Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 23ain Ionawr, 2024 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Neris Morgans 

Eitemau
Rhif eitem

141.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

142.

Materion Personol

Cofnodion:

i.      Diolchwyd i'r staff am eu hymdrechion i helpu pawb yr effeithiwyd arnynt gan y tywydd gwael yn ystod yr wythnosau diwethaf.

ii.     Estynnwyd llongyfarchiadau i Stevie Williams ar ei lwyddiant yn y ‘Tour Down Under’ yn Awstralia.

iii.    Estynnwyd llongyfarchiadau hefyd i'r Dr Rhodri Llwyd Morgan ar ei benodiad yn Brif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

iv.   Estynnwyd y dymuniadau gorau i Sulwyn Jones, Gweithiwr Amgylcheddol ar ei ymddeoliad yn dilyn 44 mlynedd o wasanaeth i'r awdurdod lleol.

143.

Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu

Cofnodion:

144.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol y Cabinet ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny pdf eicon PDF 91 KB

Cofnodion:

Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod Arbennig y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Rhagfyr 2023 yn gywir.

 

Materion yn codi: Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion.

145.

Unrhyw ddeisebau a dderbyniwyd

Cofnodion:

Dim.

146.

Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu

Cofnodion:

Dim.

147.

Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda

Cofnodion:

Dim.

148.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Cyllideb Refeniw 2024/25 a’r rhaglen Gyfalaf Aml-flwyddyn pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.      Nodi bod y codiad arfaethedig yn ardoll Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru yn debygol o olygu pwysau costau o £497k ar Gyllideb 24/25 y Cyngor (sy’n cyfateb i gynnydd o oddeutu 1.1% yn Nhreth y Cyngor ar gyfer trigolion Ceredigion).

2.      Cynnig y Cabinet parthed Premiymau Treth y Cyngor yw:

a)      O 01/04/24 ymlaen, y bydd 25% o’r holl arian a godir o bremiymau Treth y Cyngor ar Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor (net ar ôl ad-daliadau/ costau Treth y Cyngor) yn cael ei neilltuo a’i ddefnyddio i gefnogi’r Cynllun Tai Cymunedol, ar yr amod na fydd lefel y cyllid sy’n cael ei ddal yn y Cynllun Tai Cymunedol yn mynd y tu hwnt i £2.0m, a bod unrhyw gyllid y tu hwnt i hyn mewn blwyddyn benodol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r gyllideb gyffredinol.

b)      O 01/04/24 ymlaen, y bydd 75% o’r holl arian a godir o bremiymau Treth y Cyngor ar Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor (net ar ôl ad-daliadau/ costau Treth y Cyngor) yn cael ei gadw a’i ddefnyddio i gefnogi’r gyllideb gyffredinol, er mwyn lleihau baich Treth y Cyngor ar drigolion Ceredigion.

3.      Nodi mai Gofyniad Cyllideb ddrafft 24/25 ar hyn o bryd yw £192.470m.

4.      Nodi y byddai Gofyniad Cyllideb drafft 24/25 yn arwain at gynnydd yn Nhreth y Cyngor (o ran cyfran Cyngor Sir Ceredigion) o £4.15 yr wythnos (£17.99 y mis) ar gyfer eiddo Band D.

5.      Pan gyhoeddir Setliad Terfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 24/25:

a)      Bod gwerth unrhyw grantiau penodol pellach a drosglwyddir i’r Grant Cynnal Refeniw yn cael eu cyfeirio i gyllideb y Gwasanaeth perthnasol, lle bo hynny’n briodol.

b)      Y dylai unrhyw newidiadau penodol eraill dargedu’r Gwasanaeth(au) sy’n cael eu heffeithio yn uniongyrchol, pan fo hynny’n briodol.

c)      Y rhoddir sylw i unrhyw newid arall i’r AEF drwy wneud addasiad i gyllideb y Grŵp Arweiniol.

6.      Nodi y byddai’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn cael ei diweddaru ymhellach ar ôl Cyllideb y Canghellor yn y Gwanwyn, ar 06/03/24.

7.      Nodi rhaglen arfaethedig y Ffioedd a Thaliadau drafft fel y nodir yn Atodiad 8, ystyrir y rhain yn ffurfiol gan y Cabinet ar 20/02/24.

8.      Argymell bod y Rhaglen Gyfalaf Amlflwyddyn, fel y’i nodir yn Atodiad 10, yn cael ei chymeradwyo.

9.      Argymell bod y Strategaeth Gyfalaf, fel y’i nodir yn Atodiad 11, yn cael ei chymeradwyo.

10.   Nodi y dylid ystyried unrhyw opsiynau newydd neu amgen ar gyfer Cyllideb ddrafft 24/25 yn ystod y cyfarfodydd i Graffu ar y Gyllideb ac y byddai angen digon o amser ymlaen llaw ar y Swyddog Adran 151 i fodelu’n llawn unrhyw effeithiau posib ac i roi barn ar gadernid unrhyw gynnig.

11.   Cyfeirio’r adroddiad Cabinet hwn at sylw’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu fel y gall y Cabinet ystyried eu hadborth ffurfiol nhw ar 20/02/24, fel y gall y Cabinet wedyn gyflwyno’u hargymhellion terfynol nhw ar Ofyniad Cyllideb 24/25 a maint y cynnydd yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 24/25 i’r Cyngor Llawn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 148.

149.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Economi ac Adfywio ynghylch y Bwriad i werthu asedau pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.    Cymeradwyo’r egwyddor o waredu/ gwerthu’r asedau canlynol:

i.    Hen Ysgol Gynradd Cribyn

ii.   Hen Ysgol Beulah

iii.  Hen Ysgol Gynradd Cilcennin

2.    Gohirio'r egwyddor o waredu/gwerthu Hen Waith Trin Carthion, Pontgarreg er mwyn caniatáu ystyriaeth bellach. 

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Creu derbyniadau cyfalaf o asedau nad oes mo’u hangen mwyach.

150.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cymorth Cynnar ynghylch Ail-gomisiynu'r Grant Cymorth Tai pdf eicon PDF 149 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cymeradwyo:

1)    yr egwyddor o ddyfarnu contract Cymorth TA Brys Grant Cymorth Tai

2)    Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i bob un o’r canlynol ar y cyd i gymeradwyo dyfarnu/cymeradwyo'r cytundeb i'r tendr llwyddiannus:

       Aelod Cabinet dros Bartneriaethau, Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd

       Aelod Cabinet, Cyllid a Chaffael

       Swyddog Arweiniol Corfforaethol - Cyllid a Chaffael (a Swyddog Adran 151)

       Swyddog Arweiniol Corfforaethol - Porth Cymorth Cynnar

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Sicrhau y gall y Cyngor ddyfarnu contract Grant Cymorth Tai ar gyfer Cymorth Llety Dros Dro Brys mewn modd amserol a sicrhau bod y darparwr yn gallu ymgymryd â'r contract newydd o 1 Ebrill 2024.

151.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet

Cofnodion:

Dim.