Cofnodion:
PENDERFYNIAD:
1.
Nodi bod y codiad arfaethedig yn ardoll Awdurdod Tân Canolbarth a
Gorllewin Cymru yn debygol o olygu pwysau costau o £497k ar Gyllideb 24/25 y
Cyngor (sy’n cyfateb i gynnydd o oddeutu 1.1% yn Nhreth y Cyngor ar gyfer
trigolion Ceredigion).
2.
Cynnig y Cabinet parthed Premiymau Treth y Cyngor yw:
a)
O 01/04/24 ymlaen, y bydd 25% o’r holl arian a godir o bremiymau Treth y
Cyngor ar Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor (net ar ôl ad-daliadau/ costau
Treth y Cyngor) yn cael ei neilltuo a’i ddefnyddio i gefnogi’r Cynllun Tai
Cymunedol, ar yr amod na fydd lefel y cyllid sy’n cael ei ddal yn y Cynllun Tai
Cymunedol yn mynd y tu hwnt i £2.0m, a bod unrhyw gyllid y tu hwnt i hyn mewn
blwyddyn benodol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r gyllideb gyffredinol.
b)
O 01/04/24 ymlaen, y bydd 75% o’r holl arian a godir o bremiymau Treth y
Cyngor ar Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor (net ar ôl ad-daliadau/ costau
Treth y Cyngor) yn cael ei gadw a’i ddefnyddio i gefnogi’r gyllideb
gyffredinol, er mwyn lleihau baich Treth y Cyngor ar drigolion Ceredigion.
3.
Nodi mai Gofyniad Cyllideb ddrafft 24/25 ar hyn o bryd yw £192.470m.
4.
Nodi y byddai Gofyniad Cyllideb drafft 24/25 yn arwain at gynnydd yn
Nhreth y Cyngor (o ran cyfran Cyngor Sir Ceredigion) o £4.15 yr wythnos (£17.99
y mis) ar gyfer eiddo Band D.
5.
Pan gyhoeddir Setliad Terfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 24/25:
a) Bod gwerth unrhyw grantiau
penodol pellach a drosglwyddir i’r Grant Cynnal Refeniw yn cael eu cyfeirio i
gyllideb y Gwasanaeth perthnasol, lle bo hynny’n briodol.
b) Y dylai unrhyw newidiadau
penodol eraill dargedu’r Gwasanaeth(au) sy’n cael eu
heffeithio yn uniongyrchol, pan fo hynny’n briodol.
c) Y rhoddir sylw i unrhyw newid
arall i’r AEF drwy wneud addasiad i gyllideb y Grŵp Arweiniol.
6. Nodi y byddai’r Strategaeth
Ariannol Tymor Canolig yn cael ei diweddaru ymhellach ar ôl Cyllideb y
Canghellor yn y Gwanwyn, ar 06/03/24.
7. Nodi rhaglen arfaethedig y
Ffioedd a Thaliadau drafft fel y nodir yn Atodiad 8, ystyrir y rhain yn
ffurfiol gan y Cabinet ar 20/02/24.
8. Argymell bod y Rhaglen Gyfalaf Amlflwyddyn, fel y’i nodir yn Atodiad 10, yn cael ei
chymeradwyo.
9. Argymell bod y Strategaeth
Gyfalaf, fel y’i nodir yn Atodiad 11, yn cael ei chymeradwyo.
10. Nodi y dylid ystyried unrhyw
opsiynau newydd neu amgen ar gyfer Cyllideb ddrafft 24/25 yn ystod y
cyfarfodydd i Graffu ar y Gyllideb ac y byddai angen digon o amser ymlaen llaw
ar y Swyddog Adran 151 i fodelu’n llawn unrhyw effeithiau posib ac i roi barn ar
gadernid unrhyw gynnig.
11. Cyfeirio’r adroddiad Cabinet
hwn at sylw’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu fel y gall y Cabinet ystyried eu
hadborth ffurfiol nhw ar 20/02/24, fel y gall y Cabinet wedyn gyflwyno’u
hargymhellion terfynol nhw ar Ofyniad Cyllideb 24/25 a maint y cynnydd yn
Nhreth y Cyngor ar gyfer 24/25 i’r Cyngor Llawn ar 29/02/24.
Y
rheswm dros y penderfyniad:
Fel
bod y gwaith o baratoi Cyllideb 2023/24 yn gallu mynd rhagddo.
Dogfennau ategol: