Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy'n Dysgu - Dydd Iau, 17eg Chwefror, 2022 1.30 pm

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Odwyn Davies a Mark Strong am eu hanallu i fod yn bresennol yn y cyfarfod.

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Dim

3.

Adroddiad ynghylch y gyllideb ddrafft ar gyfer 2022/23 pdf eicon PDF 4 MB

Cofnodion:

 

Gwnaeth Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu gyfarfod i ystyried cyllideb y Gwasanaeth ar gyfer y meysydd gwasanaeth hynny sydd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor ac ystyried yr argymhellion a ganlyn:

 

1. Ystyried y Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf cyffredinol a gynigir.

2. Ystyried pwysau amcangyfrifedig y costau a wynebir (£13.173m ar draws pob agwedd).

3. Ystyried y Ffioedd a'r costau arfaethedig a'r incwm ychwanegol o £155k a amcangyfrifir i helpu gyda'r Arbedion sydd eu hangen.

4. Nodi'r Targed Arbedion Teithio arfaethedig o £230k ar gyfer Swyddogion ac Aelodau.

5. Nodi’r Balans Arbedion o £113k y mae angen dod o hyd iddo o hyd.

6. Ystyried y 3 opsiwn a gynigir ar gyfer lefel Treth y Cyngor, sef 4.75%, 5.0% a 5.25%.

7. Rhoi unrhyw adborth priodol arall sy'n gysylltiedig â'r Gyllideb Ddrafft i'r Cabinet.

 

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, yr adroddiad ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2022/2023 gan gynnwys y rhaglen gyfalaf tair blynedd, gan egluro mai setliad dros dro yw hwn, a bod y setliad terfynol i fod i ddod ar Fawrth 1af, 2022.

 

Dywedodd yr Arweinydd hefyd fod llythyr wedi dod i law ar Chwefror 17eg 2022 oddi wrth Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn cyhoeddi cynnydd o £50m ar gyfer y setliad llywodraeth leol ar gyfer 2021-2022. Nid yw'r swm i'w ddyrannu i Gyngor Sir Ceredigion yn hysbys hyd yma ond mae'n debygol o fod oddeutu £1m. Nid yw’r cyllid wedi’i neilltuo (h.y. nid yw wedi’i ddyrannu i wasanaethau penodol) a gellir ei gario ymlaen mewn cronfeydd wrth gefn i flwyddyn ariannol 2022-2023. Eglurwyd y byddai angen ystyried goblygiadau’r cyllid ychwanegol hwn a sut y byddai hynny’n cael ei ddyrannu ar gyfer cyllideb 2022-2023.

 

Croesawodd yr aelodau’r cyllid ychwanegol ond mynegwyd siom bod y cyhoeddiad yn hwyr ac nad oedd yn caniatáu i graffu ddigwydd ar sail y wybodaeth newydd. Cadarnhaodd y Prif Weithredwr y byddai gwybodaeth yn cael ei chyflwyno i'r Cyngor ar Fawrth 3ydd 2022 ac y byddai cyfle i drafod ymhellach.

 

Cyflwynodd Aelod perthnasol y Cabinet y wybodaeth sy'n berthnasol i'w Faes Gwasanaeth. Yna rhoddwyd cyfle i'r aelodau ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb yn eu tro gan Aelodau’r Cabinet a/neu Swyddogion.

 

Ystyriodd Aelodau'r Pwyllgor Bwysau’r Costau gyfer y meysydd gwasanaeth hynny sydd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor, sef:

• Ysgolion a Diwylliant a Phorth Cymorth Cynnar

 

Ac:

Ystyriodd Aelodau'r Pwyllgor y newidiadau arfaethedig i’r Ffioedd a Chostau o dan

Gylch gwaith y Pwyllgor yn Atodiad D, tudalennau 17 i 18 o 64, papurau’r agenda.

 

Cytunodd y Pwyllgor na fyddai’r 3 opsiwn a gynigiwyd ar gyfer lefelau Treth y Cyngor yn cael eu trafod yn y cyfarfod heddiw oherwydd cyhoeddiad Llywodraeth Cymru bod amcangyfrif o £1miliwn ychwanegol wedi’i ddyrannu i Gyngor Ceredigion. Bydd trafodaethau pellach yn cael eu cynnal yn y Cyngor.

 

Argymhellion:

Yn dilyn ystyriaeth, cytunodd yr Aelodau i argymell bod y Cabinet yn:

1. CYMERADWYO’r Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf cyffredinol a gynigir;

2. CYMERADWYO Pwysau amcangyfrifedig y Costau;

3.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Cynllun Gweithredu y Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-32 pdf eicon PDF 343 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu Aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu yn ystyried Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-32.  Cynhaliwyd ymgynghoriad ar gynnwys y Cynllun am wyth wythnos, sef rhwng 20.9.21 a 12.11.21. Cafwyd ystod o ymatebion i’r ymgynghoriad hwnnw, sydd wedi’u coladu, ynghyd â sylwadau’r Awdurdod Lleol, yn y ddogfen ‘CSGA - ymateb i’r ymgynghoriad’.

 

Cyflwynwyd Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg i Lywodraeth Cymru ar 31.1.22 a bydd unrhyw sylwadau a ddaw ganddynt yn cael eu cyflwyno fel gwelliannau i’r Cynllun gwreiddiol. Nid oes dyddiad penodol ar gyfer Llywodraeth Cymru yn cyflwyno ei hymateb i Awdurdodau Lleol.

 

Ar ôl ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad, CYTUNODD y Pwyllgor i argymell y canlynol i’r Cabinet:

 

i)             Cytuno i fabwysiadu cynnwys Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg ar gyfer 2022-2032, a’i weithredu o Fedi 1 2022 ac am y ddegawd i ddilyn

ii)            Bod unrhyw sylwadau a gynigir gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cynnwys fel gwelliannau i’r Cynllun, ac yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu ac i’r Cabinet er gwybodaeth

iii)           Bod Cynllun Gweithredu blynyddol yn cael ei lunio a’i fonitro drwy gyfrwng y Fforwm Iaith a phwyllgor Dyfodol Dwyieithog.

iv)           Bod adroddiad blynyddol ar gynnydd yn erbyn Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn cael ei gyflwyno i’r Fforwm Iaith, pwyllgor Dyfodol Dwyieithog, Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu ac i’r Cabinet

 

5.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol ac unrhyw faterion sy'n codi ohonynt pdf eicon PDF 296 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i gadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2021

 

 

Materion yn codi

 

Nid oedd materion yn codi.