Agenda a Chofnodion

Cyfarfod arbennig, Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach - Dydd Mercher, 20fed Hydref, 2021 10.00 am

Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda

Cyswllt: Dwynwen Jones 

Eitemau
Rhif eitem

9.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorydd Paul Hinge am na fedrai ddod i’r cyfarfod gan ei fod yn cyflawni dyletswyddau eraill ar ran y Cyngor. Hefyd, ymddiheurodd y Cynghorydd Elaine Evans am na fedrai ddod i’r cyfarfod.

 

10.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio)
Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd
personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a
gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf
Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad
Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Dim.

11.

Safonau Masnach (Scamiau) pdf eicon PDF 154 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Safonau Masnach a Thrwyddedu ddiweddariad i’r Pwyllgor am sgamiau, materion yn ymwneud â throseddau ar garreg y drws a’r gwaith a wneir gan Safonau Masnach.

 

Yn gyffredin â’r rhan fwyaf o awdurdodau safonau masnach ledled Cymru a Lloegr, mae Tîm Safonau Masnach Ceredigion, fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer aelodau o’r cyhoedd, yn defnyddio’r gwasanaeth Cyngor ar Bopeth i ddefnyddwyr, a sefydlwyd ac a ariennir yn genedlaethol gan lywodraeth ganolog, i gynnig cyngor sifil i ddefnyddwyr ac i weithredu fel porthol ar gyfer atgyfeiriadau i dimau safonau masnach awdurdodau lleol. Caiff gwybodaeth berthnasol ei throsglwyddo wedyn i bob awdurdod lleol yn ddyddiol iddynt hwy gymryd unrhyw gamau gweithredu priodol. Mae’r Tîm Safonau Masnach yn gofyn ar i 100% o gwynion ynghylch sgamiau a throseddau ar garreg y

drws gael eu trosglwyddo iddynt.

 

Mae’r Gwasanaeth hefyd yn defnyddio’r Model Gweithredu Cudd-wybodaeth

Cenedlaethol i ddynodi blaenoriaethau ar sail niwed i ddefnyddwyr a bregusrwydd, ac mae sgamiau a throseddau ar garreg y drws yn ymddangos yn gyson yn y 5 maes blaenoriaeth uchaf.

 

Yn 2019/20 derbyniodd y Tîm Safonau Masnach 552 adroddiad gan y gwasanaeth Cyngor ar Bopeth i ddefnyddwyr ac roedd 40 o’r rhain yn ymwneud yn benodol â sgamiau a throseddau ar garreg y drws. Derbyniodd y Tîm atgyfeiriadau hefyd gan y Tîm Sgamiau Safonau Masnach

Cenedlaethol. Yn ystod yr un cyfnod, ymdriniodd y Tîm Safonau Masnach â 48 atgyfeiriad gan y Tîm Safonau Masnach Cenedlaethol mewn perthynas â dioddefwyr sgamiau; caiff pob adroddiad ei frysbennu ac mae’r ymyrraeth yn dibynnu ar lefel y risg sy’n gysylltiedig â’r unigolyn hwnnw.

 

Gan fod nifer o bobl wedi gorfod aros gartref yn ystod y pandemig, esboniwyd bod nifer o aelwydydd wedi dod yn ddibynnol ar gysylltedd da â’r rhyngrwyd ar gyfer siopa ar-lein, gweithio gartref, derbyn addysg gartref, tanysgrifiadau i adloniant ar-lein, ac ati, ac roedd y sgamiau cyflenwi ac ar-lein nodweddiadol y byddai twyllwyr yn rhoi cynnig arnynt er mwyn gwneud arian ar draul y cyhoedd diarwybod yn cynnwys:

      Anfon negeseuon testun ac e-bost at bobl i’w hudo i wneud cais am frechlyn Covid-19

      Neges awtomatig yn dweud bod BT yn mynd i atal dros dro y band eang gan fod y cyfeiriad IP wedi’i gyfaddawdu, a neges yn gofyn i’r derbynnyddbwyso 1’ er mwyn parhau.

      Neges awtomatig yn dweud bod yr alwad gan Amazon Prime ac yn honni y byddai tâl o £79 yn cael ei godi am Amazon Prime ar gerdyn y derbynnydd.

      Neges destun, yn ôl pob golwg, gan Y Post Brenhinol, yn datgan bod angen aildrefnu danfon pecyn neu fod eitem yn aros i’w chasglu, ac yn gofyn i’r derbynnydd bwyso dolen ‘bit.ly’

 

O’r 740 adroddiad/cwyn gan ddefnyddwyr a dderbyniwyd gan y Tîm Safonau Masnach ers dechrau’r pandemig, roedd 67 achos yn gysylltiedig â defnyddwyr Ceredigion  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 11.

12.

Adroddiad Blynyddol Uned Gofalwyr 2020-2021 pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod Cabinet a’r Rheolwr TîmGofalwyr Gydol Oes a Chymorth Cymunedol adroddiad am lwyddiannau Uned Gofalwyr Ceredigion  a’r cynnydd a wnaed o ran y targedau a’r amcanion a gytunwyd arnynt yn ystod blwyddyn 2020-2021.

 

            Mae’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn rhoi hawl gyfartal i Ofalwyr i asesu eu hanghenion fel y rheini y maent yn gofalu amdanynt. O dan y ddeddf, mae'n rhaid i awdurdodau lleol ddarparu cynllun cymorth i helpu Gofalwyr i sicrhau'r canlyniadau sy'n bwysig iddyn nhw. Symud ymlaen â chamau i sicrhau bod yr hawliau gwell hyn yn cael eu cydnabod a'u gweithredu'n weithredol. Y 3 blaenoriaeth genedlaethol oedd:

Cefnogi bywyd ochr yn ochr â gofalu - Rhaid i bob Gofalwr gael seibiannau rhesymol o'u rôl ofalu i'w galluogi i gynnal eu gallu i ofalu, a chael bywyd y tu hwnt i ofalu.

Nodi ac adnabod GofalwyrYn hanfodol i lwyddiant cyflawni gwell canlyniadau i Ofalwyr yw'r angen i wella cydnabyddiaeth Gofalwyr o'u rôl ac i sicrhau y gallant gael gafael ar y cymorth angenrheidiol.

Rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth - Mae’n bwysig bod Gofalwyr yn cael y wybodaeth briodol a'r cyngor priodol ble a phryd y mae eu hangen arnynt.

 

            Dywedwyd bod Cyngor Sir Ceredigion yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau i wella bywydau Gofalwyr, ac i wella cefnogaeth, gwasanaethau a chydnabyddiaeth Gofalwyr yng Ngheredigion yn barhaus. Mae’r Ddeddf yn rhoi diffiniad o Ofalwr fel “person sy’n darparu neu’n bwriadu darparu gofal i oedolyn neu blentyn anabl”. Mae hyn yn dileu’r gofyniad bod rhaid i ofalwyr roiswm sylweddol o ofal ar sail reolaidd”.

 

Gofynnodd yr Aelodau gwestiwn am y ddarpariaeth seibiant a oedd ar gael. Soniodd y Swyddog Datblygu Gofalwyr am yr amrywiol opsiynau oedd ar gael. Pwysleisiodd yr Aelodau mor bwysig oedd rhannu gwybodaeth yn enwedig yn yr ysgolion ac yn y meddygfeydd. 

 

            Cytunodd y Pwyllgor i nodi’r adroddiad. 

 

13.

Adroddiad Blynyddol 2020-2021 Grwp Datblygu Gofalwyr Gorllewin Cymru pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet a’r Rheolwr TîmGofalwyr Gydol Oes a Chymorth Cymunedol yr adroddiad a oedd wedi’i baratoi gan Grŵp Datblygu Gofalwyr Gorllewin Cymru ar gyfer Llywodraeth Cymru i amlinellu'r cynnydd a gyflawnwyd i fodloni blaenoriaethau Gofalwyr Llywodraeth Cymru gan Grŵp Datblygu Gofalwyr Rhanbarthol Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru.

 

            Ym mis Ebrill 2017, cytunodd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru i gynnwys Gofalwyr fel ffrwd waith allweddol, gan adlewyrchu pwysigrwydd y grŵp poblogaeth hwn o fewn cyfrifoldebau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Gwnaeth yr adroddiad a gyflwynwyd grynhoi gweithgarwch Grŵp Datblygu Gofalwyr Gorllewin Cymru yn ystod y cyfnod 1 Ebrill 2020– 31 Mawrth 2021. Mae Grŵp Datblygu Gofalwyr Gorllewin Cymru yn is-grŵp ffurfiol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru sy'n cynnwys cynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (Bwrdd Iechyd), tri Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, yn ogystal â sefydliadau'r Trydydd sector a'r sector Gwirfoddol, a chynrychiolwyr Gofalwyr yng Ngorllewin Cymru.

 

            Mae 2019/20 yn adlewyrchu cyfnod pontio Llywodraeth Cymru rhwng Mesur Strategaethau Gwybodaeth ac Ymgynghori Gofalwyr (Cymru) 2010 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Yn eu llythyr cyllideb dyddiedig 14 Mawrth 2018 nododd Llywodraeth Cymru eu disgwyliad y bydd iechyd, awdurdodau lleol a’r trydydd sector yn gweithio mewn partneriaeth i gefnogi gofalwyr o dan y Ddeddf trwy:

      Gefnogi bywyd ochr yn ochr â gofalu - darparu cyfleoedd i ofalwyr gael seibiannau rhesymol o'u rôl ofalu i'w galluogi i gynnal eu gallu i ofalu, a chael bywyd y tu hwnt i ofalu.

      Nodi a chydnabod gofalwyr - gwella cydnabyddiaeth Gofalwyr o'u rôl a sicrhau eu bod yn gallu gafael ar y gefnogaeth gywir.

      Rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth - rhoi cyngor priodol lle a phryd y mae ei angen ar Ofalwyr.

 

Roedd yr Aelodau yn dymuno tynnu sylw at bwysigrwydd y Gymraeg wrth ofalu am rywun sy’n Gymraeg iaith gyntaf. Hefyd, pwysleisiwyd bod angen i’r byrddau iechyd gysylltu â’i gilydd pan fyddai claf yn cael ei ryddhau o ysbyty sydd wedi’i leoli mewn bwrdd iechyd cyfagos er mwyn sicrhau bod y gofal priodol ar gael i’r claf yn ei gartref.

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i nodi’r adroddiad.

 

14.

Cadarnhau Cofnodion cyfarfod Arbennig o'r Pwyllgor Iachach 22.9.2021 ac ystyried unrhyw fater sy'n codi pdf eicon PDF 184 KB

Cofnodion:

           

Eitem 5 – Nododd y Pwyllgor fod aelodau’r Cabinet a’r swyddogion wedi cwrdd â Thîm Pêl-rwyd Llewod Llambed a Chyngor Tref Llanbedr Pont Steffan a’u bod yn cynnal trafodaethau ar hyn o bryd.

           

CYTUNWYD i gadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Medi 2021 yn rhai cywir.