Lleoliad: remotely - VC
Cyswllt: Dana Jones
Rhif | eitem | ||
---|---|---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheuriodd y Cynghorwyr
Rhodri Evans, Mark Strong ynghyd â Mrs Caroline
Whitby a Ms Alison Rees, Archwilio Cymru am na fedrent ddod
i’r cyfarfod. |
|||
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Dim. |
|||
Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu Cofnodion: Datgelodd y Cynghorydd Wyn Evans fuddiant personol yn eitem
7 yn yr agenda. Datgelodd y Cynghorydd Keith Henson fuddiant personol yn eitem
8 yn yr agenda. |
|||
Cofnodion: CYTUNWYD i gadarnhau bod Cofnodion Cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2024 yn gywir. Materion yn
Codi Dim. |
|||
Cofnod o Gamau Gweithredu PDF 88 KB Cofnodion: CYTUNWYD i nodi cynnwys Cofnod o Gamau Gweithredu’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel y’i cyflwynwyd. |
|||
Adroddiadau'r Rheoleiddwyr ac Arolygiaeth ac Ymatebion y Cyngor PDF 124 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriwyd Adroddiadau’r Rheoleiddwyr a’r Arolygiaethau ac Ymatebion Cyngor Sir Ceredigion. Roedd
yr Adroddiad yn amlinellu Adroddiadau a Diweddariadau’r Rheoleiddwyr a’r Arolygiaethau ynghyd ag ymatebion y Cyngor ynghylch y cynnydd a wnaed o ran y cynigion a’r argymhellion. Roedd yr adroddiad mewn tair rhan:
a) Diweddariad chwarterol Archwilio Cymru i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio b) Unrhyw waith lleol
ynghylch risg a gyflwynwyd / a gyhoeddwyd ers cyfarfod diwethaf
y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio c) Adroddiadau Cenedlaethol Archwilio Cymru Y Sefyllfa bresennol a)
Diweddariad chwarterol
Archwilio Cymru i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio · Rhaglen Waith ac Amserlen Archwilio
Cymru Chwarter 1 b)
Unrhyw waith
lleol ar risgiau a gyflwynwyd/a gyhoeddwyd ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio c)
Furflenni Ymateb
Rheoli · Defnyddio Gwybodaeth am Berfformiad - Persbectif a Chanlyniadau Defnyddwyr Gwasanaeth · Adolygiad o’r Strategaeth Ddigidol ·
‘Craciau
yn y Sylfeini?’ Diogelwch Adeiladau yng Nghymru · Amser am newid - Tlodi yng Nghymru · Adolygiad Dilynol y Gwasanaeth Cynllunio · Gosod amcanion llesiant · Llamu Ymlaen – Adolygiad Rheoli Asedau Strategol
· ‘Cyfle wedi’i
Golli’ – Mentrau Cymdeithasol d)
Adroddiadau Cenedlaethol Archwilio Cymru · Digidol o fwriad? Gwersi
o’n hadolygiad o strategaethau digidol ar draw Cynghorau yng Nghymru (Atodiad 4) o Adroddiad Cyngor Sir Ceredigion a gyflwynwyd
i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 24/01/2024 - Adroddiad Adolygiad Strategaeth Ddigidol Archwilio Cymru - Adolygiad Strategaeth Ddigidol
– Cyngor Sir Ceredigion · Defnyddio gwybodaeth am berfformiad:
safbwynt defnyddwyr gwasanaethau a deilliannau (Atodiad 5) o Adroddiad Cyngor Sir Ceredigion a gyflwynwyd
i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 14/03/2024 - Defnyddio gwybodaeth am berfformiad:
persbectif a chanlyniadau defnyddwyr gwasanaeth - Cyngor
Sir Ceredigion Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i: - (i) nodi adroddiadau
a diweddariadau’r Rheoleiddwyr
a’r Arolygiaethau; (ii) nodi ymateb y
Cyngor (Ffurflenni Ymateb y
Rheolwyr / Sefydliad) a mewnbwn y Swyddogion ac Archwilio Cymru yn y cyfarfod o
|
|||
Arolygiadau Estyn, blwyddyn academaidd 2023/24 PDF 77 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Yn dilyn ailddechrau arolygiadau Estyn gydag ymweliadau peilot ym mis Chwefror
2022, mae arolygiadau Estyn
wedi mynd i mewn i flwyddyn olaf y cylch hwn.
Mae’r arolygiadau ysgolion wedi bod yn gadarnhaol, ac Awdurdod Lleol Ceredigion oedd yr
unig awdurdod lleol yng Nghymru
heb unrhyw ofynion dilynol ar ôl arolygiadau. Arolygwyd yr ysgolion canlynol yn ystod
y flwyddyn academaidd
2023/24:
CYTUNWYD i nodi'r adroddiadau cadarnhaol er gwybodaeth. |
|||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW) yw’r rheoleiddiwr annibynnol Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r Arolygiaeth yn cofrestru ac yn arolygu gwasanaethau gan gymryd camau
i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er lles pobl Cymru. Mae gan Gyngor Ceredigion
sawl gwasanaeth rheoleiddiedig sy’n cael eu harolygu’n
rheolaidd gan Arolygiaeth Gofal Cymru, ac mae'r rhain yn
cynnwys: · Cartref Gofal Preswyl Bryntirion · Cartref Tregerddan
Residential Care Home · Cartref Gofal Preswyl Min y Mȏr · Cartref Gofal Preswyl Hafan Deg
· Cartref Gofal Preswyl Y Hafod · Cartref Gofal Preswyl Hafan y Waun · Gwasanaeth Gofal a Galluogi wedi’i Dargedu · Gwasanaeth Maethu Mae'rarolygiadau
yn canolbwyntio ar bedwar maes
allweddol: 1. Llesiant 2. Gofal
a chymorth 3. Yr Amgylchedd 4. Arweinyddiaeth
a Rheoli Mae’r Unigolyn Cyfrifol yn unigolyn yr ystyrir ei fod
yn gymwys o dan adran 21, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
Gall Cyfarwyddwr y Gwasanaethau
Cymdeithasol ddirprwyo’r swyddogaeth hon ac yng Nghyngor Sir Ceredigion, mae’r swyddogaeth wedi’i dirprwyo i’r Rheolwr
Corfforaethol – Gwasanaethau
Uniongyrchol. Mae gan yr Unigolyn
Cyfrifol rôl hanfodol o ran monitro ansawdd ac mae ymweliadau monitro rheolaidd yn cael
eu cwblhau gyda phob gwasanaeth.
Caiff yr adroddiadau monitro eu hystyried
a’u hadolygu mewn cyfarfodydd rheolaidd â’r Cyfarwyddwr.
Mae’r Unigolyn Cyfrifol yn gweithio’n
agos gyda’r Tîm Monitro Ansawdd
mewnol sydd hefyd yn cynnal
ymweliadau monitro rheolaidd ar gyfer
pob un o wasanaethau rheoleiddiedig y Cyngor. Mae’r Adroddiadau arolygu
sy’n cyd-fynd â'r adroddiad yn
nodi bod gwasanaethau’r Cyngor yn
gweithredu o safon ym meysydd Llesiant,
Gofal a Chymorth ac arweinyddiaeth a rheoli. Mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi tynnu sylw
at faterion sy’n ymwneud â sawl amgylchedd. Mae’r Cyngor yn cymryd y materion
hyn o ddifrif ac mae buddsoddiad cyfalaf sylweddol yn cael ei
wneud i wella’r amgylchedd yn y mannau hyn ac i fodloni’r gofynion perthnasol o ran diogelwch tân. Mae hyn wedi
arwain at gyhoeddi Hysbysiadau Gweithredu â Blaenoriaeth yng nghyswllt Rheoliad 44 – Amgylchedd Safle. Mae cydweithio cadarnhaol rhwng adrannau’r Cyngor wedi arwain at ddatblygu rhaglen waith fanwl ac mae’r gwaith o weithredu’r rhaglen yn mynd rhagddo.
Hefyd, darperir diweddariadau rheolaidd ynglŷn â’r gwaith gwella a’r
cynllun gweithredu. Yn dilyn cwestiynau
o’r llawr, CYTUNWYD i:- (i) Nodi cynnwys yr adroddiada
ac adroddiadau arolygu Arolygiaeth Gofal Cymru sy’n cyd-fynd â’r
adroddiad; a (ii) gofyn i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach ystyried y canlynol: amserlen y gwaith cynnal a chadw sy'n cael
ei wneud yng nghartrefi preswyl y Cyngor i sicrhau eu bod yn cael
eu cwblhau mewn modd amserol;
canfod nifer y gwelyau sydd ar
gael yn y sector preifat i gael trosolwg gwell o'r holl welyau
sydd ar gael
yn y Sector Lleol a Phreifat
yn y Sir; yr angen i ystyried darparu cartrefi gofal newydd yn y dyfodol
a lobïo Llywodraeth Cymru
am gyllid ychwanegol tebyg i’r cynllun
cyllido Ysgolion yr 21ain Ganrif. |
|||
Huanaasesu arfer dda a gwerthuso effeithiolrwydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio PDF 103 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn dilyn gweithdy a gynhaliwyd ar 11 Mehefin 2024 ystyriwyd hunanasesiad drafft a gwerthusiad o adolygiad effeithiolrwydd gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Yn dilyn y gweithdy, lluniwyd cynllun gweithredu o'r Hunanasesiad. Bydd hyn yn cael
ei fonitro a bydd cynnydd ar
y camau gweithredu yn cael ei
ddiweddaru a’i gyflwyno yng nghyfarfodydd
y pwyllgor yn y dyfodol. Yn dilyn cwestiynau
o’r llawr, CYTUNWYD i: - (i) nodi cynnwys y ddogfen ddrafft 'Hunanasesiad arfer da'; (ii) nodi cynnwys y ddogfen
‘Gwerthuso effaith ac effeithiolrwydd y pwyllgor archwilio’; a (iii)nodi'r Cynllun Gweithredu Hunanasesu 2023-2024 |
|||
Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol 1/4/24 - 30/6/24 PDF 67 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd
ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Corfforaethol – Archwilio Mewnol
ar Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol Chwarter 1. Cyflwynwyd yr adroddiad i
sicrhau bod y Pwyllgor yn fodlon bod yr Adran Archwilio Mewnol yn gwneud gwaith
digonol a phriodol er mwyn rhoi sicrwydd realistig ar ddiwedd y flwyddyn, gan
ychwanegu gwerth a chynorthwyo'r Cyngor i gyflawni ei amcanion. CYTUNWYD nodi
gwaith a wnaed a sefyllfa bresennol y Gwasanaeth Archwilio Mewnol. |
|||
Hunanasesiad Archwilio Mewnol 2023/24 PDF 68 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Mae Safonau Archwilio
Mewnol y Sector Cyhoeddus a
Nodyn Cymhwyso Llywodraeth Leol y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth yn disodli Cod 2006 ar gyfer Archwilio Mewnol. Daeth hwn
i rym ym mis Ebrill 2013. Rhaid cydymffurfio gyda Safonau Archwilio
Mewnol y Sector Cyhoeddus a’r Nodyn Cydymffurfio
er mwyn sicrhau bod arferion archwilio mewnol cywir yn
cael eu cymhwyso. Mae’r Nodyn Cymhwyso yn cynnwys
rhestr wirio a ddatblygwyd i ddiwallu’r gofynion fel y’u
hamlinellir yn Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus 1311 a
1312 ar gyfer hunanasesiadau cyfnodol fel rhan o’r
rhaglen Sicrhau Ansawdd a Gwelliant. Mae’n ymgorffori gofynion Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus yn ogystal â’r
Nodyn Cymhwyso er mwyn cwmpasu’r ddwy ddogfen mewn
ffordd gynhwysfawr. Nodwyd dau faes i’w gwella.
Roedd un o'r rhain wedi cael
ei gario drosodd o'r flwyddyn
ddiwethaf. Safon 1210: 5.3.1. A yw’r Prif Swyddog Gweithredol Archwilio yn meddu ar
gymhwyster proffesiynol megis CMIIA/CCAB? Mae’r CMIA wedi gwneud cynnydd sylweddol trwy gwblhau cymhwyster CIA a bydd yn cofrestru
i'r CMIIA ar ôl cwblhau Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth Lefel 4. Roedd yr ail gam gweithredu
yn ymwneud â Safonau Byd-eang newydd Sefydliad yr Archwilwyr Mewnol a sicrhau gweithredu'r deunydd newydd a ddatblygwyd gan y Bwrdd Ymgynghorol
Safonau Archwilio Mewnol sy'n dod
i rym ar 01/04/2025. CYTUNWYD i nodi cynnwys yr adroddiad. |
|||
Cofrestr Risgiau Corfforaethol Cwarter 1 2024/25 PDF 68 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddir
adroddiadau rheolaidd i'r Pwyllgor Llywodraethu
ac Archwilio ynghylch Cofrestr Risgiau Corfforaethol y Cyngor i roi gwybodaeth a sicrwydd parhaus bod y risgiau a nodwyd gan uwch
reolwyr yn cael eu rheoli’n
briodol. Mae hyn yn atgyfnerthu rôl y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio o ran rhoi sicrwydd annibynnol
i’r Cyngor bod y Gofrestr Risgiau Corfforaethol yn cael ei
rheoli’n briodol. Cynhaliwyd adolygiad o statws diweddaraf y risgiau yng nghyfarfod y Grŵp Arweinyddiaeth ar 18.09.24 lle trafodwyd y rhai y gellir eu huwchgyfeirio
i'r Gofrestr Risgiau Corfforaethol a’r rheiny y gellir
eu his-gyfeirio o’r Gofrestr. Cytunwyd
ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol ddiweddaraf. Isgyfeirio o fod yn risg
gorfforaethol i fod yn risg i’r
gwasanaeth Dim Uwchgyfeirio o fod yn risg
i’r gwasanaeth i fod yn risg
gorfforaethol Dim Newidiadau sgôr risg corfforaethol O ganlyniad i gamau lliniaru llwyddiannus, roedd sgôr y risg gorfforaethol
newydd R025: Mesurau Diogelwch a Gwarchod Tân mewn Eiddo'r Cyngor wedi lleihau o 25 i 20. Roedd yr holl risgiau
eraill wedi'u hadolygu ac roeddent yn cynnwys y statws
RAG diwygiedig o ran camau lliniaru a sylwadau wedi'u diweddaru. Mae’r dyddiadau pan wnaeth y Pwyllgor Craffu adolygu pob risg
gorfforaethol wedi’u cynnwys ar y dudalen
grynodeb. Nodwyd eu bod wedi craffu
ar yr holl Risgiau Corfforaethol. Yn dilyn cwestiynau o'r llawr ar sgorau
risg, CYTUNWYD i nodi’r adroddiad er gwybodaeth. |
|||
Adroddiad Blynyddol Canmoliaeth, Cwynion a Rhyddid Gwybodaeth (2023-2024) PDF 112 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies,
Arweinydd y Cyngor yr adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth yn ymwneud â
gweithgarwch Canmoliaeth, Cwynion a Rhyddid Gwybodaeth y Cyngor rhwng 1 Ebrill
2023 a 31 Mawrth 2024. Mae'r adroddiad wedi'i rannu i’r adrannau canlynol: 1.Cyflwyniad –
amlinelliad o waith y Tîm Cwynion a Rhyddid Gwybodaeth a rhwymedigaethau'r
Cyngor o dan bob un o'r polisïau a gwmpesir gan yr adroddiad hwn. 2.Canmoliaeth –
manylion yr holl ganmoliaeth a basiwyd i'r Tîm Cwynion a Rhyddid Gwybodaeth yn
ystod y cyfnod adrodd hwn. 3.Cwynion – data
ynghylch nifer a math y cwynion a dderbyniwyd, canlyniadau'r ymchwiliadau a
gynhaliwyd, perfformiad y Cyngor wrth ystyried amserlenni rhagnodedig a
gwybodaeth yn ymwneud â'r gwersi a nodwyd. Mae enghreifftiau o rai o'r gwersi a
nodwyd wedi'u cynnwys ar ddiwedd yr adroddiad. 4.Gweithgarwch yr
Ombwdsmon – manylion o holl atgyfeiriadau'r Ombwdsmon, eu canlyniadau a'u
gwybodaeth ynghylch y datrysiadau Penderfyniad Cynnar a/neu Setliad Gwirfoddol
y cytunwyd arnynt gan y Cyngor yn ystod 2023-2024. 5. Rhyddid
Gwybodaeth (DRhG) a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (RhGA) – nifer y
ceisiadau am wybodaeth a dderbyniwyd gan y Cyngor yn ystod y cyfnod adrodd,
manylion perfformiad y Cyngor gyda'r amserlenni statudol a'r data cymharol o
adroddiadau blaenorol. Mae'r Llythyr
Blynyddol gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ("yr
Ombwdsmon"), wedi’i ddyddio 9 Medi 2024, yn cyd-fynd â'r adroddiad hwn.
Mae llythyr yr Ombwdsmon yn rhoi manylion penodol am yr holl weithgarwch sy'n
ymwneud â Cheredigion, yn ogystal â pherfformiad awdurdodau lleol eraill ledled
Cymru Er mai hon yw'r
ail flwyddyn yn olynol lle mae nifer atgyfeiriadau'r Ombwdsmon wedi gostwng o'i
gymharu â'r cyfnod adrodd blaenorol; cydnabyddir bod gan y Cyngor cyfradd
gymharol uchel o gytundebau Datrysiad Cynnar/Setliad Gwirfoddol. Mae hyn wedi
gostwng yn sylweddol ers y llynedd. Mae heriau'n
parhau o ran rheoli cymhlethdod rhai cwynion ac mae cynnydd amlwg mewn cwynion
a gweithgarwch Rhyddid Gwybodaeth/ Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (EIR) o'i
gymharu â'r hyn a dderbyniwyd yn ystod 2022-2023. O ganlyniad i'r
anawsterau a nodwyd mewn adroddiadau cynt am ymdrin â chwynion a rheoli
ceisiadau am wybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a RhGA, cytunodd y
Grŵp Arweinyddiaeth ar nifer o gamau corfforaethol sy'n canolbwyntio ar
wella gallu'r Cyngor i ymdrin yn effeithiol â'r materion hyn mewn ffordd gadarn
a hyblyg. Roedd gwaith yn mynd rhagddo i gwblhau'r camau hyn ac roedd yn cael
ei fonitro a'i adolygu bob chwarter.
Ymholiadau
(wedi’u prosesu gan y Tîm Cwynion a Rhyddid Gwybodaeth) Crynodeb • Cofnodwyd llai o ganmoliaeth yn ystod 2023-2024 ac er bod cryn dipyn o waith wedi'i wneud i wella'r ffordd y caiff y gweithgarwch hwn ei reoli, mae'r Tîm Cwynion a Rhyddid Gwybodaeth wrthi'n codi ymwybyddiaeth staff ar draws y Cyngor ar hyn o ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 13. |
|||
Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2023-24 PDF 127 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adroddwyd bod gweithdy gyda swyddogion ac
aelodau pwyllgor perthnasol wedi ei gynnal ar 6 Rhagfyr 2023. Yn y gweithdy,
ystyriwyd: • cynnydd ar y camau gweithredu a nodwyd yn
Adolygiad o’r Fframwaith Llywodraethu 2023-24. • unrhyw dystiolaeth wedi'i diweddaru sydd
wedi'i chynnwys yn y ddogfen. • Camau gweithredu a nodwyd yn flaenorol. CYTUNWYD hefyd i ddiwygio'r system sgorio yn
y ddogfen i fod allan o 5 yn hytrach na 10 fel yn y blynyddoedd blaenorol. Mae’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol
2023-24 wedi’i ddrafftio ers hynny ac mae ei gymeradwyo. Yn dilyn cwestiynau o'r llawr, CYTUNWYD i gymeradwyo
Datganiad Llywodraethu Blynyddol drafft 2023-24 yn amodol ar ddiwygiadau i
A1.4. Adroddwyd hefyd y byddai'r Datganiad
Llywodraethu Blynyddol 2023-24 yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor a'r Cyngor,
ynghyd â'r Datganiad Cyfrifon, ym mis Tachwedd 2024. |
|||
Datganiad Llywodraethu Blynyddol Diwygiedig PDF 112 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Mae'r tîm llywodraethu wedi bod yn adolygu'r
ddogfennaeth lywodraethu ar gyfer y Cyngor ac wedi cynnal adolygiad o'r Cod
Llywodraethu Corfforaethol Lleol yng ngaeaf 2023 a arweiniodd at greu'r
Fframwaith Llywodraethu newydd a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2024. Yn dilyn cyhoeddi'r Fframwaith Llywodraethu
yn llwyddiannus, dechreuodd y tîm llywodraethu adolygu'r Datganiad Llywodraethu
Blynyddol. Gwnaed ymchwil ar Ddatganiadau Llywodraethu
Blynyddol awdurdodau lleol Cymru a nodwyd bod gan lawer ohonynt ddogfennau mwy
cryno gyda gwybodaeth gryno am eu trefniadau llywodraethu. Gweler enghreifftiau ar Ddatganiad
Llywodraethu Blynyddol 2022/23 Cyngor Ynys Môn, Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2022-23 Cyngor Sir Conwy a Chyngor Sir Ddinbych. Crëwyd y fformat newydd ar gyfer y Datganiad Llywodraethu Blynyddol, ac
mae'r ddogfen wedi'i lleihau o'r 36 tudalen cyfredol i 17 tudalen. Gwnaed hyn
drwy gyddwyso'r wybodaeth i baragraff byr o dan bob egwyddor wrth gyfeirio at
ddolenni i ddogfennau sydd eisoes wedi'u cyhoeddi. Roedd y swyddogaeth a’r
broses lywodraethu lawn wedi’u cynnwys yn y Fframwaith Llywodraethu. Mae Fframwaith Llywodraethu Da 2016 CIPFA
mewn perthynas â'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn nodi: “7.3 Dylai'r datganiad llywodraethu blynyddol ddarparu cyfathrebu ystyrlon
ond byr ynghylch yr adolygiad o lywodraethu sydd wedi digwydd, gan gynnwys rôl
y strwythurau llywodraethu dan sylw (megis yr awdurdod, yr archwiliad a
phwyllgorau eraill). Dylai fod ar
lefel uchel, yn strategol ac wedi'i hysgrifennu mewn arddull agored a
darllenadwy. 7.4 Dylai'r datganiad llywodraethu blynyddol ganolbwyntio ar ganlyniadau a
gwerth am arian ac ymwneud â gweledigaeth yr awdurdod ar gyfer yr ardal. Dylai
ddarparu asesiad o effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu'r awdurdod wrth
gefnogi'r canlyniadau a gynlluniwyd - nid disgrifiad ohonynt yn unig. Crynhoir
elfennau allweddol trefniadau llywodraethu awdurdod yn yr adran nesaf. 7.5 Dylai'r datganiad llywodraethu blynyddol gynnwys y canlynol: cydnabod cyfrifoldeb dros sicrhau bod system
lywodraethu gadarn (gan ymgorffori'r system rheolaeth fewnol) a chyfeiriad at
god llywodraethu'r awdurdod, cyfeiriad at ac asesu effeithiolrwydd
elfennau allweddol y fframwaith llywodraethu a rôl y rhai sy'n gyfrifol am
ddatblygu a chynnal yr amgylchedd llywodraethu; megis yr awdurdod, y
gweithredwr, y pwyllgor archwilio, archwilio mewnol ac eraill fel y bo'n
briodol, barn ar lefel y sicrwydd y gall y trefniadau
llywodraethu ei ddarparu a bod y trefniadau'n parhau i gael eu hystyried yn
addas i'r diben yn unol â'r fframwaith llywodraethu, cynllun gweithredu cytunedig sy'n dangos
camau a gymerwyd, neu a gynigir, i ddelio â materion llywodraethu sylweddol” cyfeiriad at sut mae materion a godwyd yn y
Datganiad Llywodraethu Blynyddol o'r flwyddyn flaenorol wedi’u datrys, Casgliad – ymrwymiad i fonitro gweithrediad fel rhan o'r adolygiad blynyddol nesaf.” Mae Canllawiau statudol Llywodraeth Cymru ar
Ddemocratiaeth mewn Prif Gynghorau yn nodi y gellir defnyddio'r Datganiad
Llywodraethu Blynyddol: fel teclyn: • ar gyfer gwelliant corfforaethol; • gwerthuso cryfderau a gwendidau yn y
fframwaith llywodraethu; a • fel rhan o gynllun gweithredu blynyddol Mae ffurf newydd y Datganiad Llywodraethu
Blynyddol wedi'i ysgrifennu i grynhoi'r pwyntiau a'i wneud yn fwy apelgar i
ddarllenwyr ac yn hawdd ei ddilyn. Y prif newidiadau: - Lleihau ailadrodd gwybodaeth yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol a’r
Fframwaith Llywodraethu. -Ychwanegu ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 15. |
|||
Adroddiad Hunanasesu Cyngor Sir Ceredigion 2023/24 drafft PDF 87 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i'r
Adroddiad Hunanasesu Perfformiad Drafft. Datblygwyd yr Adroddiad drwy asesu amrywiaeth eang o dystiolaeth gan
gynnwys adroddiadau ac adolygiadau mewnol, Adroddiadau Rheoleiddio ac Arolygu
Allanol ac yn allweddol, gweithgareddau ymgysylltu ac ymgynghori. Mabwysiadodd y
Cyngor gyfres o gwestiynau allweddol neu “Brif Lwybrau Ymholi” i sicrhau bod y
broses yn canolbwyntio ar ganlyniadau, golwg draws-sefydliadol ar berfformiad a'i bod yn seiliedig ar dystiolaeth. Cynhaliwyd gweithdai yn ystod mis
Ebrill a mis Mai gydag Aelodau a Swyddogion y Cyngor i werthuso perfformiad
cyfredol, y cyfleoedd i wella, a’r camau penodol a fwriadwyd eu cymryd. Cofnodwyd y canfyddiadau yn ein dogfen Matrics
Hunanasesu, a ddefnyddiwyd i helpu cynhyrchu'r Adroddiad Hunanasesu a'r Cynllun
Gweithredu, ac roeddent ar gael ar gais. Er mai’r Adroddiad Hunanasesu yw’r allbwn
allweddol o’r broses, mae’r gwaith o wella canlyniadau yn weithgaredd parhaus
drwy gydol y flwyddyn. Drwy gydol y flwyddyn, rydym yn cynnal ymgynghoriad i
gefnogi hunanasesu, rydym yn casglu
tystiolaeth i lywio'r gweithdai, rydym yn cyflawni’r camau gweithredu yn y
cynllun gweithredu Hunanasesu ac mae cynnydd tuag at gwblhau yn cael ei
fonitro. Mae’n yn bwysig nodi bod yr Adroddiad yn cyflawni gofynion y ddau: • Deddf Llywodraeth
Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021– Y ddyletswydd i adrodd ar berfformiad • Deddf Llesiant
Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 – gosod ac adolygu cynnydd yn erbyn ein
Hamcanion Llesiant Corfforaethol Y camau nesaf Adroddwyd y byddai'r Adroddiad Hunanasesu Drafft yn cael ei ddiweddaru
yn seiliedig ar unrhyw argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio, a byddai'r fersiwn derfynol yn cael ei adrodd yn y cyfarfod ar 29
Ionawr 2025. CYTUNWYD i gymeradwyo'r Adroddiad Hunanasesu
Drafft fel y'i cyflwynwyd. |
|||
Canlyniadau Proffil Perfformiad Awdurdodau Lleol PDF 84 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd Data Cymru
wedi datblygu teclyn data perfformiad newydd i gefnogi awdurdodau lleol i
ddeall eu perfformiad cyffredinol yn well ac i gefnogi Asesiadau Perfformiad
Panel a ddechreuodd ym mis Medi 2024. Enw'r teclyn
newydd yw Proffil Perfformiad Awdurdodau Lleol (PPALl) ac mae'n cynnwys
detholiad o 34 o fesurau perfformiad allweddol ar draws 11 thema, ynghyd ag
amrywiaeth o ddata cyd-destunol sy’n darparu cyflwyniad o’r cefndir. Mae'r
Proffil ar gael fel dangosfwrdd Power BI yn unig, nid oes fersiwn copi papur. Un o brif
ddefnyddiau PPALl yw cefnogi'r cyfoedion sy'n ymgymryd ag Asesiadau Perfformiad
Panel i ddeall sut mae'r Awdurdod Lleol yn perfformio ar hyn o bryd.
Defnyddiwyd hwn gan y Panel mewn Asesiad Perfformiad Panel diweddar yng
Ngheredigion rhwng 30 Medi a 3 Hydref. Bydd y Proffil
Perfformiad Awdurdodau Lleol yn parhau i gael ei ddatblygu yn y dyfodol, felly
bydd yr ystod o fesurau sydd wedi'u cynnwys a’r gweithrediad defnydd yn
datblygu a’i gwella ymhellach. Ar hyn o bryd mae peth cyfyngiadau o ran
cyhoeddi data'r teclyn, er enghraifft ni chaniateir i ni gyhoeddi canlyniadau
awdurdodau lleol eraill heb eu caniatâd, fodd bynnag, y gobaith yw y bydd y
cyfyngiadau hyn yn cael eu gwaredu’n fuan. Roedd y diweddariad mwyaf diweddar o’r PPALl
ar 10 Medi ac roedd y canfyddiadau cyffredinol yn dangos taw: •Ceredigion oedd
â'r nifer uchaf ond un o fesurau perfformiad yn y chwartel uchaf gyda 13 allan
o 34 mesur. • Roedd gan
Geredigion y nifer uchaf ar y cyd o fesurau perfformiad yn y chwartel uchaf a'r
chwartel canol uchaf gyda 25 o'r 34 mesur. •Roedd 73.5% o
fesurau Ceredigion yn y chwartel canol uchaf ac uchaf. 67.6% oedd yr awdurdod
agosaf nesaf. (Mae cyfanswm y mesurau ar gyfer pob awdurdod lleol yn amrywio
ychydig oherwydd mân wahaniaethau mewn gwasanaethau a ddarperir, megis ar gyfer
yr awdurdodau hynny a oedd wedi cadw eu stoc tai). •Roedd perfformiad
Ceredigion hefyd wedi gwella o ran y 21 mesur (neu 65.6%) yn y chwartel canol
uchaf ac uchaf yn y canlyniadau blaenorol. •Ar y cyfan, mae
gan Geredigion 13 mesur yn y chwartel uchaf, 12 yn y chwartel canol uchaf, 2 yn
y chwartel canol isaf a 7 yn y chwartel isaf. I gloi, adroddwyd,
er gwaethaf yr heriau sylweddol y mae Ceredigion yn eu hwynebu fel un o'r
awdurdodau a gaiff y cyllid lleiaf, ynghyd â'r heriau sy'n ymwneud â
gwledigrwydd a bod yn brin ei boblogaeth, bod y canlyniadau hyn yn darparu
tystiolaeth ddefnyddiol nad oedd y Cyngor yn unig yn arfer ei swyddogaethau'n
effeithiol ond hefyd yn gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael. CYTUNWYD i nodi
Canlyniadau Proffil Perfformiad yr Awdurdodau Lleol fel y'i cyflwynwyd. |
|||
Cofnodion: CYTUNWYD i nodi cynnwys y Flaenraglen Waith fel y’i cyflwynwyd
yn amodol ar nodi bod byddai'r eitem ar Hunanasesiad
Y Fenter Twyll Cenedlaethol
Archwilio Mewnol yn cael ei
chyflwyno ddwywaith y flwyddyn ac nid yng nghyfarfodydd ar 29 Ionawr 2024 neu 26 Mawrth
2024; gan nad oedd y gwaith hunanasesu
wedi dechrau hyd yma. |
|||
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor Cofnodion: None. |