhelliad ynghylch a ddylai'r Tir gael ei gofrestru fel Maes
Tref neu Bentref. Bydd y Cais wedyn yn cael ei ystyried gan yr Awdurdod
Cofrestru ar gyfer penderfyniad. |
|||||||||||||||||||
Adroddiad ar recriwtio person Lleyg/Annibynnol i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Matthew Vaux yr adroddiad i’r
Cyngor yn nodi’r gofyniad statudol yn unol â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau
(Cymru) mewn perthynas â’r broses recriwtio aelodau lleyg. Nodwyd bod un
o'r Aelodau Lleyg / Annibynnol wedi ymddiswyddo a bod angen penodi un aelod yn
ei le. Nodwyd bod angen i'r Cyngor gymeradwyo aelodaeth o Banel Dethol
Rhoi ar Restr Fer ac argymhellodd fod y Panel yn cynnwys Cadeirydd y Cyngor neu
Is-gadeirydd y Cyngor; Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, yr
Is-gadeirydd neu aelod annibynnol arall o'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio;
aelod o'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio sy'n Gynghorydd ac aelod lleyg
annibynnol o'r gymuned, i'w enwebu gan y Swyddog Monitro. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro, Elin Prysor fod yr Athro John
Williams, ers cyflwyno’r adroddiad, wedi cytuno i fod yn gynrychiolydd allanol
o’r Panel. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD: 1. cymeradwyo cychwyn y broses recriwtio ar gyfer un
aelod annibynnol / aelod lleyg (newydd) i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, 2. cymeradwyo’r cynigion ar gyfer y Panel Dethol Rhoi
ar Restr Fer, 3. cymeradwyo’r Disgrifiad o’r Rôl a Manyleb y Person (Atodiad A), 4. nodi'r angen i benodi Is-gadeirydd newydd i'r
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. |
|||||||||||||||||||
Adroddiad ar recriwtio Aelod Lleyg/Annibynnol i'r Pwyllgor Moeseg a Safonau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Matthew Vaux adroddiad i’r Cyngor
yn nodi y bydd cyfnod y Cadeirydd presennol yn y swydd, Mrs Caroline White yn dod
i ben ar 29 Gorffennaf 2023 a’i bod bellach yn angenrheidiol recriwtio aelod
annibynnol newydd i’r Pwyllgor Moeseg a Safonau fel yr amlinellir yn Rheoliadau
Pwyllgor Safonau (Cymru) 2001. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo: 1) y disgrifiad
o’r rôl, manyleb y person a’r meini prawf (fel yr amlinellir yn Atodiad 1) 2) Aelodaeth
y Panel Dethol fel a ganlyn: ·
Cadeirydd y Cyngor (Is-gadeirydd yn ei absenoldeb); ·
Aelod Annibynnol/Lleyg o’r Panel (wedi’i enwebu gan y Swyddog Monitro) ·
Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Moeseg a Safonau (neu aelodau
annibynnol eraill a enwebir gan y Swyddog Monitro yn ôl yr angen) ·
Cynrychiolydd Cynghorau Tref a Chymuned wedi'i enwebu gan Un Llais
Cymru. |
|||||||||||||||||||
Adroddiad ar Ganllaw'r Cyfansoddiad a newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd
Matthew Vaux yr adroddiad i’r Cyngor, gan nodi bod y Canllaw i’r Cyfansoddiad a’r
diwygiadau arfaethedig wedi’u hystyried gan Weithgor y Cyfansoddiad yn ei
gyfarfodydd yn dwyn dyddiad Medi 12fed 2022. Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD: 1. Cymeradwyo'r Canllaw i’r Cyfansoddiad fel y'i
diwygiwyd (yn Atodiad 1); 2. Cymeradwyo'r newidiadau i’r Cyfansoddiad (yn
Atodiadau 2-11); a 3. Awdurdodi’r Swyddog Monitro i ddiweddaru
Cyfansoddiad y Cyngor i adlewyrchu’r newidiadau uchod. |
|||||||||||||||||||
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Elizabeth Evans, Cadeirydd
presennol Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad ar ran Ceredig
Davies, Cadeirydd y Pwyllgor am y 5 mlynedd blaenorol. Nododd ei bod wedi
siarad â Ceredig Davies a’i fod wedi mynegi ei ddiolch i Dîm y Gwasanaethau
Democrataidd am eu cefnogaeth. Cyfeiriodd y Cynghorydd Elizabeth Evans at waith y
pwyllgor, a thynnodd sylw at y cylch gorchwyl, gan ofyn i Aelodau gyflwyno
unrhyw eitemau y dymunant eu trafod i’r Pwyllgor eu hystyried. Nodwyd cynnwys yr adroddiad gan y Cyngor. |
|||||||||||||||||||
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Moeseg a Safonau Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Matthew Vaux yr adroddiad i’r
Cyngor gan nodi nad oedd Cadeirydd y Pwyllgor yn gallu bod yn bresennol
oherwydd bod y cyfarfod blaenorol wedi’i ganslo yn ystod y cyfnod o alaru am y
Frenhines Elizabeth II. Nodwyd bod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)
2021 yn mynnu bod adran ychwanegol yn cael ei chynnwys yn yr adroddiad sy'n
ymwneud â rôl Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol. Nid yw hyn yn berthnasol i'r
adroddiad hwn; fodd bynnag, mae'r Pwyllgor yn gweithio tuag at y gofyniad hwn
ar gyfer adroddiad 2022-23. Nododd y Swyddog Monitro, Elin Prysor fod y Pwyllgor wedi
cymeradwyo 16 cais am ollyngiad ac wedi gwrthod 1. O'r rheini, cyflwynwyd
8 gan Aelodau o Gyngor Sir Ceredigion a 9 gan Aelodau Cynghorau Tref a
Chymuned. Yn ystod y flwyddyn mae'r Pwyllgor hefyd wedi bod yn ymwneud â
datblygu Gweithdrefnau Gwrandawiadau a recriwtio. Nodwyd cynnwys yr adroddiad gan y Cyngor. |
|||||||||||||||||||
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies yr adroddiad i'r
Cyngor ac fe wnaeth gydnabod cyfraniad Sian Howys, Swyddog Arweiniol
Corfforaethol Porth Cynnal a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ar hyn o
bryd a dymuna'n dda iddi ar ei hymddeoliad. Nodwyd oherwydd y gofyniad statudol i benodi
Gweithiwr Cymdeithasol cymwys a phrofiadol i’r rôl hon, bod bwriad i benodi
Swyddog Arweiniol Corfforaethol - Porth Cynnal dros dro am 6 mis drwy
asiantaeth recriwtio wedi’i dderbyn gan Arweinydd y Cyngor ynghyd â dau
Arweinydd Grwpiau’r Gwrthbleidiau. Ar 3 Hydref 2022 bu Panel o dan gadeiryddiaeth y
Cynghorydd Bryan Davies yn cyfweld â Ms Audrey Somerton-Edwards a phenderfynodd gyflogi ei gwasanaethau am
gyfnod o 6 mis tra bod ymarfer recriwtio helaeth yn cael ei gynnal. Nodwyd cynnwys yr adroddiad gan y Cyngor. |
|||||||||||||||||||
Atodiad B sy'n berthnasol i'r adroddiad uchod (EITHRIEDIG) Nid yw’r adroddiad (Atodiad B) ar yr eitem hwn ar gael i'w gyhoeddi gan ei
fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym mharagraff 12 a 14 o
ran 4 o atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan
Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007. Os
bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, yn unol ag Adran
100B(2) y Ddeddf ac ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd a’r wasg
eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno. Cofnodion: Penderfynwyd peidio â chau’r cyhoedd a’r wasg allan o’r
cyfarfod gan na thrafodwyd y ddogfen yn gyhoeddus. |