Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Gwener, 9fed Mehefin, 2023 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Nia Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Dim.

2.

Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Dim.

3.

I ystyried Cofnodion y cyfarfod blaenorol ac i ystyried unrhyw faterion sy'n codi pdf eicon PDF 79 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mawrth 2023 fel rhai cywir.

 

Materion sy’n codi

Gofynnodd yr aelodau am hyfforddiant ar lawrlwytho Office 365 i ddyfeisiau personol, gan gynnwys diogelwch a GDPR.

4.

I ystyried Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd 2022 - 2023 pdf eicon PDF 6 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd Lowri Edwards, Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad i’r Pwyllgor, gan nodi bod yr adroddiad yn cynrychioli faint o waith a wneir gan y Pwyllgor hwn, a phwysigrwydd y gwaith y maent yn ei wneud.

 

Diolchodd yr aelodau i'r swyddogion am baratoi'r adroddiad, gan nodi bod y fformat diwygiedig yn ei gwneud yn llawer haws darllen yr adroddiad.

 

Bydd yr adroddiad nawr yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor ar 13 Gorffennaf 2023 er gwybodaeth.

 

5.

I ystyried adroddiad ar Brotocol Ddrafft Mynychu Cyfarfodydd aml-leoliad Llywodraeth Lleol a Darllediadau Electronig o Gyfarfodydd pdf eicon PDF 62 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Nia Jones, Rheolwr Corfforaethol, Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad i’r Pwyllgor, gan nodi bod y protocol drafft wedi’i greu i adlewyrchu Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a Chanllawiau Statudol ac Anstatudol Drafft Llywodraeth Cymru.  Nodwyd bod hon yn ddogfen weithredol y gallai fod angen ei haddasu i adlewyrchu unrhyw newidiadau i Ganllawiau Llywodraeth Cymru a datblygiadau gweithredol.

 

Nododd yr aelodau nad yw'r protocol yn mynnu bod Cadeiryddion yn bresennol yn Siambr y Cyngor, a nodwyd bod y rheoliadau yn caniatáu i bob Aelod ddewis eu dull o fynychu.

 

Gofynnodd yr Aelodau hefyd ynghylch ymarferoldeb cadw eu camerâu ymlaen drwy’r amser pan fo ganddynt fynediad cyfyngedig i'r rhyngrwyd a gofynnon nhw a fyddai'r holl Gynghorwyr, gan gynnwys y rheini nad ydynt yn Aelodau o'r Pwyllgor, yn aros fel 'Panelwyr' drwy gydol y cyfarfod er mwyn osgoi’r oedi o gael eu trosglwyddo wrth godi eu dwylo. Nododd yr Aelodau hefyd bwysigrwydd hybu ymwybyddiaeth a chyfranogiad y cyhoedd, y gellid ei wella ymhellach yn y ddogfen.

 

Nodwyd mai nod y protocol yw adlewyrchu'r arfer yn bersonol, lle mae aelodau'r pwyllgor fel arfer yn eistedd o amgylch bwrdd y Cabinet, a'r rheini nad ydynt yn Aelodau yn eistedd yn y rhesi allanol.  Nodwyd hefyd y byddai hyfforddiant yn cael ei roi i'r holl Gynghorwyr, ar y protocol i gynnwys hyfforddiant ar ymddygiad cyfarfodydd y gofynnodd y Pwyllgor yn flaenorol amdano.

 

Nodwyd hefyd fod cefnogi cyfarfodydd hybrid, a’r ffrydio byw yn hynod o ddwys o ran adnoddau, a bod datblygiadau yn mynd rhagddynt i ddiwygio’r prosesau ffrydio byw presennol.

 

PENDERFYNWYD argymell i'r Cyngor gymeradwyo'r Protocol Drafft Mynychu Cyfarfodydd Aml-leoliad Llywodraeth Leol a Darllediadau Electronig o Gyfarfodydd.

6.

I ystyried adroddiad ar bapur trafod Cyfarfodydd Aml-leoliad pdf eicon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor yn nodi mai papur trafod yw hwn i ofyn am farn Aelodau’r Pwyllgor ynghylch cyfnod prawf o 18 mis lle cynhelir cyfarfodydd ar gyfer y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a Phwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd o bell yn unig.

 

Nododd yr Aelodau eu cefnogaeth i'r prawf, gan nodi bod y dull hybrid presennol o ymdrin â'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn hynod heriol i Aelodau sy'n mynychu o Siambr y Cyngor, oherwydd bod y Cadeirydd yn bresennol o bell.  Gwnaethant nodi hefyd y byddai cynnwys Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yn y prawf yn rhoi cipolwg rhagorol iddynt, a phrofiad uniongyrchol o'r dull o bell yn unig.

 

Nododd yr aelodau y dylai fod yn glir mai cyfnod prawf yw hwn, ac y bydd cyfarfodydd hybrid yn ailddechrau'n awtomatig ar ôl 18 mis, yn amodol ar y pwyllgor hwn yn argymell i'r Cyngor ei fod yn parhau a'r Cyngor yn cymeradwyo'r trefniadau.  Nododd y swyddogion y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r pwyllgor hwn i gynnwys adborth gan y ddau bwyllgor.

 

PENDERFYNWYD argymell y cyfnod prawf ar gyfer cyfarfodydd o bell yn unig ar gyfer Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd a’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i’r Cyngor, yn ei gyfarfod ar 13 Gorffennaf 2023.

7.

I ystyried adroddiad ar Strategaeth Hyfforddiant Aelodau pdf eicon PDF 84 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor yn nodi bod Canllawiau Statudol ac Anstatudol Drafft Llywodraeth Cymru yn datgan “gallai Cynghorau lunio strategaeth i ddatblygu aelodau”. Nodwyd nad yw hyn yn ofyniad statudol, fodd bynnag mae strategaeth ddrafft wedi'i pharatoi sy'n adlewyrchu'r arfer presennol sydd eisoes ar waith yng Ngheredigion.

 

Nodwyd bod y canllawiau drafft yn rhoi rhestr o bynciau ar gyfer rhaglen hyfforddi barhaus o ddatblygu aelodau y gellid eu cynnwys, ac yr argymhellir bod Cyngor Sir Ceredigion yn cynnwys y pynciau ychwanegol yn ei raglen hyfforddi:

 

·       Hyfforddiant ar rolau penodol y gall aelodau eu cyflawni megis llywodraethwyr neu gynrychiolwyr ar fyrddau iechyd, awdurdodau tân ac achub neu barciau cenedlaethol gan gynnwys briff byr ar ddiben y rôl a chyfrifoldebau’r aelod o ran rhoi gwybod i’r cyngor am ddatblygiadau ar y corff y mae’n cynrychioli’r cyngor arno, lefel y penderfyniadau a ddirprwyir iddynt a sut y gallant gael cymorth i'w cefnogi yn y rôl;

·       Hyfforddiant ar rôl cynghorydd fel aelod lleol, dirprwyo swyddogaethau i aelodau wardiau a galwadau gan gynghorwyr am weithredu.

 

Nododd yr aelodau y byddai angen i'r hyfforddiant ar gyfer cynrychiolwyr ar wahanol gyrff allanol ganolbwyntio ar rôl y Cynghorydd fel cynrychiolydd y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD

a)    Cymeradwyo ychwanegu'r 2 eitem ychwanegol at y rhaglen gynefino fel y nodwyd uchod; a

b)    Argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo'r Polisi Hyfforddiant Cynghorwyr.

 

8.

I ystyried adroddiad ar 'Galwad gan Gynghorydd i Weithredu' pdf eicon PDF 61 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Nia Jones, Rheolwr Corfforaethol, Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad i’r pwyllgor gan nodi’r cefndir hanesyddol i’r ddeddfwriaeth ‘Galwad am Weithredu’. Nodwyd nad yw hyn yn cael ei adlewyrchu ar hyn o bryd yng Nghyfansoddiad y Cyngor, ac mai nod y protocol hwn oedd amlygu’r ffordd hon o weithredu i Aelodau, gan nodi nad yw hyn yn disodli’r trefniadau presennol o ran craffu a bod profforma ar gyfer cyflwyno 'Galwadau am Weithredu' wedi'i baratoi i gynorthwyo'r Aelodau drwy'r broses.

 

Nododd yr Aelodau y dylid ystyried y cam hwn pan fetho popeth arall, a'i fod yn fecanwaith pwysig lle mae pob ymgais arall wedi methu.

 

PENDERFYNWYD argymell y protocol i'w ystyried gan y Cyngor yn dilyn ystyriaeth gan Weithgor y Cyfansoddiad.

 

9.

I ystyried adroddiad ar Gyhoeddiadau'r Cadeirydd pdf eicon PDF 71 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i'r pwyllgor yn nodi bod yr argymhelliad wedi'i gynnig i ddechrau gan Arweinwyr y Grwpiau. Nodwyd bod anghysondebau ar hyn o bryd o ran eitemau a gyflwynir yn ystod eitem agenda ‘Materion Personol’ y Cyngor a bod arolwg o holl Awdurdodau Cymru wedi canfod nad yw arfer presennol y Cyngor yn cael ei adlewyrchu yn unman arall ac mai’r arfer oedd cael ‘Cyhoeddiadau'r Cadeirydd’ yn hytrach na ‘Materion Personol’.

 

Nododd y Cynghorydd Elizabeth Evans, Cadeirydd y Pwyllgor fod mwy o amser wedi’i neilltuo yn ystod cyfarfodydd blaenorol y Cyngor i gyflwyno materion personol nag ar gyfer trafod materion pwysig megis cyllideb y Cyngor.  Nododd yr aelodau ei bod yn bwysig nad yw llais y Cynghorydd yn cael ei golli, ond byddai’r newid arfaethedig yn sicrhau mwy o degwch, ac argymhellwyd bod Cyhoeddiadau’r Cadeirydd yn nodi’r Cynghorydd a’r Ward perthnasol.

 

PENDERFYNWYD argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo Cyhoeddiadau’r Cadeirydd, gan nodi y dylid cynnwys y Cynghorydd a’r Ward perthnasol.

 

10.

I ystyried adroddiad ar Gomisiwn Gwarineb Jo Cox pdf eicon PDF 62 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law oddi wrth Gomisiwn Gwarineb Jo Cox, a PHENDERFYNWYD gofyn i Lowri Edwards ysgrifennu at y Comisiwn i gynnig ein cefnogaeth a'n parodrwydd i gymryd rhan yn y cyfnod casglu gwybodaeth.

11.

I ystyried eitemau ar y flaenraglen

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau eitemau ar gyfer y Flaenraglen Waith, a oedd yn cynnwys y canlynol:

a)    Protocol ar Les Cynghorwyr a Diogelwch Personol;

b)    Canllawiau i gynrychiolwyr Wardiau Aml-Aelod;

c)    Protocol ar gyfer cyfleusterau ymchwil;

d)    Diwygiad i Gylch Gorchwyl y Pwyllgor; ac

e)    Adolygiad o ddarlledu cyfarfodydd ychwanegol.

 

Nodwyd bod y materion uchod yn adlewyrchu canllawiau Statudol ac Anstatudol Llywodraeth Cymru, a chytunwyd i ddod â chyfarfod nesaf Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd ymlaen o 7 Rhagfyr i 20 Medi 2023 i ystyried y materion hyn.

 

12.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor

Cofnodion:

Dim.