Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy'n Dysgu - Dydd Iau, 8fed Chwefror, 2024 1.30 pm

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Croeso ac Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Dim

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Datganodd yr aelodau fuddiant personol ond nid oedd yn rhagfarnu fel llywodraethwyr ysgol a benodwyd gan y Cyngor.

3.

Adroddiad am Gyllideb ddrafft 24/25 pdf eicon PDF 3 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies, yr adroddiad ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2024/2025 (Atodiad A). Dywedodd yr Arweinydd fod hon yn sefyllfa ariannol eithriadol o anodd sy'n wynebu'r Cyngor gyda phwysau ariannol sylweddol.

 

Cyflwynodd Aelod y Cabinet ar gyfer Cyllid a Chaffael, y Cynghorydd Gareth Davies, y wybodaeth sy'n weddill yn Atodiad A yr adroddiad. Dywedodd y Cynghorydd Davies hefyd mai dyma'r sefyllfa ariannol waethaf y mae wedi ei hwynebu o bell ffordd fel Cynghorydd wrth bennu'r gyllideb.

 

Yna rhoddodd Duncan Hall, Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Cyllid a Chaffael, ddiweddariad llafar byr o ran sefyllfa ddiweddaraf y Gyllideb.

 

Yna rhoddodd Aelodau'r Cabinet yn eu tro wybodaeth fanwl ynghylch Atodiadau B ac C a'r cynigion penodol o ran arbedion a ddangosir yn Atodiad D, fel a ganlyn:

 

D1 – Gwasanaethau Ysgolion a Dysgu Gydol Oes

Aelod Cabinet a Phortffolio Cabinet:

·       Y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau;

·       Y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a          Gwasanaethau Cwsmeriaid

Y Targed o ran Lleihau Costau / Gwneud Arbedion 2024/25: £1.539m o          Gyllidebau Dirprwyedig Ysgolion

£696k o’r gyllideb sy’n cael ei chadw ar gyfer y Gwasanaethau Ysgolion a Dysgu Gydol Oes

Y gyllideb bresennol: £56.8m (gan gynnwys £47.5m a ddirprwyir i ysgolion)

 

Yna ystyriodd yr Aelodau Atodiad E, Ffioedd a Chostau yn ymwneud â'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu, tudalennau 15-16 papurau'r agenda.

 

Yna ystyriodd yr aelodau Atodiad F ac Atodiad G.

 

Yn dilyn trafodaeth, gofynnwyd i Aelodau'r Pwyllgor ystyried yr argymhellion canlynol.

 

Argymhellion:       

O ran y gwasanaethau sydd yng nghylch gwaith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu hwn, gofynnir i’r Aelodau:

1.    Ystyried y canlynol:

a)    sefyllfa gyffredinol cyllideb ddrafft 24/25.

b)    yr elfennau perthnasol o ran y symudiadau yn y Gyllideb Refeniw.

c)    yr elfennau perthnasol yng nghyswllt y pwysau o ran costau yn y Gyllideb Refeniw.

d)    yr elfennau perthnasol o ran y cynigion ynghylch gwneud arbedion yn y Gyllideb Refeniw.

e)    yr elfennau perthnasol o ran y cynigion ynghylch Ffioedd a Chostau.

f)      cynnig y Cabinet ynghylch Premiymau Treth y Cyngor.

g)    yr elfennau perthnasol o ran y Rhaglen Gyfalaf Aml-flwyddyn.

2.    Gwneud unrhyw argymhellion y mae’r Pwyllgor yn credu sy’n briodol yng nghyswllt y Gyllideb, er mwyn i’r Cabinet eu hystyried ar 20/02/24.

 

Rheswm dros yr argymhellion:

Er mwyn cynorthwyo â pharatoi cyllideb gytbwys, sicrhau bod y gyllideb gyffredinol sy’n cael ei chynnig yn cael ei chraffu’n briodol a gwneud argymhellion, fel y bo’n briodol, i’r Cabinet eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 20/02/24.

 

Yn dilyn trafodaeth, CYTUNODD Aelodau'r Pwyllgor eu bod wedi ystyried yr argymhellion uchod ac wedi cytuno y byddai cynigion a nodwyd yn y dyfodol o ran arbedion ar gyfer 2025/26 ymlaen yn cael eu rhoi ar y flaenraglen graffu pan fo’n briodol.

 

4.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod diwethaf ac i drafod unrhyw faterion sy'n codi o'r cofnodion pdf eicon PDF 142 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i gadarnhau bod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor yn rhai cywir.