Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach - Dydd Iau, 16eg Rhagfyr, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Penmorfa

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Paul Hinge a Catherine Hughes am nad oedd modd iddynt ddod i’r cyfarfod.

 

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

  Roedd y Cynghorydd Alun Williams wedi datgelu buddiant personol o dan eitem 7. 

 

3.

Polisi Grantiau a Benthyciadau pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Tynnwyd eitem 3 o’r agenda.  Cyflwynir yr adroddiad mewn cyfarfod yn y dyfodol.

4.

Adolygu Polisi Trwyddedu Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat y Cyngor - Bysus a dynnir gan geffylau pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor gan y Cynghorydd Gareth Lloyd a’r Rheolwr Safonau Masnach a Thrwyddedu.  Roedd unigolyn wedi cysylltu â’r Awdurdod yn mynegi diddordeb mewn defnyddio cart a cheffyl i fynd â theithwyr ar hyd y Promenâd yn Aberystwyth. 

 

Nid yw’r Polisi Cyfredol ar Gerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat yn cynnwys cart a cheffyl/ omnibws ac ar hyn o bryd nid oes gan Gyngor Sir Ceredigion unrhyw is-ddeddfau mewn lle ar gyfer rheoleiddio omnibysus. 

 

Ni all cart a cheffyl sy’n darparu cludiant cyhoeddus gael ei drwyddedu fel cerbyd hurio preifat am fod yr elfen yma’n gaeth i gerbydau modur yn unig. Gall cart a cheffyl gael ei drwyddedu i’w ddefnyddio fel ‘omnibws’ o dan Ddeddf Cymalau Heddlu’r Dref 1889. Fodd bynnag er mwyn trwyddedu a defnyddio omnibysus o’r fath byddai’n ofynnol i’r Awdurdod yn gyntaf:

1) Diwygio ei Bolisi Cyffredinol er mwyn cyflwyno amodau trwyddedu newydd a phenodol ar gyfer y math yma o gludiant, a

2) Mabwysiadu is-ddeddf newydd i reoleiddio ceirt a cheffylau / omnibysus.

 

Bu i’r Gwasanaeth dderbyn cyfanswm o 216 ymateb i’r ymgynghoriad yma.  Ceir dadansoddiad cryno o’r ymatebion ynghlwm yn Atodiad B y papurau. 

 

Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried cynnwys yr adroddiad yma a’r ymatebion i’r ymgynghoriad ac argymell i’r Cabinet naill ai:

1.    nad yw’r newid i’r polisi arfaethedig yn angenrheidiol ac y dylai’r Awdurdod ystyried parhau fel sir “heb omnibysus”,

neu

2.    bod newid arfaethedig i’r polisi yn angenrheidiol er mwyn caniatáu omnibysus yn Aberystwyth a/neu unrhyw ardal arall o’r sir lle byddai angen gwneud y canlynol:

a) mabwysiadu’r amodau trwyddedu newydd, a

b) mabwysiadu is-ddeddf newydd ar gyfer y trywydd penodol newydd a/neu unrhyw drywydd omnibws arfaethedig yn y dyfodol er mwyn gweithredu’n effeithiol unrhyw gamau sy’n groes i amodau’r drwydded.

           

Codwyd cwestiynau gan yr aelodau gan gynnwys y trefniadau ar gyfer y man troi a ddefnyddir gan y ceffyl a'r cart i droi yn yr harbwr, a ble fydd y cerbyd cludo ar gyfer y ceffyl a'r cart yn cael ei barcio.  Pwysleisiwyd y dylai lles anifeiliaid fod yn flaenoriaeth ac y dylid codi'r arwyddion cywir. 

 

Cydnabu'r Pwyllgor yr ymatebion i'r ymgynghoriad.

 

Yn dilyn rhagor o drafod CYTUNODD y Pwyllgor i argymell fod newid arfaethedig i’r polisi yn angenrheidiol er mwyn caniatáu omnibysus yn Aberystwyth a/neu unrhyw ardal arall o’r sir lle byddai angen gwneud y canlynol:

a) mabwysiadu’r amodau trwyddedu newydd, a

b) mabwysiadu is-ddeddf newydd ar gyfer y trywydd penodol newydd a/neu unrhyw drywydd omnibws arfaethedig yn y dyfodol er mwyn gweithredu’n effeithiol unrhyw gamau sy’n groes i amodau’r drwydded.

 

5.

Adroddiad Rheoli Perfformiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol, Cwarter 1 2021.2022 pdf eicon PDF 692 KB

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Alun Williams a’r Rheolwr Tîm Diogelu Oedolion gyflwyno i’r Pwyllgor Adroddiad Rheoli Perfformiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol, Chwarter 1 2021-2022.  Caiff adroddiadau chwarterol eu rhoi gerbron y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach fel rhan o'r ystyriaeth barhaus o'r pwnc i sicrhau bod yr Awdurdod Lleol yn cyflawni ei ddyletswyddau fel y Rhiant Corfforaethol.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys y safonau a'r targedau cenedlaethol a lleol a ddefnyddir i fesur y canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a phlant sydd wedi gadael gofal adeg eu cyfarfod adolygu, ac mae'n cynnwys Dangosyddion Perfformiad Llywodraeth Cymru.

 

Ystyriodd y Pwyllgor bwyntiau allweddol yr adroddiad. 

 

Holodd yr Aelodau ynghylch nifer yr atgyfeiriadau diogelu yn dilyn diwedd y cyfnod clo; sut yr ymdrinnir â phryderon am gamdriniaeth a riportir i'r gwasanaeth a beth yw’r gweithdrefnau sydd ar waith. 

 

Nodwyd y daw argymhellion yn dilyn yr ymchwiliadau i’r ddau ddigwyddiad diweddar yn y Deyrnas Unedig, a bydd angen i bob awdurdod ystyried y rhain ac adolygu eu gweithdrefnau. 

 

Cynigiwyd bod swyddogion yn trafod gyda'r gwasanaeth addysg er mwyn i nifer y Plant sy'n Derbyn Gofal yn yr ysgolion fod yn eitem sefydlog ar agenda cyfarfodydd cyrff llywodraethu’r ysgolion.

 

Esboniodd y swyddogion fod gan bob person ifanc gynorthwyydd personol sy'n gweithio'n agos gyda nhw o ran tai, hyfforddiant, addysg ac ati i gefnogi'r pontio i fod yn oedolyn.  Mae'r ddarpariaeth hon ar waith tan eu bod yn bump ar hugain oed.

 

Gofynnodd aelod am sicrwydd fod gan y gwasanaeth ddigon o adnoddau.  Ar hyn o bryd mae yna swyddi gwag ac mae'r gwasanaeth yn ceisio recriwtio iddynt, ond mae hon yn broblem ranbarthol a chenedlaethol.  Mae ymgyrchoedd recriwtio wrthi’n digwydd. 

 

Cytunodd y Pwyllgor i nodi cynnwys yr adroddiad a gweithgarwch yr Awdurdod Lleol.

6.

Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Alun Williams a’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol - Porth Gofal gyflwyno Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2019-20.  Nod yr Adroddiad Blynyddol yw creu darlun cyflawn o Adran y Gwasanaethau Cymdeithasol yng Ngheredigion gan hefyd ddarparu adborth amserol ar brosesau cynllunio a chyllido.  Mae’r adroddiad ar gyfer blwyddyn 2019 - 2020 yn un hanesyddol yn sgil dechrau cyfnod Covid-19 ym mis Mawrth 2020. Bu i Lywodraeth Cymru ymestyn y cyfnod amser ar gyfer cwblhau’r adroddiad yn sgil yr angen i swyddogion ffocysu ar ddarparu gwasanaethau hanfodol yn ystod y Pandemig. Yn ogystal, nid oedd y gofynion gymaint ar Gynghorau i ddarparu gwybodaeth perfformiad ac adlewyrchir hyn yn yr adroddiad.

 

Ar ôl ymgymryd â swydd Cyfarwyddwr Statudol dros dro am Wasanaethau Cymdeithasol ym mis Tachwedd 2019, cwblhawyd yr adroddiad gan D Pritchard y Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Porth Gofal a Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.  Mae’r adroddiad yn disgrifio sut y mae Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Ceredigion wedi perfformio yn ystod y flwyddyn (2019 - 2020) yng nghyd-destun newidiadau mawr yn yr amgylchedd gwaith. Mae’r adroddiad hefyd yn nodi’r blaenoriaethau ar gyfer 2020-2021 gan ystyried fod y Pandemig wedi parhau i fod yn ddylanwad mawr ar y modd y cafodd gwasanaethau eu darparu.

 

Nodwyd y bydd y swyddogion yn adolygu ffurf adroddiadau’r dyfodol. 

 

Cytunodd y Pwyllgor i nodi cynnwys yr adroddiad.

7.

Cyd-Bwyllgor Canolbarth Cymru ar gyfer Iechyd a Gofal - Adroddiad diweddariad Hydref 2021 pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Rhoddwyd y diweddaraf i’r Pwyllgor am Gyd-Bwyllgor Canolbarth Cymru ar gyfer Iechyd a Gofal.  Cyfarfu Cyd-Bwyllgor Canolbarth Cymru o bell dros Zoom ar 18 Hydref 2021 a rhoddwyd y cyfle i’r cyhoedd ymuno â’r cyfarfodbywi arsylwi a gofyn cwestiynau / mynegi pryderon yn ystod y sesiwnGwrando arnoch chi’. Prif bwyslais y Cyd-bwyllgor oedd trafod y gwaith parhaus a wneir ar flaenoriaethau a chynllun cyflawni 2021/22 a chynlluniau Adfer Blynyddol/ COVID-19 y sefydliad. 

 

Cododd yr Aelodau bryder ynghylch anawsterau’r cyhoedd wrth geisio cael apwyntiad gyda meddyg.  

 

Cytunodd y Pwyllgor i nodi cynnwys yr adroddiad. 

8.

Blaenraglen Waith Ddrafft 2021-2022 pdf eicon PDF 147 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i Flaenraglen Waith Ddrafft 2021-2022 fel y’i cyflwynwyd. CYTUNWYD i nodi cynnwys yr adroddiad ar yr amod yr ychwanegir yr isod:

·         Y diweddaraf am Hafan Deg

·         Polisi Grantiau a Benthyciadau

·         Y diweddaraf am y Canolfannau Llesiant

·         Y Tîm Troseddwyr Ifanc

 

9.

Cofnodion Cyfarfod 6.10.21 a 20.10.21 pdf eicon PDF 251 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor gadarnhau fod Cofnodion y Cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 6 Hydref 2021 a 20 Hydref 2021 yn gywir.

 

Materion yn codi - Dim.

 

10.

Unrhyw Fusnes Arall

Cofnodion:

Holodd aelod a oedd uned dementia yn cael ei datblygu yn Hafan Deg.  Dywedodd y swyddogion fod yr awdurdod wedi llwyddo i gael cyllid ar gyfer cynllun peilot ar gyfer adain dementia gyda gardd.  Ar hyn o bryd mae'r awdurdod yn mynd allan i dendr ar gyfer y prosiect.  Os bydd y cynllun peilot yn llwyddiannus bydd yr awdurdod yn edrych ar sut y gellir cyflwyno hyn ar draws y Sir. 

 

Hysbyswyd y Pwyllgor fod yr awdurdod wedi llwyddo hefyd i gael cyllid Pwysau'r Gaeaf a ddefnyddir ym mhob un o gartrefi gofal y cyngor yn y sir. 

 

Mae sgyrsiau yn mynd rhagddynt ynghylch y posibilrwydd o gael cartref gofal newydd yn y sir.  Rhoddir diweddariad mewn cyfarfodydd yn y dyfodol os bydd datblygiadau pellach.