Eitem Agenda

Materion Personol

Cofnodion:

a)    Llongyfarchodd y Cynghorydd Ifan Davies Geredigion, y Cyngor a’i Swyddogion am eu holl waith caled yn sicrhau bod yr Eisteddfod yn llwyddiant ysgubol, gan nodi’r ganmoliaeth enfawr a gafwyd i Bentref Ceredigion a’r 200 a rhagor o weithgareddau a drefnwyd yn ystod yr wythnos. Talodd deyrnged i Gyngor Tref Tregaron a phawb a fu’n ymwneud ag addurno eu trefi a’u pentrefi i groesawu pawb i Geredigion. Ategwyd ei eiriau gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies ac Arweinwyr y Grwpiau y Cynghorwyr Gareth Lloyd ac Elizabeth Evans;

b)     Llongyfarchodd y Cynghorydd Ifan Davies Rali Bae Ceredigion, a oedd wedi bod yn llwyddiant ysgubol.  Ategwyd hyn gan y Cynghorydd Bryan Davies a bwysleisiodd bwysigrwydd digwyddiadau o’r fath i ddatblygiad economaidd Ceredigion;

c)    Croesawodd y Cynghorydd Bryan Davies y Cynghorydd Mark Strong yn ôl i'w gyfarfod cyntaf o'r Cyngor yn dilyn cyfnod o absenoldeb salwch;

d)    Llongyfarchodd y Cynghorydd Marc Davies Mrs Elizabeth Edwards o Giliau Aeron ar ddathlu ei phen-blwydd yn 100 oed;

e)    Llongyfarchodd y Cynghorydd Marc Davies Josh Tarling ar ennill Medal Aur ym Mhencampwriaeth Treial Amser y Byd dan 21 a gynhaliwyd yn Awstralia ar 21 Medi eleni;

f)      Llongyfarchodd y Cynghorydd Ceris Jones Gerwyn, Glenys, Andrew, Ann a Gwenan Owen o Ddihewyd am ennill y safle cyntaf drwy Brydain gyda ‘First Milk’ am ansawdd eu llaeth;

g)    Llongyfarchodd y Cynghorydd Ceris Jones Anni Grug Lewis-Hughes ar ennill gradd rhagoriaeth mewn arholiad tapddawnsio yn ddiweddar;

h)    Estynnwyd llongyfarchiadau’r Cynghorydd Euros Davies, a ddarllenwyd gan y Cynghorydd Ifan Davies, i Esyllt Ellis-Griffiths ar gael ei dewis yn Llysgennad Sioe Frenhinol Cymru yn 2024, gan nodi bod cinio i lansio Sioe 2024 a noddir gan Geredigion wedi’i gynnal yn ddiweddar;

i)      Llongyfarchodd y Cynghorydd Gareth Davies Tomi Morgan a ddaeth ymlaen fel eilydd yn 65 oed yn ystod ail hanner gêm bêl-droed gan sgorio tair gôl o fewn 11 munud i CPD Penparcau;

j)      Llongyfarchodd y Cynghorydd Rhodri Evans Llanddewi Brefi am ennill y pentref addurnedig gorau ar gyfer yr Eisteddfod;

k)    Llongyfarchodd y Cynghorydd Gwyn Wigley Evans Glwb Ffermwyr Ifanc Llangwyryfon ar ennill y Diwrnod Maes am yr 8fed tro.

l)      Llongyfarchodd y Cynghorydd Keith Henson Sioned Harries, sy’n chwarae rhif 8 i Dîm Rygbi Merched Cymru, gan nodi y bydd yn chwarae yn erbyn Awstralia yn ystod oriau mân dydd Sadwrn;

m)  Llongyfarchodd y Cynghorydd Carl Worrall Helen Pearce o Bow Street a Pamela Worrall o Benparcau ar gael eu dewis ar gyfer y pencampwriaethau pysgota genweirio môr rhyngwladol yn Nhiwnisia eleni;

n)    Llongyfarchodd y Cynghorydd Matthew Vaux Sefydliad y Merched Cross-Inn ar ddathlu 100 mlynedd;

o)    Llongyfarchodd y Cynghorydd Eryl Evans David Davies o Silian ar gael ei ddewis yn Llywydd y Gymdeithas Tir Glas;

p)    Llongyfarchodd y Cynghorydd Hugh Hughes Ronnie Davies sydd wedi ymddeol ar ôl 30 mlynedd fel Rheolwr Bad Achub y Borth, a 56 mlynedd o wasanaeth i Fad Achub y Borth a’r RNLI;

q)    Llongyfarchodd y Cynghorydd Hugh Hughes Pete Davies sydd wedi ymddeol yn dilyn 40 mlynedd o wasanaeth ar fad achub RNLI y Borth;

r)     Llongyfarchodd y Cynghorydd Hugh Hughes yr Athro Alun Hubbard o’r Borth a ymddangosodd yn ddiweddar ar ‘Frozen Planet 2’ am y gefnogaeth barhaus hon i’r ddadl ar y newid yn yr hinsawdd;

s)    Diolchodd y Cynghorydd Wyn Evans i Geraint Lloyd am ei wasanaeth i Radio Cymru, gan nodi y bydd colled ar ei ôl.