Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda
Cyswllt: Nia Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorydd
Clive Davies am nad oedd modd iddo fod yn bresennol yn y cyfarfod. |
|
Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Hydref 2021 yn gywir. Materion yn codi Eitem 9 – Gofynnodd yr Aelodau a fydd rhagor o gyfarfodydd gyda’r Prif Weithredwr
cyn y cyfnod cyn-etholiad. Nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei
Strategaeth Bontio ar 4 Mawrth 2022 a fyddai'n golygu fod yr ymateb i COVID-19
yng Nghymru yn mynd o bandemig i endemig.
Cytunwyd felly nad oedd angen cyfarfod ym mis Mawrth, oni bai fod y Prif
Weithredwr yn teimlo bod angen cyfarfod cyn y cyfnod cyn-etholiad. Eitem 13 – Gofynnodd yr Aelodau a oes diweddariad ynghylch y Panel ar
Gydnabyddiaeth Ariannol. Nodwyd bod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth
Ariannol wedi cyhoeddi ei adroddiad terfynol yr wythnos diwethaf a bod hynny’n
rhy hwyr i gyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor hwn; serch hynny, cadarnhawyd nad
oes dim newidiadau o ran y gydnabyddiaeth ariannol arfaethedig, fel y disgrifir
yn adroddiad drafft y Panel. Nodwyd y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r
Cyngor yn gynnar yn ystod y weinyddiaeth nesaf. Eitem 14 – Gofynnodd yr Aelodau am y broses o gyflwyno ‘CLIC fersiwn 2’, gan nodi nad ydynt wastad yn derbyn cadarnhad fod cam gweithredu wedi ei gyflawni ac y dylid rhoi blaenoriaeth i ymatebion i Gynghorwyr. Cadarnhaodd swyddogion ein bod yn y broses o drosglwyddo i CLIC2, a bydd hyn yn rhoi mynediad i’r Aelodau at wybodaeth a diweddariadau drwy ‘Fy Nghyfrif/ My Account’. Mae'r system wrthi’n cael ei phrofi ar hyn o bryd a disgwylir iddi fod yn fyw o fis nesaf ymlaen. |
|
Ystyried adroddiad ar Ddarpariath TGCh Aelodau yn dilyn etholiadau 2022 PDF 300 KB Cofnodion: Bu i’r Swyddog Arweiniol
Corfforaethol: Cyswllt Cwsmeriaid gyflwyno adroddiad i’r pwyllgor er mwyn
disgrifio’r offer TGCh arfaethedig a fydd yn cael ei ddarparu i’r Aelodau. Nodwyd, yn sgil pandemig COVID-19, fod newid mawr
wedi bod tuag at ffordd fwy digidol o weithio'n gorfforaethol, mewn ysgolion ac
yn y Cyngor. Mae hyn yn barhad o’r duedd a gychwynnodd flynyddoedd yn ôl i
weithio mewn ffordd ddigidol yn hytrach nag â phapur. Mae offer hybrid wrthi’n
cael ei osod yn Siambr y Cyngor a bydd hyn yn hwyluso dull hyblyg, gan leihau
amser teithio a chostau Cynghorwyr a Staff. Ond bydd angen gliniadur ar yr
Aelodau i gael mynediad i'r dull hybrid am nad oes modd ei ddefnyddio gydag
Android neu Apple. Cynigiwyd bod yr Aelodau
yn cael cynnig yr un ddarpariaeth â staff y cyngor, sef gliniadur Windows, a
dwy sgrin 24”. Gosodir cyfrif Office 365
gan ddarparu Word, Excel a mynediad i e-byst. Hefyd bydd Aelodau’n gallu gosod
Office 365 ar hyd at 5 dyfais arall, i’w ddefnyddio o’u dyfeisiau symudol
personol. Bydd angen i’r Aelodau lofnodi
cytundeb defnydd er mwyn gwneud defnydd personol o’r offer, o fewn rheswm. Nodwyd bod y cynnig hwn yn cydymffurfio â'r
gofynion o ran diogelwch, gan sicrhau gwell cydnerthedd seiber a bod pob Aelod
yn cydymffurfio â GDPR. Darperir cyfleusterau
argraffu ym Mhenmorfa a Chanolfan Rheidol, yn sgil y gost o ddarparu a rhedeg
peiriannau argraffu personol. Bydd modd i Aelodau anfon dogfennau i’r ystafell
bost i’w hargraffu a’u postio. Rhoddir
hyfforddiant priodol ar y dyfeisiau a ddarperir a bydd cymorth gan y ddesg
gwasanaeth TGCh. Nododd yr Aelodau fod i-pads
yn ddefnyddiol wrth weithio yn y gymuned, i ddangos dogfennau i drigolion na
fyddai fel arall yn gallu mynd ar y we. Hefyd, i fynychu cyfarfodydd o wahanol
leoliadau y tu hwnt i’r cartref.
Gofynnodd yr Aelodau hefyd a oedd y Cyngor yn cynnig platfform diogel o
ran i-pads i Swyddogion, nad yw wedi'i gynnig i'r Aelodau. Nododd y Swyddogion fod dulliau amgen yn cael
eu hystyried a bod eu seiberddiogelwch yn cael ei brofi, ond roedd angen
sicrhau hefyd fod Aelodau'n gallu cael mynediad i'r system hybrid. Nododd yr Aelodau fod
lawrlwytho ac argraffu papurau'r Cyngor yn gallu bod yn ddefnyddiol, yn enwedig
wrth gadeirio cyfarfod. Cadarnhaodd y swyddogion y byddai dwy sgrin fawr yn
cael eu darparu i hwyluso’r gwaith o ddarllen dogfennau ar y naill sgrin a
dilyn y cyfarfod ar y llall. Hefyd
nododd yr Aelodau nad yw’n ymarferol teithio er mwyn argraffu. Atgoffodd y Swyddogion yr Aelodau o ymrwymiad
y Cyngor - flynyddoedd lawer yn ôl - i leihau papur, gan nodi y gwaredwyd yn
llwyr â pheiriannau argraffu personol y Swyddogion. Gofynnodd yr Aelodau a ellir defnyddio cyfrifiaduron llechen eraill e.e. Microsoft Tablet. Cadarnhawyd bod llechenni arbenigol yn gallu bod yn gostus iawn ac y byddai angen i Aelodau ddod o hyd i gyllid i dalu’r gost ychwanegol. Nododd yr Aelodau fod y papur wedi'i ysgrifennu o safbwynt swyddogion ac nad oedd yn cydnabod anghenion y Cynghorwyr, ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Corfforaethol ar gyfer Gwasanaethau Democrataidd
adroddiad i’r Pwyllgor i roi gwybod am yr elfennau o Ddeddf Llywodraeth Leol ac
Etholiadau (Cymru) 2021 sydd fwyaf perthnasol i’r Pwyllgor. Nodwyd bod
protocolau amrywiol wedi'u drafftio gan gynnwys Cynllun Cyfranogiad y Cyhoedd,
Cynllun Deisebau a phrotocol darlledu cyfarfodydd yn electronig. Ond rydym yn
dal i aros i Lywodraeth Cymru gyhoeddi'r canllawiau statudol ac anstatudol.
Rhagwelir y bydd yr ymgynghoriad ar y canllawiau drafft yn cael ei gynnal yn
ystod y cyfnod cyn-etholiad, ac yn cael ei weithredu erbyn mis Medi 2022. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD nodi'r diweddariad i'r adroddiad
ynghylch yr elfennau o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) sy'n
berthnasol i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. |
|
Ystyried adroddiad ar weledigaeth ar gyfer cynnal cyfarfodydd o bell o fis Mai 2022 PDF 374 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr
Corfforaethol ar gyfer Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i’r Pwyllgor i roi
trosolwg o’r modd y cynhelir cyfarfodydd hybrid. Gofynnodd yr Aelodau a
ddylai pob Cynghorydd fynychu cyfarfodydd y Cyngor yn bersonol. Dywedwyd
wrthynt mai diben y ddeddfwriaeth yw gwneud pethau’n hygyrch i’r Aelodau, gan
gynnwys rhai nad ydynt yn gallu bod yn bresennol yn bersonol am wahanol
resymau. Gofynnodd yr Aelodau hefyd a
fyddai terfyn ar nifer y bobl a fyddai'n gallu bod yn bresennol yn bersonol a
dywedwyd wrth yr Aelodau y byddai hyn yn dibynnu ar y ddeddfwriaeth ar y pryd. Ar ôl
trafod, PENDERFYNWYD nodi’r weledigaeth ar gyfer cynnal cyfarfodydd
hybrid o fis Mai 2022 ymlaen. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr
Corfforaethol ar gyfer Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i’r Pwyllgor gan nodi y disgwylir rhagor o ganllawiau oddi
wrth Weinidog Cymru. Bydd y rhain yn rhan o’r pecyn o ganllawiau statudol ac
anstatudol sydd wrthi’n cael eu datblygu gan Lywodraeth Cymru i egluro’r
gofynion ynghylch sefydlu a hyfforddi Cynghorwyr. Dywedwyd wrth yr Aelodau fod
yr amserlen hyfforddiant a gyflwynwyd i'r Pwyllgor ym mis Hydref 2021 wedi
newid i adlewyrchu'r newidiadau a ragwelir yn sgil Deddf Llywodraeth Leol ac
Etholiadau (Cymru), a’r anghenion hyfforddiant a nodwyd gan Aelodau mewn
cyfarfodydd diweddar. Fe’u hatgoffwyd fod hyfforddiant yn orfodol cyn eistedd
ar bwyllgorau megis Rheoli Datblygu a Thrwyddedu. Cynghorwyd Arweinwyr Grŵp i atgoffa’u
Haelodau o bwysigrwydd mynychu'r sesiynau hyfforddiant. Gofynnodd yr Aelodau a
ddylid edrych eto ar amserau cyfarfodydd a hyfforddiant. Fe'u hatgoffwyd o'r
arolwg rheolaidd a gynhelir, a fydd yn cael ei ddosbarthu ymhlith yr Aelodau yn
gynnar yn ystod y weinyddiaeth nesaf. Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD nodi’r Adroddiad. |
|
Ystyried adroddiad Hunan-Werthuso Craffu PDF 755 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog
Craffu adroddiad i’r Pwyllgor gan nodi bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
wedi cytuno ym mis Ionawr 2020 i gynnal yr arolwg yn flynyddol a lleihau nifer
y cwestiynau gyda'r nod o gynyddu cyfranogiad. Fodd bynnag, roedd nifer yr
ymatebion wedi mynd lawr i 15 o gymharu â 25 yn y flwyddyn flaenorol. PENDERFYNWYD nodi’r Adroddiad. |