Lleoliad: remotely - VC
Cyswllt: Nia Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y
Cynghorydd Endaf Edwards am ei anallu i fynychu'r cyfarfod. |
|
Datgan Buddiannau Personol a Buddiannau sy'n Rhagfarnu Cofnodion: Dim. |
|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Dim. |
|
I ystyried Cofnodion y cyfarfod blaenorol ar unrhyw faterion sy'n codi Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 31 Mai 2024 fel rhai cywir. Nid oedd unrhyw
faterion yn codi. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Nia
Jones, Rheolwr Corfforaethol Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad i'r
pwyllgor gan nodi bod 57 o fodiwlau e-ddysgu ar gael ar hyn o bryd i'r holl
staff ac Aelodau, sy'n ategu cyfres gynhwysfawr o tua 100 o ddigwyddiadau
hyfforddi wyneb yn wyneb sydd wedi'u trefnu ar gyfer Aelodau. Nodwyd y
modiwlau e-ddysgu sy'n orfodol i bob aelod o staff, ac ystyriodd yr Aelodau y
categorïau arfaethedig gorfodol, blaenoriaeth, dymunol a’r rhai nad yw'n
hanfodol i Aelodau. Yn ystod y
drafodaeth, nododd yr Aelodau fod y modiwl e-ddysgu ar gyfer 'Ymwybyddiaeth o'r
Cyfryngau Cymdeithasol' wedi'i gynnwys yn y rhestr orfodol yn dilyn
argymhelliad gan y Pwyllgor Moeseg a Safonau bod pob Aelod yn cwblhau'r
hyfforddiant hwn. Argymhellodd yr aelodau hefyd y dylid cynnwys modiwl
e-ddysgu 'Cyllid Llywodraeth Leol' yn y categori gorfodol yn hytrach na'r
rhestr flaenoriaeth. Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo: a) Bod y modiwlau
e-ddysgu canlynol yn orfodol, i'w cwblhau gan bob aelod - Iechyd a
Diogelwch - ATAL - Diogelu Data
Personol - Diogelu Plant
ac Oedolion – Grŵp A - Trais yn erbyn
menywod - Chwythu'r
chwiban - Rhianta Corfforaethol - Cydraddoldeb ac
Amrywiaeth – Aelodau Etholedig - Ymwybyddiaeth
o'r Cyfryngau Cymdeithasol - Cyllid
Llywodraeth Leol b) bod y modiwlau
e-ddysgu canlynol yn flaenoriaeth, ac y dylai pob aelod geisio eu cwblhau - Cyflwyniad i
Lywodraethu Corfforaethol - Moeseg a
Safonau - Safonau'r
Gymraeg - Arweinyddiaeth
Gymunedol a Gwaith Achos - Craffu
Effeithiol - Cadeirio
cyfarfodydd yn effeithiol - Llywodraethu,
Archwilio a Rheoli Risg - Deddf Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol – Aelodau Etholedig - Cyflwyniad i
Gynllunio - Cynllunio ar
gyfer Pwyllgorau Cynllunio - Deddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant - Cyflwyniad i
Drwyddedu - Siarad
Cyhoeddus a Gweithio gyda'r Cyfryngau - Diogelu Data - Ymwybyddiaeth
o'r Gymraeg c) Bod y modiwlau
e-ddysgu canlynol yn ddymunol: - Gofyn a
Gweithredu - Plant a Phobl Ifanc - Cysylltu â
Charedigrwydd - Offer Arddangos
Sgrîn - Diogelwch
gwybodaeth - Amddiffyn
unigolion sydd mewn perygl o droseddau bregusrwydd |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Lowri Edwards,
Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad i'r
Pwyllgor gan nodi bod cais wedi dod i law gan Aelodau i lunio protocol drafft
i'w ystyried gan Aelodau'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. Nodwyd bod
Swyddogion Gwasanaethau Democrataidd wedi ymgynghori â'r Tîm Iechyd a Diogelwch
i gael cyngor ynghylch allanfeydd tân a chapasiti, a
bod y protocol wedi'i ddatblygu gan ystyried y ddeddfwriaeth bresennol a'r
dulliau amgen o fynychu a gwylio cyfarfodydd pwyllgorau, preifatrwydd i
aelodau'r cyhoedd, capasiti, cyfleusterau cyfieithu,
diogelwch cynghorwyr ac ymddygiad. Nododd Lowri
Edwards fod y protocol eisoes wedi'i rannu gyda Heddlu Dyfed-Powys i roi
sylwadau a'u bod wedi cadarnhau eu bod yn fodlon â'i gynnwys a'i fod yn ymdrin
â'r holl feysydd perthnasol. Roedd ymarfer mewn mannau eraill hefyd wedi
cael eu hadolygu, gan gynnwys rhai'r Senedd a Senedd
y DU. Nodwyd hefyd bod
llawer o elfennau'r protocol eisoes wedi'u cynnwys yng Nghyfansoddiad y Cyngor,
gan gynnwys cael gwahardd aelodau'r cyhoedd. Nododd yr Aelodau
fod dyluniad pensaernïol hanesyddol y Siambr yn adlewyrchu anghenion y
Cynghorwyr yn hytrach na'r cyhoedd, ac nad oedd ganddo oriel gyhoeddus
effeithiol ac y byddai'n rhaid gweithio oddi mewn i’r cyfyngiadau hyn er mwyn
sicrhau diogelwch pawb sy'n mynychu. Ystyriwyd yr arfer mewn mannau
eraill megis archebu lle ymlaen llaw a nodwyd nad oedd gan y Pwyllgor
Gwasanaethau Democrataidd y capasiti i gefnogi
trefniant o'r fath. Nodwyd hefyd fod yr opsiwn i aelodau'r cyhoedd wylio
cyfarfodydd o bell wedi cyfrannu at hygyrchedd i aelodau'r cyhoedd. Nododd yr Aelodau
nad oes rhwystr rhwng yr ardal gyhoeddus a'r Aelodau ac argymhellwyd y dylai
pob aelod o'r cyhoedd a oedd yn mynychu cyfarfod fod yn eistedd. Fe wnaethant
hefyd nodi eu pryder o ran eu diogelwch personol, a diogelwch pawb sy'n mynychu
cyfarfod ar adegau lle'r oedd y capasiti a
argymhellir ar gyfer y Siambr wedi'i rhagori, a sut y gellid rheoli hyn.
Nododd yr Aelodau eu bod yn dymuno ystyried y mater ymhellach a gofynnwyd i'r
adroddiad gael ei ailgyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Gwasanaethau
Democrataidd. Yn dilyn
trafodaeth, PENDERFYNWYD
gohirio'r mater i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. |
|
I ystyried eitemau ar y flaenraglen Cofnodion: Cynigiwyd yr
eitemau canlynol i'w cynnwys yn y Rhaglen Gwaith i'r dyfodol: - Cynrychiolaeth
ar gyrff allanol - Adolygiad o'r protocol
presenoldeb o bell peilot ar gyfer y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a'r
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Defnyddio
Deallusrwydd Artiffisial - Paratoadau yn
dilyn etholiadau lleol 2027. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor Cofnodion: Dim. |