Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Dana Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorydd Endaf Edwards am na fedrai fod
yn bresennol yn y cyfarfod. |
|
Materion Personol Cofnodion: Estynnodd y Cadeirydd groeso i aelod annibynnol/lleyg
newydd sef Mr Andrew Blackmore a oedd yn ei gyfarfod cyntaf. |
|
Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion: CYTUNWYD i gadarnhau bod Cofnodion Cyfarfod y Pwyllgor a
gynhaliwyd ar 27 Medi 2022 yn gywir ar yr amod y newidir y canlynol: (i) Cofnod 16, Cofrestr Risgiau Corfforaethol. Dylai
(iii) ddarllen “y dylai’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach roi
ystyriaeth bellach i lwyth gwaith y tîm Diogelwch Bwyd oherwydd nifer yr
arolygiadau sydd heb eu gwneud”; a (ii) dylai’r rhifolyn Rhufeinig fod yn 16 (iv) ac nid 16
(vi). |
|
Trefniadau ar gyfer Aelod Lleyg ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r Trefniadau ar gyfer Aelod Lleyg
ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. CYTUNWYD i :- (i) nodi bod y Cyngor, ar 15/12/22, wedi penodi Mr Andrew Blackmore yn aelod annibynnol/aelod lleyg newydd o’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio; a (ii) penodi Mr Andrew Blackmore yn Is-gadeirydd yn syth o 17 Ionawr 2023 ymlaen am weddill y cyfnod o ddwy flynedd sy’n rhedeg o fis Mai 2022 (tan fis Mai 2024). Cyflwynodd Mr Andrew Blackmore ei hun i’r Pwyllgor. |
|
Cofnod o Gamau Gweithredu Cyfarfodydd Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cofnodion: Ystyriwyd y Cofnod o Gamau Gweithredu Cyfarfodydd y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. CYTUNWYD i: (i) nodi’r cynnwys a’r diweddariad fel y’u cyflwynwyd; (ii) y byddai’r Cofnod o Gamau Gweithredu yn cael ei
ddiwygio i gynnwys colofn ychwanegol “ar waith” i roi rhagor o wybodaeth am
hynt y camau sydd heb eu cyflawni; (iii) mewn ymateb i Eitem 2: Cofrestr Risgiau
Corfforaethol (VI), bydd yr adroddiad ar Glefyd Coed Ynn a gyflwynwyd i’r
Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus ar 19/10/2022 yn cael ei
ddosbarthu i’r aelodau. |
|
Adroddiadau a Diweddariadau'r Rheoleiddiwr a'r Arolygiaeth Cofnodion: Ystyriwyd yr eitem Adroddiadau a Diweddariadau'r
Rheoleiddwyr a'r Arolygiaeth. Roedd yr Adroddiad yn nodi Adroddiadau a
Diweddariadau’r Rheoleiddwyr a’r Arolygiaeth ac roedd iddo dair rhan: a) Diweddariad chwarterol Archwilio Cymru i'r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio - heb ei ddiweddaru ers Medi 2022; b) Unrhyw waith lleol ar risgiau a gyflwynwyd/a
gyhoeddwyd ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio; c) Adroddiadau Cenedlaethol Archwilio Cymru. Nododd Elin Prysor y canlynol: (i) Bod Adroddiad Arolygu Arolygiaeth Gofal Cymru ar Ofal
wedi’i Dargedu a Galluogi yn foddhaol – nid oedd yna ddiffyg cydymffurfiaeth. (ii) Bod adroddiad arolygu’r
IPCO wedi dod i law ac ymatebwyd iddo – dim angen camau pellach. (iii) Adroddiadau Cenedlaethol
Archwilio Cymru. Amser am newid –
Tlodi yng Nghymru: Ffurflen Ymateb i ddilyn. - Darlun o Reoli
Perygl Llifogydd: wedi’i gyflwyno i’r Grŵp Arweiniol a bydd yn cael ei
rannu â’r Pwyllgor Craffu. iii) Dylanwad Cydraddoldeb. Cyfle wedi’i golli.
Cyflwyno mentrau cymdeithasol a thwyll ariannol cenedlaethol i’r Grŵp
Arweiniol os na wnaed hynny eisoes. (iv) Bod y broses o ymdrin ag
adroddiadau Archwilio Cymru a darparu ymatebion yn cael ei diweddaru. Roedd swyddogion Archwilio Cymru, Non Jenkins a Jeff
Brown yn bresennol hefyd a rhoesant grynodeb o adroddiadau Archwilio Cymru: Diweddariad Chwarter 3 i ddilyn CYTUNWYD i (i) nodi’r sefyllfa bresennol; a (ii) nodi y byddai'r Grŵp
Arweiniol yn ystyried pob adroddiad cenedlaethol yn y dyfodol er mwyn
penderfynu (a chofnodi) a oes angen camau pellach ac ystyried y camau priodol. Nodwyd hefyd ei bod yn bwysig
gwahodd pob Aelod Lleyg i’r holl weithdai ar y gyllideb yn y dyfodol er mwyn
cael mwy o wybodaeth am y broses o baratoi Cyllideb y Cyngor. |
|
Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol 1/7/22 – 30/9/22 Cofnodion: Ystyriwyd Adroddiad Cynnydd y Rheolwr Corfforaethol –
Archwilio Mewnol ar Archwilio Mewnol yn Chwarter 2. Cyflwynwyd yr Adroddiad er
mwyn sicrhau bod y Pwyllgor yn fodlon fod yr Adain Archwilio Mewnol yn ymgymryd
â gwaith priodol a digonol i ddarparu sicrwydd realistig ar ddiwedd y flwyddyn
gan ychwanegu gwerth a chynorthwyo’r Cyngor wrth gyflawni ei amcanion. CYTUNWYD i ystyried y gwaith a wnaed a’r sefyllfa
bresennol o ran yr Adain Archwilio Mewnol. |
|
Siarter Archwilio Mewnol 2023/2024 Cofnodion: Ystyriwyd Siarter Archwilio Mewnol 2023/24.
Adroddwyd bod safon priodoledd 1000 - un o Safonau Archwilio Mewnol y Sector
Cyhoeddus (PSIAS) - yn ei gwneud yn ofynnol i bob gweithgaredd archwilio mewnol
gadw ‘siarter archwilio mewnol’. Dogfen ffurfiol yw’r siarter sy’n diffinio
diben y gweithgaredd archwilio mewnol, ei awdurdod a’i gyfrifoldeb ynghyd â
sefydlu rôl archwilio mewnol o fewn y sefydliad. Cafodd Siarter Archwilio Mewnol Cyngor Sir Ceredigion ei
chymeradwyo’n ffurfiol ym mis Medi 2013 ar yr un pryd ag y cyflwynwyd Safonau
Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus. Mae’r Rheolwr Corfforaethol Archwilio
Mewnol wedi adolygu’r siarter yn rheolaidd gan ei diweddaru yn ôl yr angen. Mae
pob fersiwn a ddiweddarwyd wedi’u cymeradwyo gan y Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio. Mae Siarter Archwilio Mewnol 2023/24 wedi'i hadolygu a'i diweddaru
gan y Rheolwr Corfforaethol Archwilio Mewnol. Mae'r Siarter wedi'i
hail-strwythuro a'i diweddaru yn unol ag argymhellion Asesiad Ansawdd Allanol o’r gwasanaeth Archwilio Mewnol: •
Mae'r Siarter bellach yn
cynnwys cyflwyniad i esbonio pwrpas Siarter Archwilio; •
Prif amcanion Archwilio
Mewnol a sut maen nhw'n cael eu cyflawni; •
Cyfrifoldebau’r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio i Archwilio Mewnol; •
Cyfrifoldebau'r Prif
Swyddog Cyllid i Archwilio Mewnol; a •
Strwythur adnoddau a
staffio cyfredol y Gwasanaeth Archwilio Mewnol. CYTUNWYD i gymeradwyo’r
adroddiad fel y’i cyflwynwyd. |
|
Cofnodion:
Adroddwyd bod gweithdy wedi ei gynnal ar 28 Tachwedd 2022 ar gyfer
Swyddogion perthnasol ac Aelodau'r Pwyllgor i ystyried y cynnydd a wnaed ar y
camau a nodwyd yn Natganiad Llywodraethu Blynyddol 2021-2022. Yn ystod y
gweithdy hwn cafodd y ddogfen Fframwaith Llywodraethu ei hadolygu i ystyried
unrhyw dystiolaeth ddiweddar y gellid ei chynnwys yn y ddogfen ac i gnoi cil
dros y camau gweithredu a nodwyd yn flaenorol. Lluniwyd Dogfen Fframwaith
Llywodraethu 2022-23 yn sgil y gweithdy hwn a chyfraniadau gan amrywiol
Swyddogion cyfrifol a nodir yn y ddogfen. Dogfen Fframwaith Llywodraethu
2022-23 fydd y sail ar gyfer Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2022-23 a fydd yn
cael ei gyflwyno i’r pwyllgor hwn ar ffurf ddrafft yn ei gyfarfod ar 9 Mawrth
2023. Roedd gwaith sgorio'r adolygiad
terfynol - a wnaed yn ystod y gweithdy - wedi'i gynnwys yn yr adroddiad i’r
Aelodau. I grynhoi, cafodd cyfanswm o 94 o ymddygiadau eu hadolygu. O ganlyniad
i drafodaethau yn dilyn y gweithdy, cynigiwyd bod un sgôr yn cael ei gwella o
5/6 i 7/8 (B3.1) o achos bod cam gweithredu a nodwyd wedi cael ei roi ar waith.
Cyflawnwyd y cam hwn drwy weithredu'r Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi. Felly,
roedd cyfanswm o 90 o ymddygiadau bellach yn cael sgôr o 9/10 ac roedd pedwar
yn cael sgôr o 7/8. Cafodd Côd
Llywodraethu Corfforaethol Lleol 2022-23 ei adolygu a’i newid i greu Côd Llywodraethu Corfforaethol Lleol drafft 2022-23. Roedd
y Côd wedi cael ei ddiweddaru i egluro’n fwy sut
mae’r saith egwyddor ar gyfer llywodraethu da, a nodir gan CIPFA/SOLACE yn ‘Delivering Good Governance in Local Government’ (argraffiad 2016), yn cael eu cynnwys gan y
Cyngor yn ei Gôd Llywodraethu Corfforaethol Lleol ei
hun. Roedd y tabl a oedd yn nodi'r Côd a'r camau a
gymerwyd i gwrdd â'r gofynion wedi'i ddiwygio hefyd i'w gwneud hi'n haws i'w
ddarllen. Yn y blynyddoedd blaenorol
roedd y Côd wedi cael ei gyflwyno fel copi o'r
Ddogfen Fframwaith Llywodraethu, ond mae Côd 2023-24
yn cymryd agwedd fwy ‘blaengar’ at y Fframwaith Llywodraethu drwy roi mwy o
bwyslais ar y gwaith presennol yn hytrach na chamau a weithredwyd yn flaenorol. Yn dilyn cwestiynau o’r llawr
CYTUNWYD i i) Nodi’r Ddogfen Fframwaith
Llywodraethu; (ii)
Cymeradwyo’r cynnydd yn y sgôr o 5/6 i 7/8 ar gyfer ymddygiad B3.1 yn Nogfen y
Fframwaith Llywodraethu o achos bod y Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi wedi cael
ei roi ar waith; (iii)
Argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo Côd Llywodraethu
Corfforaethol Lleol 2023-24; (iv)
y byddai dogfennau’r Fframwaith a’r Côd yn cael eu
hadolygu yn rheolaidd wrth fynd ymlaen a’u cyflwyno i’r Pwyllgor. |
|
Adroddiad Hanner Blwyddyn ynghylch Canmoliaeth a Chwynion Cofnodion: Adroddwyd bod yr adroddiad hwn
yn rhoi gwybodaeth ynghylch nifer y sylwadau o ganmoliaeth a chwynion a
dderbyniwyd gan y Cyngor yn ystod y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2022 a 30 Medi
2022. Roedd yr adroddiad ei hun yn
cynnwys gwybodaeth benodol am nifer y cwynion a dderbyniwyd, gwahanol gamau’r
cwynion, perfformiad a chanlyniadau sy’n gysylltiedig â’r rhain. Ceir adran hefyd ar y cyswllt a dderbyniwyd
gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“yr Ombwdsmon”) yn ystod y cyfnod
adrodd. Crynodeb o’r gweithgarwch ar
gyfer hanner cyntaf 22/23 •
Derbyniwyd 95 sylw o
ganmoliaeth •
Derbyniwyd 66 cwyn Cam 1
= 40 Cam 2 = 26 •
Derbyniwyd 16 ‘cyswllt’
drwy Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru •
Cafodd 206 o ymholiadau
eu prosesu gan y Gwasanaeth Cwynion a Rhyddid Gwybodaeth •
Mae nifer y cwynion a
dderbyniwyd yn ystod y cyfnod adrodd hwn (66) yn debyg i’r nifer a dderbyniwyd
yn rhan gyntaf ac ail hanner 2021/22 (62 a 71 yn eu trefn). •
Bu ychydig o gynnydd yn
nifer yr ymholiadau a reolid gan y Gwasanaeth Cwynion a Rhyddid Gwybodaeth yn
hanner cyntaf 2022/23 o gymharu â hanner cyntaf ac ail hanner 2021/22, gyda
chynnydd o 6% o gymharu â hanner cyntaf 2021/22 a chynnydd o 18% o gymharu ag
ail hanner 2021/22. •
Cafwyd cynnydd o 8 (sef
cynnydd o 25%) yn nifer y cwynion Cam 1 o gymharu â hanner cyntaf 2021/22. Er hynny, roedd gostyngiad yn nifer y cwynion
yr ymchwiliwyd iddynt ar Gam 2 (gostyngiad o 4, neu 13%). •
Mae nifer y cwynion a
gyfeirir i’r Ombwdsmon wedi gostwng o gymharu â’r nifer a gyfeiriwyd yn hanner
cyntaf ac ail hanner 2021/22. Caewyd 9 cwyn ar ôl yr ystyriaeth gychwynnol
(56%) ac ystyriwyd bod 1 achos yn un ‘Cyn Pryd’ (6%). Cafodd y 6 achos a oedd yn weddill eu datrys
drwy ‘Ddatrysiad Buan’ (38%). •
Cafodd canran llai o
gwynion eu cyfiawnhau yn ystod hanner cyntaf 2022/23, 41% o gymharu â 49% o’r
holl gwynion a dderbyniwyd yn 2021/22. Ni chafodd 33% o’r cwynion a dderbyniwyd
yn ystod y cyfnod adrodd hwn eu cyfiawnhau, sy’n gyfradd debyg o gymharu â 2021/22
lle na chafodd 31% o gwynion eu cyfiawnhau.
Fodd bynnag, bu cynnydd yn nifer y cwynion a gafodd naill ai eu dirwyn i
ben neu eu tynnu’n ôl, gydag 20% yn cael eu dirwyn i ben/tynnu’n ôl yn ystod
hanner cyntaf 2022/23 o gymharu ag 8% o bob achos yn 2021/22. CYTUNWYD i gymeradwyo cynnwys
yr Adroddiad Hanner Blwyddyn ynghylch Canmoliaeth a Chwynion (2022/2023). Hefyd
gofynnodd y Pwyllgor am fanylion pellach am y cwynion a gafwyd a’r effaith ar
drigolion. Mewn ymateb, dywedodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol - Polisi a
Pherfformiad, y gellid casglu'r wybodaeth yma ond roedd yn poeni nad oedd digon
o adnoddau yn y gwasanaeth ar hyn o bryd i wneud hynny. Cytunwyd hefyd y byddai polisïau
a gweithdrefnau cwynion y Gwasanaethau Corfforaethol a Chymdeithasol yn cael eu
dosbarthu i aelodau'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. |
|
Adroddiad Hunanasesu Terfynol Cyngor Sir Ceredigion Cofnodion: Cyflwynodd Rhan 6 o Ddeddf
Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 drefn berfformio newydd yn
seiliedig ar Hunanasesu ar gyfer Prif Gynghorau. Bwriad y drefn berfformio
newydd oedd adeiladu a chefnogi diwylliant lle mae cynghorau yn ceisio gwneud
yn well yn barhaus ym mhopeth a wnânt, beth bynnag yw eu perfformiad yn barod.
Roedd y Ddeddf yn disgwyl y bydd cynghorau bob amser yn ymdrechu i gyflawni mwy
ac yn ceisio sicrhau’r canlyniadau gorau i bobl leol a chymunedau. Roedd y Ddeddf yn cyflwyno 5
dyletswydd benodol i Gynghorau: •
Dyletswydd i adolygu
perfformiad yn barhaus •
Dyletswydd i ymgynghori
ar berfformiad •
Dyletswydd i adrodd ar
berfformiad •
Dyletswydd i drefnu Panel
Asesu Perfformiad •
Dyletswydd i ymateb i
Asesiad y Panel Perfformiad O dan ei ddyletswydd i adrodd
ar berfformiad, roedd yn rhaid i'r Cyngor gyhoeddi Adroddiad Hunanasesu ar
gyfer pob blwyddyn ariannol. Roedd y rhain yn nodi'r casgliadau ynghylch a oedd
y Cyngor wedi bodloni'r gofynion perfformiad yn ystod y flwyddyn ariannol
honno, ac unrhyw gamau y bydd yn eu cymryd neu y mae eisoes wedi eu cymryd i
wella’i gynnydd wrth fodloni'r gofynion perfformiad. Roedd pwyslais yr
Adroddiad ar ddeall sut yr oedd y Cyngor yn gweithredu yn awr, y galwadau y
bydd yn debygol o wynebu yn y dyfodol, a sut y gall feithrin cynaliadwyedd. Bu’r Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio yn ystyried yr Adroddiad Hunanasesu Drafft yn ei gyfarfod ar 27 Medi
2022. Ni wnaed dim argymhellion ffurfiol i newid y casgliadau na'r camau y
mae'r Cyngor yn bwriadu eu cymryd, fodd bynnag, gofynnwyd am fân newidiadau i'r
fformat a chodwyd nifer o bwyntiau ar sut i wella'r cylch nesaf o adrodd.
Diweddarwyd yr Adroddiad Hunanasesu gyda’r diwygiadau hyn. Cymeradwywyd yr
Adroddiad gan y Cabinet ar 6 Rhagfyr 2022 a chan y Cyngor ar 15 Rhagfyr 2022. Roedd y Pwyllgor Llywodraethu
ac Archwilio yn un o bedwar derbynnydd statudol yr Adroddiad Hunanasesu
Terfynol. Bydd yr Adroddiad hefyd yn cael ei gyflwyno i’r Gweinidogion, Estyn
ac Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn ogystal â’i gyhoeddi ar wefan y
Cyngor. CYTUNWYD i (i) dderbyn Adroddiad Hunanasesu
2021/22 gan gynnwys yr Adolygiad Blynyddol o Amcanion Perfformiad a Llesiant; (ii)
parhau i graffu ar yr adroddiad er mwyn gwella perfformiad yn y dyfodol. |
|
Strategaeth Gorfforaethol Cyngor Sir Ceredigion 2022-2027 Cofnodion: Diben
y Strategaeth Gorfforaethol yw dangos sut fydd y Cyngor yn ceisio gwella
llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol trigolion a
chymunedau Ceredigion a hefyd cyfrannu i’r eithaf i’r saith Amcan Llesiant
Cenedlaethol, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Yr Amcanion Llesiant Corfforaethol yw: •
Hybu’r economi, cefnogi
busnesau a galluogi cyflogaeth •
Creu cymunedau gofalgar
ac iach •
Darparu'r dechrau gorau
mewn bywyd a galluogi pobl o bob oed i ddysgu •
Creu cymunedau cynaliadwy
a gwyrdd sydd wedi’u cysylltu’n dda â’i gilydd Maen nhw wedi cael eu nodi drwy
ddadansoddi tystiolaeth yn helaeth ac ymgysylltu â'r trigolion, gan gynnwys
dyheadau'r weinyddiaeth wleidyddol newydd, Asesiad o Lesiant Lleol Ceredigion
a'r ymgynghoriad cyhoeddus a fu ar y strategaeth ddrafft yn ystod Medi/Hydref
2022. Hefyd mae’r amcanion wedi’u
nodi drwy weledigaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Roedd
hyn yn cynnwys nodi sut y gallem wneud y cyfraniad mwyaf i'r amcanion llesiant
cenedlaethol a hefyd sicrhau ein bod yn defnyddio’r egwyddor o ddatblygu
cynaliadwy i ddiwallu anghenion y presennol heb amharu ar allu cenedlaethau’r
dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain. Bydd y Strategaeth
Gorfforaethol yn cael ei rhoi ar waith dros y pum mlynedd nesaf a bydd y
cynnydd yn cael ei adolygu’n flynyddol yn Adroddiad Hunanasesu’r Cyngor a
gyhoeddir ym mis Tachwedd bob blwyddyn. CYTUNWYD i dderbyn y
Strategaeth Gorfforaethol newydd ar gyfer 2022-2027 gan gynnwys yr Amcanion
Llesiant Corfforaethol newydd. Rhoddir sylw i’r Strategaeth Gorfforaethol ar holl gyfryngau a gwefan y Cyngor yn dilyn y cyfarfod. |
|
Cofnodion: CYTUNWYD i nodi cynnwys y Flaenraglen Waith fel y’i cyflwynwyd ar yr amod y nodir bod
yr eitem ar Archwilio Mewnol yn Hunanarfarnu’r Fenter
Twyll Genedlaethol wedi cael ei thynnu oddi ar yr agenda wreiddiol ar gyfer 17
Ionawr 2023. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna'r Cadeirydd fod angen i'r Pwyllgor roi sylw brys iddo Cofnodion: Dim. |