Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda
Cyswllt: Dwynwen Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorydd
Paul Hinge am na fedrai ddod i’r
cyfarfod gan ei fod yn
cyflawni dyletswyddau eraill ar ran y Cyngor. Hefyd, ymddiheurodd y Cynghorydd Elaine
Evans am na fedrai ddod i’r
cyfarfod. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Cofnodion: Dim. |
|
Safonau Masnach (Scamiau) PDF 154 KB Cofnodion: Rhoddodd y Rheolwr Safonau Masnach a Thrwyddedu ddiweddariad i’r Pwyllgor am sgamiau, materion yn ymwneud
â throseddau ar garreg y drws a’r
gwaith a wneir gan Safonau Masnach. Yn gyffredin â’r rhan fwyaf
o awdurdodau safonau masnach ledled Cymru a Lloegr, mae Tîm Safonau
Masnach Ceredigion, fel pwynt cyswllt cyntaf
ar gyfer aelodau o’r cyhoedd,
yn defnyddio’r gwasanaeth Cyngor ar Bopeth i
ddefnyddwyr, a sefydlwyd ac
a ariennir yn genedlaethol gan lywodraeth ganolog, i gynnig cyngor
sifil i ddefnyddwyr
ac i weithredu fel porthol ar
gyfer atgyfeiriadau i dimau safonau
masnach awdurdodau lleol.
Caiff gwybodaeth berthnasol ei throsglwyddo
wedyn i bob awdurdod lleol yn ddyddiol iddynt
hwy gymryd unrhyw gamau gweithredu
priodol. Mae’r Tîm Safonau Masnach
yn gofyn ar i 100% o
gwynion ynghylch sgamiau a throseddau ar garreg y drws gael eu trosglwyddo iddynt. Mae’r Gwasanaeth hefyd yn defnyddio’r Model Gweithredu Cudd-wybodaeth Cenedlaethol i ddynodi blaenoriaethau
ar sail niwed i ddefnyddwyr a bregusrwydd, ac mae
sgamiau a throseddau ar garreg y drws
yn ymddangos yn gyson yn
y 5 maes blaenoriaeth uchaf. Yn 2019/20 derbyniodd y Tîm Safonau Masnach 552 adroddiad gan y gwasanaeth Cyngor ar Bopeth i
ddefnyddwyr ac roedd 40 o’r rhain yn
ymwneud yn benodol â sgamiau a throseddau ar garreg
y drws. Derbyniodd y Tîm atgyfeiriadau hefyd gan y Tîm
Sgamiau Safonau Masnach Cenedlaethol. Yn ystod yr
un cyfnod, ymdriniodd y Tîm Safonau Masnach
â 48 atgyfeiriad gan y Tîm Safonau Masnach
Cenedlaethol mewn perthynas â dioddefwyr sgamiau; caiff pob adroddiad ei
frysbennu ac mae’r ymyrraeth yn dibynnu
ar lefel y risg sy’n gysylltiedig
â’r unigolyn hwnnw. Gan fod nifer o bobl wedi
gorfod aros gartref yn ystod
y pandemig, esboniwyd bod nifer o aelwydydd wedi dod yn
ddibynnol ar gysylltedd da â’r rhyngrwyd ar gyfer
siopa ar-lein, gweithio gartref, derbyn addysg gartref,
tanysgrifiadau i adloniant ar-lein, ac ati, ac roedd y sgamiau cyflenwi ac ar-lein nodweddiadol y byddai twyllwyr yn rhoi cynnig
arnynt er mwyn gwneud arian
ar draul y cyhoedd diarwybod yn cynnwys: •
Anfon negeseuon testun ac
e-bost at bobl i’w hudo i
wneud cais am frechlyn Covid-19 •
Neges awtomatig yn dweud bod BT yn mynd i atal
dros dro y band eang gan fod
y cyfeiriad IP wedi’i gyfaddawdu, a neges yn gofyn i’r
derbynnydd ‘bwyso 1’ er mwyn parhau.
•
Neges awtomatig yn dweud bod yr alwad
gan Amazon Prime ac yn honni y byddai tâl o £79 yn cael
ei godi am Amazon Prime ar gerdyn y derbynnydd. •
Neges destun, yn ôl pob golwg,
gan Y Post Brenhinol, yn datgan bod angen
aildrefnu danfon pecyn neu fod
eitem yn aros i’w chasglu,
ac yn gofyn i’r derbynnydd bwyso dolen ‘bit.ly’ O’r 740 adroddiad/cwyn gan ddefnyddwyr a dderbyniwyd gan y Tîm Safonau Masnach ers dechrau’r pandemig, roedd 67 achos yn gysylltiedig â defnyddwyr Ceredigion ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 11. |
|
Adroddiad Blynyddol Uned Gofalwyr 2020-2021 PDF 1 MB Cofnodion: Rhoddodd yr Aelod Cabinet a’r Rheolwr Tîm – Gofalwyr Gydol Oes a Chymorth Cymunedol adroddiad am lwyddiannau Uned Gofalwyr Ceredigion a’r cynnydd a wnaed o ran y targedau a’r amcanion
a gytunwyd arnynt yn ystod blwyddyn
2020-2021. Mae’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn rhoi
hawl gyfartal i Ofalwyr i
asesu eu hanghenion fel y rheini y maent yn gofalu amdanynt.
O dan y ddeddf, mae'n rhaid i
awdurdodau lleol ddarparu cynllun cymorth i helpu
Gofalwyr i sicrhau'r canlyniadau sy'n bwysig iddyn
nhw. Symud ymlaen â chamau i sicrhau bod yr
hawliau gwell hyn yn cael
eu cydnabod a'u gweithredu'n weithredol. Y 3 blaenoriaeth genedlaethol oedd: • Cefnogi bywyd ochr yn
ochr â gofalu - Rhaid i bob Gofalwr
gael seibiannau
rhesymol o'u rôl ofalu i'w
galluogi i gynnal eu gallu
i ofalu, a chael bywyd y tu
hwnt i ofalu.
• Nodi ac adnabod Gofalwyr – Yn hanfodol i
lwyddiant cyflawni gwell canlyniadau i Ofalwyr yw'r
angen i wella
cydnabyddiaeth Gofalwyr o'u rôl ac i
sicrhau y gallant gael gafael ar y cymorth angenrheidiol. • Rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth - Mae’n bwysig bod Gofalwyr yn cael y wybodaeth
briodol a'r cyngor priodol ble a phryd y mae eu hangen
arnynt. Dywedwyd bod Cyngor Sir
Ceredigion yn parhau i fod yn
ymrwymedig i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl sy'n
canolbwyntio ar ganlyniadau i wella
bywydau Gofalwyr, ac i wella cefnogaeth,
gwasanaethau a chydnabyddiaeth
Gofalwyr yng Ngheredigion yn barhaus. Mae’r Ddeddf yn rhoi
diffiniad o Ofalwr fel “person sy’n darparu neu’n bwriadu
darparu gofal i oedolyn neu
blentyn anabl”. Mae hyn yn dileu’r
gofyniad bod rhaid i ofalwyr roi
“swm sylweddol o ofal ar sail reolaidd”. Gofynnodd yr Aelodau gwestiwn am y ddarpariaeth seibiant a oedd ar
gael. Soniodd y Swyddog Datblygu Gofalwyr am yr amrywiol opsiynau oedd ar gael. Pwysleisiodd yr Aelodau mor bwysig oedd rhannu gwybodaeth
yn enwedig yn yr ysgolion
ac yn y meddygfeydd. Cytunodd y Pwyllgor i nodi’r adroddiad. |
|
Adroddiad Blynyddol 2020-2021 Grwp Datblygu Gofalwyr Gorllewin Cymru PDF 2 MB Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet a’r Rheolwr Tîm – Gofalwyr Gydol Oes a Chymorth Cymunedol yr adroddiad a
oedd wedi’i baratoi gan Grŵp Datblygu Gofalwyr Gorllewin Cymru ar gyfer
Llywodraeth Cymru i amlinellu'r cynnydd
a gyflawnwyd i fodloni blaenoriaethau Gofalwyr Llywodraeth Cymru gan Grŵp
Datblygu Gofalwyr Rhanbarthol Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru. Ym mis Ebrill
2017, cytunodd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru i gynnwys Gofalwyr
fel ffrwd waith allweddol, gan adlewyrchu pwysigrwydd y grŵp poblogaeth hwn o fewn cyfrifoldebau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant (Cymru) 2014. Gwnaeth yr adroddiad
a gyflwynwyd grynhoi gweithgarwch Grŵp Datblygu Gofalwyr Gorllewin Cymru yn ystod y cyfnod
1 Ebrill 2020– 31 Mawrth
2021. Mae Grŵp Datblygu
Gofalwyr Gorllewin Cymru yn is-grŵp
ffurfiol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru sy'n cynnwys cynrychiolwyr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (Bwrdd Iechyd), tri Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin, Ceredigion
a Sir Benfro, yn ogystal â sefydliadau'r Trydydd sector a'r sector Gwirfoddol, a chynrychiolwyr Gofalwyr yng Ngorllewin
Cymru. Mae
2019/20 yn adlewyrchu cyfnod pontio Llywodraeth
Cymru rhwng Mesur Strategaethau Gwybodaeth ac Ymgynghori Gofalwyr (Cymru) 2010 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant (Cymru) 2014. Yn eu llythyr
cyllideb dyddiedig 14 Mawrth 2018 nododd Llywodraeth Cymru eu disgwyliad y bydd iechyd, awdurdodau
lleol a’r trydydd sector yn gweithio mewn partneriaeth
i gefnogi gofalwyr o dan y Ddeddf trwy: • Gefnogi bywyd ochr yn
ochr â gofalu - darparu cyfleoedd i ofalwyr gael seibiannau rhesymol o'u rôl
ofalu i'w galluogi i gynnal
eu gallu i ofalu, a chael
bywyd y tu hwnt i ofalu. • Nodi a chydnabod gofalwyr - gwella cydnabyddiaeth Gofalwyr o'u rôl
a sicrhau eu bod yn gallu gafael ar
y gefnogaeth gywir.
• Rhoi gwybodaeth,
cyngor a chymorth - rhoi cyngor priodol
lle a phryd y mae ei angen ar Ofalwyr. Roedd yr Aelodau yn dymuno tynnu
sylw at bwysigrwydd y Gymraeg wrth ofalu
am rywun sy’n Gymraeg iaith gyntaf.
Hefyd, pwysleisiwyd bod angen i’r byrddau
iechyd gysylltu â’i gilydd pan fyddai claf yn
cael ei ryddhau
o ysbyty sydd wedi’i leoli mewn
bwrdd iechyd cyfagos er mwyn
sicrhau bod y gofal priodol ar gael i’r claf yn ei
gartref. Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i nodi’r adroddiad.
|
|
Cofnodion: Eitem 5 – Nododd y Pwyllgor fod aelodau’r
Cabinet a’r swyddogion wedi cwrdd â Thîm
Pêl-rwyd Llewod Llambed a Chyngor Tref Llanbedr Pont Steffan a’u bod yn cynnal
trafodaethau ar hyn o bryd. CYTUNWYD i gadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Medi 2021 yn rhai cywir. |