Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu - Dydd Iau, 12fed Medi, 2024 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Lisa Evans  Dwynwen Jones

Eitemau
Rhif Eitem

13.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ymddiheurodd y Cynghorwyr Amanda Edwards a Marc Davies am nad oeddent yn gallu dod i’r cyfarfod. Ymddiheurodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor, a’r Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet, nad oeddent yn gallu dod i’r cyfarfod am eu bod yn cyflawni dyletswyddau eraill ar ran y Cyngor.

Ymddiheurodd Elizabeth Upcott, Rheolwr Corfforaethol am nad oedd yn gallu dod i’r cyfarfod.

 

14.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

Cofnodion:

Dim.

 

15.

Adroddiad Monitro'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2023-24 pdf eicon PDF 114 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Cathryn Morgan, Rheolwr Cydraddoldeb a Chynhwysiant, a’r Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet i’r cyfarfod i gyflwyno’r Adroddiad Monitro Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2023-24. Amlinellodd y Cynghorydd Catrin M S Davies y prif bwyntiau.

 

          Dyma’r prif bwyntiau a godwyd fel rhan o’r drafodaeth:

·       Yn dilyn ymholiad gan un o’r Aelodau ynghylch pwy y dylid cysylltu â nhw i drafod cyrbau isel ar gefnffyrdd, dywedodd yr Aelod Cabinet y byddai’n codi’r mater pan fyddai’n cyfarfod gyda’r Swyddogion o’r asiantaeth cefnffyrdd ac y byddai’n rhannu’r ymateb gyda’r Aelod.

·       Gofynnodd y Cynghorydd Rhodri Evans a oedd yr hyfforddiant a ddarperir i’r Aelodau yn briodol. Cynigodd y Cynghorydd Evans y dylid darparu hyfforddiant pellach ar Gydraddoldeb a Rhagfarn Ddiarwybod i’r Cynghorwyr ac i’r Staff. Cafodd y cynnig hwn ei eilio gan y Cynghorydd Keith Evans.

 

Yn dilyn y drafodaeth, gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor ystyried yr argymhelliad canlynol:

 

 

Argymhelliad:

Derbyn a chymeradwyo Adroddiad Monitro Cynllun Cydraddoldeb Strategol y

Cyngor 2023-24 a gwneud argymhellion fel y bo'n briodol pan gyflwynir yr adroddiad gerbron y Cabinet ar 01/10/2024.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

Mae’n ofynnol o dan Ddyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus ein bod yn cynhyrchu Adroddiad Monitro Blynyddol ar y Cynllun Cydraddoldeb Strategol (SEP) ar gyfer 2023/24 ac yn ei gyhoeddi ar ein gwefan allanol erbyn 31/03/25.

Cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i argymell y canlynol i’r Cabinet:

1.    Derbyn a chymeradwyo Adroddiad Monitro Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2023-24 y Cyngor, ac argymell:

2.    Bod rhagor o hyfforddiant Cydraddoldeb a Rhagfarn Ddiarwybod pellach yn cael ei ddarparu i’r Cynghorwyr ac i’r Staff.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelod Cabinet, y Cynghorydd M S Davies, a’r Swyddog, Cathryn Morgan, am fod yn bresennol ac am gyflwyno’r wybodaeth.

 

 

16.

Cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Ceredigion a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2024 pdf eicon PDF 67 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawyd Hazel Lloyd-Lubran, Prif Weithredwr Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion a Chadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC), Alun Williams, Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Diana Davies, Rheolwr Corfforaethol, a Timothy Bray, Rheolwr Partneriaethau ac Argyfyngau Sifil Partnerships, i’r cyfarfod. Yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, cyflwynodd Hazel Lloyd-Lubran yr adroddiad i’r Pwyllgor.

 

Dyma’r prif bwyntiau a godwyd fel rhan o’r drafodaeth:

·       Awgrymwyd y dylid rhannu fideo yr Adroddiad Blynyddol y cyfeiriwyd ato yn y cofnodion ag Aelodau’r Pwyllgor a’i ddangos yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Cydlynu os bydd amser yn caniatáu,

·       Gofynnwyd am ddiweddariad ynghylch y pryder a godwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor Cydlynu ym mis Gorffennaf a oedd fel a ganlyn:

Mynegodd Aelodau’r Pwyllgor siom wrth ddarganfod nad oedd ARFOR bellach yn derbyn ceisiadau cyllid. Cytunwyd y byddai Timothy Bray yn codi hyn yng nghyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar 18 Gorffennaf 2024.

Cadarnhaodd Ms Lloyd-Lubran bod y trafodaethau ynglŷn â hyn yn parhau,

·       Gofynnodd Aelod a fyddai’n bosibl derbyn gwybodaeth ynglŷn â threfniadau gwaith sefydliadau’r sector gyhoeddus sy’n rhan o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, e.e. a yw’n ofynnol iddynt fynychu’r swyddfa neu a oes ganddynt y gallu i weithio o gartref ac ati. Cadarnhaodd Ms Lloyd-Lubran y gellid codi hyn yn un o gyfarfodydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn y dyfodol. Cytunodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol y byddai modd codi hyn, ond efallai ni fyddai o fewn cylch gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus,

·       Gofynnodd un o’r Aelodau am wybodaeth ynglŷn â’r arian a wariwyd ar weithgareddau ymgysylltu. Dywedodd ei fod yn deall bod ymgysylltu â’r cyhoedd yn arfer da ond gofynnodd a oedd hyn yn cynnig gwerth am arian, ac ati. Cytunwyd y byddai hyn yn cael ei godi yn un o gyfarfodydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn y dyfodol,

·       Dywedodd Ms Lloyd-Lubran wrth y Pwyllgor bod y Grŵp Newid Hinsawdd yn trafod cyfleoedd i gydweithio. Roedd trafodaethau hefyd yn cael eu cynnal ar sut i fuddsoddi yn y gymuned leol e.e. prosiectau fel mannau gwyrdd.

 

 

Yn dilyn trafodaeth, gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor ystyried yr argymhelliad canlynol:

Argymhelliad:

Derbyn cofnodion drafft cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2024.

Rhesymau dros yr Argymhelliad:

Er mwyn i'r Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu gyflawni ei rôl o gadw golwg ar effeithiolrwydd cyffredinol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Cytunodd Aelodau’r pwyllgor i dderbyn cofnodion drafft cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2024.

 

17.

Adroddiad Diogelu Grwp Gweithredol Lleol ar y Cyd CYSUR/CWMPAS Chwarter 4 2023/24 pdf eicon PDF 82 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawyd Audrey Somerton Edwards, y Swyddog Arweiniol Corfforaethol a Chyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol i’r cyfarfod i gyflwyno adroddiad chwarter 4 CYSUR/CWMPAS.

 

Mae crynodeb o’r pwyntiau allweddol fel a ganlyn:

Yn Chwarter 4, roedd 1111 o gysylltiadau/atgyfeiriadau ynghylch plant/pobl ifanc, o'i gymharu â 926 yn Chwarter 3.

O'r cysylltiadau/atgyfeiriadau a dderbyniwyd, 196 a arweiniodd at yr angen i weithredu o dan y Gweithdrefnau Amddiffyn Plant ac mae hyn o'i gymharu â 179 yn Chwarter 3.

O'r holl adroddiadau/atgyfeiriadau a dderbyniwyd, Aeth 17.6% ymlaen i Drafodaeth Strategaeth, o'i gymharu â 19.3% yn Chwarter 3. Aeth 7.2% ymlaen i broses Adran 47 yn Chwarter 4 o'i gymharu â 9.6% yn Chwarter 3. Aeth 0.8% ymlaen wedyn i

Gynhadledd Gychwynnol Amddiffyn Plant yn Ch4, roedd hyn yr un ganran ag yn Chwarter 3.

Cynhaliwyd cyfanswm o 9 Cynhadledd Gychwynnol Amddiffyn Plant yn y chwarter yn ymwneud â 17 o blant/pobl ifanc a rhoddwyd 17 o blant/pobl ifanc ar y Gofrestr Amddiffyn Plant. Tudalen 61 Eitem Agenda 52

Cynhaliwyd 16 o gynadleddau adolygu yn y chwarter hwn ynglŷn â 26 o blant. O'r rhain, tynnwyd 17 o blant/pobl ifanc oddi ar y gofrestr, arhosodd 9 ar y gofrestr.

Parhaodd yr Heddlu i fod y ffynhonnell gyfeirio fwyaf yn y chwarter hwn, gyda gostyngiad yn nifer yr atgyfeiriadau a wnaed gan y Gwasanaethau Cymdeithasol Mewnol ac Addysg. Cynhaliwyd 80 o Ymholiadau Adran 47 yn y chwarter hwn (gwnaed 69 ar y cyd â'r Heddlu).

Mae cam-drin corfforol a cham-drin/cam-fanteisio rhywiol yn parhau i fod y categori uchaf o gam-drin sydd wedi arwain at yr angen am Ymchwiliad Adran 47, gyda chamdrin emosiynol yn dilyn yn agos.

Bu gwelliant sylweddol yn y ganran o Gynadleddau Cychwynnol Amddiffyn Plant sydd wedi digwydd o fewn yr amserlen o 15 diwrnod o'r dyddiad y penderfynwyd bod cynhadledd yn ofynnol, gyda 82.4% yn cael eu cynnal o fewn yr amserlen yn y chwarter hwn o gymharu â 58.8% yn Chwarter 3. Cynhaliwyd 100% o'r Cynadleddau Adolygu o fewn yr amserlen statudol.

Y prif ffactorau risg a arweiniodd at blant/pobl ifanc yn cael eu rhoi ar y gofrestr amddiffyn plant oedd cam-drin domestig, rhieni yn gwahanu, anawsterau iechyd meddwl y rhieni a rhieni yn camddefnyddio sylweddau/alcohol, yn ogystal â diffyg cydweithrediad y rhieni â'r cynllun amddiffyn plant.

Ar ddiwedd Chwarter 4, roedd 32 o blant wedi'u cofrestru ar y Gofrestr Amddiffyn Plant o'i gymharu â 32 ar ddiwedd Chwarter 3. Mae nifer y plant sydd wedi'u cofrestru wedi bod yn gostwng ers diwedd Chwarter 1.

Y categori cofrestru yw 16 am esgeulustod, 11 am gam-drin emosiynol/seicolegol, 5 am esgeulustod a cham-drin emosiynol/seicolegol.

DIOGELU OEDOLION.

Mae nifer yr oedolion yr amheuir eu bod mewn perygl o gael eu cam-drin a/neu eu

hesgeuluso wedi cynyddu - 216 yn Chwarter 4 o'i gymharu â 200 yn Chwarter 3.

Mae staff yr Awdurdod Lleol yn parhau i fod y ffynhonnell gyfeirio uchaf yn y

Chwarter hwn, fel yn y Chwarter blaenorol, ac yn dilyn hynny mae asiantaethau

Darparu ac yna’r Heddlu.

Cam-drin Emosiynol/Seicolegol (109  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 17.

18.

Adroddiad ar ddefnydd y Cyngor o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (RIPA) pdf eicon PDF 111 KB

Cofnodion:

Roedd Elin Prysor, Swyddog Arweiniol Corfforaethol a Swyddog Monitro, a’r Cynghorydd Matthew Vaux yn y cyfarfod i gyflwyno adroddiad ar ddefnydd y Cyngor o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (RIPA).

 

 

          Adroddwyd y sefyllfa bresennol fel a ganlyn:

 1)Gweithgaredd y Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (RIPA)

Does dim gweithgaredd Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (RIPA) wedi bod gan unrhyw wasanaeth o’r Cyngor yn ystod y cyfnod rhwng 21 Tachwedd 2023 a 1 Medi 2024. Mae Swyddogion Awdurdodi wedi cadarnhau nad ydynt wedi ystyried unrhyw geisiadau Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (RIPA) yn ystod y cyfnod hwn. 

2) Deddf Pwerau Ymchwilio (Diwygio) 2024 Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y codau drafft diwygiedig a gyflwynwyd ar 8 Tachwedd

2023 a'u cwblhawyd ar 30 Ionawr 2024. Mae'r newidiadau yn cynnwys y drefn ar gyfer asesu a ddylai fod gan y cyhoedd fod ddim disgwyliadau neu ddisgwyliadau rhesymol isel o breifatrwydd ar gyfer categorïau gwybodaeth penodol. Cyflwynwyd y Bil i Dŷ'r Cyffredin ar 31 Ionawr 2024. Mae’r Ddeddf Pwerau Ymchwilio (Diwygiedig) 2024 (legislation.gov.uk) yn diwygio Deddf Pwerau Ymchwilio 2016 ac yn ceisio adnewyddu'r broses ar gyfer rhyng-gipio cyfathrebu, trefn hysbysiadau diwygiedig a chryfhau pwerau gwyliadwriaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Dywedodd y Swyddfa Gartref: Tudalen 117 Eitem Agenda 6

“The Act will deliver the urgent, targeted changes needed to protect the British people from evolving threats. The reforms will support the intelligence agencies to keep pace with a range of threats, against a backdrop of accelerating technological change that provides new opportunities for

terrorists, hostile state actors, child abusers, and criminal gangs. Updating the 2016 act to reflect the current threat and changing technology landscape will ensure that our intelligence agencies can develop the necessary tools and capabilities to rapidly draw insights from vast quantities of data,

allowing them to better understand and respond to threats to the UK” Investigatory Powers

(Amendment) Act 2024 - GOV.UK (www.gov.uk)

3) Hyfforddiant: Ar 18 Ebrill 2024, cynhaliwyd gweithdy hyfforddi diwrnod llawn gan ddarparwr allanol i Swyddogion perthnasol ar RIPA. Mae'r hyfforddiant hwn yn sicrhau bod gan Swyddogion perthnasol y wybodaeth i gydymffurfio â gofynion RIPA

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y canlynol:

·       Nododd Elin Prysor, fod cadarnhad wedi’i dderbyn na fu unrhyw weithgaredd RIPA hyd at 1 Medi 2024  (6 Awst 2024 oedd dyddiad yr adroddiad),

 

 

          ARGYMHELLIAD: Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad.

RHESYMAU DROS YR ARGYMHELLIAD: Sicrhau bod y pwyllgor yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddefnydd y Cyngor o RIPA a

gweithredu polisïau.

 

          Cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i nodi cynnwys yr adroddiad.

 

 

 

19.

Siarter ar gyfer Teuluoedd sydd wedi Dioddef Profedigaeth drwy Drasiedi Cyhoeddus. pdf eicon PDF 93 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Alun Williams, Swyddog Arweiniol Corfforaethol a’r Cynghorydd Matthew Vaux yn y cyfarfod i gyflwyno’r adroddiad.

 

Yn dilyn casgliad ail gwest Hillsborough ym mis Ebrill 2016, cafodd cyn-Esgob

Lerpwl, yr Esgob James Jones ei gomisiynu gan Lywodraeth y DU i gynnal

adolygiad ar brofiadau teuluoedd Hillsborough dros y blynyddoedd ers y trychineb.

 

Dangosodd yr adroddiad fod profiadau llawer o deuluoedd Hillsborough yn cael eu hadlewyrchu ym mhrofiadau teuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth mewn trychinebau cyhoeddus dilynol. Nodwyd pwyntiau dysgu ar gyfer y Llywodraeth, yr heddlu ac asiantaethau eraill sydd yn ymwneud ag ymateb i drychinebau cyhoeddus.

 

Ysgrifennwyd y Siarter i sicrhau nad yw'r dioddefaint a ddioddefwyd gan

deuluoedd mewn profedigaeth yn dilyn trychineb Hillsborough 1989 yn cael ei

ailadrodd pe bai digwyddiadau trychinebus tebyg yn digwydd yn y dyfodol.

 

Yn dilyn trafodaeth, gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor ystyried yr argymhelliad canlynol:

 

Argymhelliad / Argymhellion: Er mwyn i'r Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu nodi cynnwys y Siarter ar gyfer Teuluoedd sydd wedi Dioddef Profedigaeth drwy Drasiedi Cyhoeddus ac argymell i'r Cabinet bod Cyngor Sir Ceredigion yn mabwysiadu'r Siarter.

Rheswm / Rhesymau dros y penderfyniad: Bydd mabwysiadu'r Siarter hon ac anrhydeddu ei hegwyddorion yn darparu cydweithio a chydraddoldeb gyda fframwaith cenedlaethol i gefnogi teuluoedd mewn profedigaeth a'r gymuned yn sgil digwyddiad mawr.

Cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i argymell bod y Cabinet yn mabwysiadu’r Siarter.

 

 

20.

Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu 2023/2024 pdf eicon PDF 63 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyflwynodd Lisa Evans, y Swyddog Safonau a Chraffu, yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2023/2024.

 

          Mae’r Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu yn amlinellu’r prif faterion a ystyriwyd gan y pum Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn ystod 2023/2024.Mae dyletswydd statudol ar Awdurdodau Lleol i gyhoeddi adroddiad blynyddol ynglŷn â gwaith y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu. Cyhoeddir yr Adroddiad Blynyddol ar y dudalen we ynghylch Trosolwg a Chraffu ar wefan y Cyngor.

 

Argymhelliad / Argymhellion: Gofynnir i’r Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu nodi’r wybodaeth sydd yn yr adroddiad cyn i’r adroddiad cael ei cyflwyno i’r Cyngor ar 19 Medi 2024

 

Rheswm / Rhesymau dros y penderfyniad: Er mwyn bodloni’r gofyniad statudol i gyhoeddi adroddiad blynyddol am y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu.

 

Cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i nodi’r adroddiad blynyddol cyn i’r adroddiad cael ei gyflwyno i’r Cyngor ar 19 Medi 2024. Diolchodd yr Aelodau i’r Swyddogion am eu gwaith caled a nodwyd ansawdd yr adroddiad a’r wybodaeth a oedd wedi’i gynnwys ynddo.

 

21.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny pdf eicon PDF 104 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i gadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd a

21 Mawrth 2024 yn gywir. Nid oedd dim materion yn codi o’r cofnodion hynny.

 

22.

Diweddariad gan Gadeiryddion y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ac ystyried y Blaenraglenni Gwaith drafft pdf eicon PDF 76 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn eu tro rhoddodd pob Cadeirydd ddiweddariad ar Flaenraglen Waith eu Pwyllgorau.

 

Yn ystod y drafodaeth, cytunwyd y dylid ystyried y Gyllideb bresennol ym mhob cyfarfod o’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn y dyfodol.