Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu - Dydd Mercher, 15fed Mehefin, 2022 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Marc Davies ynghyd â Mrs Elizabeth Upcott a Mr Timothy Bray wedi ymddiheuro am nad oedd modd iddynt fod yn y cyfarfod.

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Dim.

3.

CONTEST - Strategaeth Gwrthderfysgaeth Llywodraeth y DU pdf eicon PDF 194 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies, yr adroddiad

ynghylch CONTEST - Strategaeth Gwrthderfysgaeth Llywodraeth y DU. Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Aelodau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau sydd ar waith i gyflawni strategaeth CONTEST yng Ngheredigion a ledled y rhanbarth ac yn genedlaethol. Hefyd, i fod yn ymwybodol o gyfraniad staff y Cyngor yn y gwaith pwysig hwn.

 

CYTUNWYD i nodi’r diweddariad a roddwyd.

4.

Datganiad Polisi Rheoli Perfformiad a Chyflwyniad i drefniadau Hunanasesu Perfformiad yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 pdf eicon PDF 262 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies, yr adroddiad a thynnodd sylw at y canlynol:

 

  • Rhan 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021
  • Prif bwyntiau’r broses Hunanasesu
  • Proses amlinellol Hunanasesu
  • Trywydd Ymholi Allweddol
  • Ymarfer Myfyriol
  • Llinell Amser
  • Cylch Etholiadol 2022-27
  • Integreiddio gyda’r Fframwaith Perfformiad
  • Datganiad Polisi Rheoli Perfformiad
  • Beth mae'n ei olygu i’r Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu?

 

Mynegwyd y canlynol:

 

  • Gofynnwyd am eglurhad o ran pwy fyddai’n archwilio’r archwilydd a beth fyddai’r broses apelio yn dilyn yr asesiadau hyn. Mewn ymateb, dywedwyd mai proses hunanasesu oedd hon. Bydd llawer iawn o dystiolaeth berthnasol ac ategol yn cael ei chasglu i gydymffurfio â gofynion yr asesiad, yn unol â’r Cynllun Gweithredu. Ar ôl ei gwblhau, cyflwynir yr asesiad drafft i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio er mwyn iddo bwyso a mesur yr adroddiad ac ystyried argymhellion, cyn i'r Cabinet ei gymeradwyo.
  • Y gallai hunanasesiad blynyddol y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu hefyd fwydo i mewn i'r hunanasesiad hwn. Anogwyd yr Aelodau i ymateb i’r asesiad hwn mewn ffordd agored a thryloyw er mwyn datrys unrhyw anawsterau.
  • Bod Cadeiryddion yr holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn mynychu cyfarfodydd Chwarterol y Bwrdd Perfformiad a oedd ar fin ailddechrau, er mwyn iddynt ystyried unrhyw faterion/risgiau perthnasol ar gyfer eu Blaenraglenni Gwaith. Adroddwyd bod y cyfarfodydd hyn yn rhoi trosolwg o'r Cyngor yn ei gyfanrwydd.

 

CYTUNWYD i gymeradwyo Datganiad drafft y Polisi Rheoli Perfformiad a’r trefniadau Hunanasesu Perfformiad (yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021).

 

5.

Cyfarfodydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2021 a 7 Mawrth 2022 a'r Asesiad Llesiant Lleol pdf eicon PDF 196 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies, yr adroddiad ar gyfarfodydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2021 a 7 Mawrth 2022, a’r Asesiad o Lesiant Lleol.

CYTUNWYD:

(i) i dderbyn cofnodion drafft cyfarfodydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2021 a 7 Mawrth 2022;

(ii) i dderbyn yr Asesiad o Lesiant Lleol Ceredigion;

(iii) bod yr Aelodau yn annog y Cynghorau Tref a Chymuned i lenwi arolwg ymgysylltu Cynllun Llesiant Lleol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (roedd y Cynghorau Tref a Chymuned wedi derbyn yr holiadur drwy e-bost).

6.

Adroddiad Diogelu Gr?p Gweithredol Lleol ar y Cyd CYSUR/CWMPAS Chwarter 2 a 3 2021-22 pdf eicon PDF 226 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Alun Williams, Dirprwy Arweinydd y Cyngor gyda chyfrifoldeb dros Gydol Oes a Llesiant, wedi cyflwyno’r papur ar Adroddiad Diogelu Grŵp Gweithredol Lleol ar y Cyd CYSUR/CWMPAS, Chwarteri 2 a 3 2021-22.

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i nodi cynnwys yr adroddiad a’r gweithgarwch sy’n digwydd yn yr Awdurdod Lleol.

7.

Adroddiad ar gofnod penderfyniadau'r Grwp Rheoli Aur Covid-19 pdf eicon PDF 280 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i gofnod penderfyniadau Grwp Rheoli Aur Covid-19.

CYTUNWYD i nodi cynnwys cofnod penderfyniadau Grŵp Rheoli Aur Covid-19 ar gyfer ei gyfarfodydd yn y cyfnod rhwng 1 Ionawr 2022 a 31 Mawrth 2022, fel y’i cyflwynwyd.

 

8.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion pdf eicon PDF 588 KB

Cofnodion:

 

CYTUNWYD i gadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

 

9.

Rhaglen Flaen Ddrafft pdf eicon PDF 344 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi’r Flaenraglen Waith Ddrafft fel y’i cyflwynwyd.

 

 

10.

Unrhyw fater arall y penderfyna'r Cadeirydd ei fod er sylw brys y Pwyllgor

Cofnodion:

Dim.