Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Neris Morgans
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: |
|
Materion Personol Cofnodion: i.
Diolchwyd i'r staff am eu hymdrechion i helpu pawb yr
effeithiwyd arnynt gan y tywydd gwael yn ystod yr wythnosau diwethaf. ii.
Estynnwyd llongyfarchiadau i Stevie
Williams ar ei lwyddiant yn y ‘Tour Down Under’ yn Awstralia. iii. Estynnwyd llongyfarchiadau hefyd
i'r Dr Rhodri Llwyd Morgan ar ei benodiad yn Brif Weithredwr Llyfrgell
Genedlaethol Cymru. iv.
Estynnwyd y dymuniadau gorau i Sulwyn Jones, Gweithiwr
Amgylcheddol ar ei ymddeoliad yn dilyn 44 mlynedd o wasanaeth i'r awdurdod
lleol. |
|
Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu Cofnodion: |
|
Cofnodion: Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod Arbennig y Cabinet a gynhaliwyd ar 21
Rhagfyr 2023 yn gywir. Materion yn codi: Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion. |
|
Unrhyw ddeisebau a dderbyniwyd Cofnodion: Dim. |
|
Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Cofnodion: Dim. |
|
Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1.
Nodi bod y codiad arfaethedig yn ardoll Awdurdod Tân Canolbarth a
Gorllewin Cymru yn debygol o olygu pwysau costau o £497k ar Gyllideb 24/25 y
Cyngor (sy’n cyfateb i gynnydd o oddeutu 1.1% yn Nhreth y Cyngor ar gyfer
trigolion Ceredigion). 2.
Cynnig y Cabinet parthed Premiymau Treth y Cyngor yw: a)
O 01/04/24 ymlaen, y bydd 25% o’r holl arian a godir o bremiymau Treth y
Cyngor ar Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor (net ar ôl ad-daliadau/ costau
Treth y Cyngor) yn cael ei neilltuo a’i ddefnyddio i gefnogi’r Cynllun Tai
Cymunedol, ar yr amod na fydd lefel y cyllid sy’n cael ei ddal yn y Cynllun Tai
Cymunedol yn mynd y tu hwnt i £2.0m, a bod unrhyw gyllid y tu hwnt i hyn mewn
blwyddyn benodol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r gyllideb gyffredinol. b)
O 01/04/24 ymlaen, y bydd 75% o’r holl arian a godir o bremiymau Treth y
Cyngor ar Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor (net ar ôl ad-daliadau/ costau
Treth y Cyngor) yn cael ei gadw a’i ddefnyddio i gefnogi’r gyllideb
gyffredinol, er mwyn lleihau baich Treth y Cyngor ar drigolion Ceredigion. 3.
Nodi mai Gofyniad Cyllideb ddrafft 24/25 ar hyn o bryd yw £192.470m. 4.
Nodi y byddai Gofyniad Cyllideb drafft 24/25 yn arwain at gynnydd yn
Nhreth y Cyngor (o ran cyfran Cyngor Sir Ceredigion) o £4.15 yr wythnos (£17.99
y mis) ar gyfer eiddo Band D. 5.
Pan gyhoeddir Setliad Terfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 24/25: a) Bod gwerth unrhyw grantiau
penodol pellach a drosglwyddir i’r Grant Cynnal Refeniw yn cael eu cyfeirio i
gyllideb y Gwasanaeth perthnasol, lle bo hynny’n briodol. b) Y dylai unrhyw newidiadau
penodol eraill dargedu’r Gwasanaeth(au) sy’n cael eu
heffeithio yn uniongyrchol, pan fo hynny’n briodol. c) Y rhoddir sylw i unrhyw newid
arall i’r AEF drwy wneud addasiad i gyllideb y Grŵp Arweiniol. 6. Nodi y byddai’r Strategaeth
Ariannol Tymor Canolig yn cael ei diweddaru ymhellach ar ôl Cyllideb y
Canghellor yn y Gwanwyn, ar 06/03/24. 7. Nodi rhaglen arfaethedig y
Ffioedd a Thaliadau drafft fel y nodir yn Atodiad 8, ystyrir y rhain yn
ffurfiol gan y Cabinet ar 20/02/24. 8. Argymell bod y Rhaglen Gyfalaf Amlflwyddyn, fel y’i nodir yn Atodiad 10, yn cael ei
chymeradwyo. 9. Argymell bod y Strategaeth
Gyfalaf, fel y’i nodir yn Atodiad 11, yn cael ei chymeradwyo. 10. Nodi y dylid ystyried unrhyw
opsiynau newydd neu amgen ar gyfer Cyllideb ddrafft 24/25 yn ystod y
cyfarfodydd i Graffu ar y Gyllideb ac y byddai angen digon o amser ymlaen llaw
ar y Swyddog Adran 151 i fodelu’n llawn unrhyw effeithiau posib ac i roi barn ar
gadernid unrhyw gynnig. 11. Cyfeirio’r adroddiad Cabinet hwn at sylw’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu fel y gall y Cabinet ystyried eu hadborth ffurfiol nhw ar 20/02/24, fel y gall y Cabinet wedyn gyflwyno’u hargymhellion terfynol nhw ar Ofyniad Cyllideb 24/25 a maint y cynnydd yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 24/25 i’r Cyngor Llawn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 148. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1. Cymeradwyo’r
egwyddor o waredu/ gwerthu’r asedau canlynol: i. Hen Ysgol
Gynradd Cribyn ii. Hen Ysgol
Beulah iii. Hen Ysgol
Gynradd Cilcennin 2.
Gohirio'r egwyddor o waredu/gwerthu Hen Waith Trin
Carthion, Pontgarreg er mwyn caniatáu ystyriaeth bellach. Y rheswm dros y
penderfyniad: Creu derbyniadau cyfalaf o asedau nad oes mo’u
hangen mwyach. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cymeradwyo: 1)
yr egwyddor o ddyfarnu contract Cymorth TA Brys Grant
Cymorth Tai 2)
Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i bob un o’r
canlynol ar y cyd i gymeradwyo dyfarnu/cymeradwyo'r cytundeb i'r tendr
llwyddiannus: •
Aelod Cabinet dros Bartneriaethau, Tai, Cyfreithiol a
Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd •
Aelod Cabinet, Cyllid a Chaffael •
Swyddog Arweiniol Corfforaethol - Cyllid a Chaffael (a
Swyddog Adran 151) •
Swyddog Arweiniol Corfforaethol - Porth Cymorth Cynnar Y rheswm dros y
penderfyniad: Sicrhau y gall y Cyngor ddyfarnu contract Grant Cymorth Tai ar gyfer
Cymorth Llety Dros Dro Brys mewn modd amserol a sicrhau bod y darparwr yn gallu
ymgymryd â'r contract newydd o 1 Ebrill 2024. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet Cofnodion: Dim. |