Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Rheoli Datblygu - Dydd Mercher, 12fed Hydref, 2022 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Mrs Dana Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorydd Ifan Davies na fyddai modd iddo fod yn bresennol ar ddechrau'r cyfarfod, ac ymunodd â'r cyfarfod am 10:45am.

2.

Materion Personol

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i bawb i'r cyfarfod a manteisiodd ar y cyfle i ddymuno'n dda i Mr Alan Davies, Rheolwr Corfforaethol Gwasanaethau Cynllunio, yn dilyn ei gyfnod yn yr ysbyty yn ddiweddar.  Yn ogystal, estynnodd yr aelodau groeso i          Gynghorydd Mark Strong, a oedd yn bresennol dros zoom, gan ddymuno'n dda iddo.

 

Manteisiodd y Cynghorydd Rhodri Evans ar y cyfle i ddiolch i Swyddogion a fu'n   ymwneud â datblygiad anghyfreithlon yn Nhrychrug, Talsarn yn ddiweddar, am ddelio     gyda'r ymchwiliad hwn a'i ddatrys yn gyflym ac mewn ffordd broffesiynol.  Ategwyd y     sylwadau uchod gan Gynghorydd Marc Davies, ac roedd yn dymuno nodi yn y     cofnodion bod Cyngor Sir Ceredigion yn defnyddio gweithdrefnau gorfodi yn ôl yr       angen, gan gymryd y camau mwyaf priodol.  Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion a          fu'n ymwneud â hyn hefyd.

 

3.

Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd unrhyw Fuddiannau Personol a/neu Fuddiannau sy'n Rhagfarnu.

4.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Medi 2022 pdf eicon PDF 86 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Medi 2022 yn gywir.

 

         Materion yn codi

         Dim materion yn codi

 

5.

Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Ystyriwyd Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio am y ceisiadau cynllunio canlynol, a ystyriwyd yn ystod cyfarfod blaenorol ac yr oedd gofyn i'r          Pwyllgor eu hystyried ymhellach:

 

  Wrth ystyried y cais isod, cyflwynwyd gwybodaeth esempt yn unol â'r diffiniad ym Mharagraff 12 ac 13 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007.  Cytunwyd y byddai'r cyhoedd a'r wasg yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod wrth i'r mater gael ei ystyried, yn unol ag Adran 100B(2) y Ddeddf.  Ar ôl ystyried y wybodaeth esempt hon, dychwelodd y pwyllgor i drefniant cyfarfod cyhoeddus.  Gwaharddwyd y Cyhoedd a'r Wasg am 10:30am ac fe'u gwahoddwyd yn ôl i mewn am 10:45am.

 

  A210091 Cais cynllunio ôl-weithredol am sied peiriannau amaethyddol a storio a gwelliannau i'r mynediad presennol i gerbydau, Tir gyferbyn â Than Yr Allt, Coxhead, Tregaron.

 

  GWRTHOD y cais am y rhesymau canlynol:

 

1.     Nid yw'r cais yn dangos yr angen am y datblygiad arfaethedig yn y lleoliad hwn.  Felly, ni cheir cyfiawnhad digonol dros ganiatáu datblygiad mewn cefn gwlad agored, yn unol â pholisi cynllunio cenedlaethol.  Felly, mae'r cynnig yn mynd yn groes i Nodyn Cyngor Technegol 6:  Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy (2010).

2.     Oherwydd ei leoliad ar drac yr hen reilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin, nid yw'r cynnig yn llwyddo i ddiogelu seilwaith trafnidiaeth blaenorol, y mae ganddo y potensial i ddarparu teithio cynaliadwy yn groes i bolisi DM04:  Seilwaith Teithio Cynaliadwy fel Ystyriaeth Berthnasol Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Cyngor Sir Ceredigion a fabwysiadwyd.

3.     Lleolir safle y cais mewn lleoliad amlwg yn y tirlun i ffwrdd o unrhyw ffurfiau adeiledig cyfreithlon.  Felly, bernir bod lleoliad a maint y datblygiad yn niweidiol i gymeriad ac ymddangosiad y tirlun a'r ardal.  O ganlyniad, mae'r datblygiad arfaethedig yn mynd yn groes i Bolisïau DM06 a DM17 y Cynllun Datblygu Lleol.

________________________________________________________

 

6.

Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Ystyriwyd Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ynghylch Ceisiadau cynllunio datblygu, hysbysebu;  statudol a'r awdurdod lleol:-

        

Anerchodd Mr Oliver Cooper (Asiant) y Pwyllgor yn unol â'r Weithdrefn weithredol i Aelodau'r Cyhoedd sy'n annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu.

 

A200789 Datblygiad preswyl sy'n cynnwys 15 annedd a'r holl faterion neilltuedig ac eithrio mynediad a chynllun, Tir yn Lôn Gwastad, Borth.

 

CYMERADWYO'R cais yn unol ag amodau a chwblhau Cytundeb adran 106.

_____________________________________________________________

       

Anerchodd Mr Ifan Evans (Ymgeisydd) a Mrs Gwennan Jenkins (Asiant) y Pwyllgor yn unol â'r Weithdrefn weithredol i Aelodau'r Cyhoedd sy'n annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu.

 

A220202 Disodli annedd gadawedig, Tir ym Mhantyffynnon Isaf, Ysbyty Ystwyth

 

        CYFEIRIO'R cais i Banel Archwilio Safle yn unol â phwynt 2, a 5 y meini prawf a fabwysiadwyd gan y Cyngor;  a;

        GOHIRIO'R penderfyniad am y cais yn unol â Dewis 3 Gweithdrefnau Gweithredol y Pwyllgor Rheoli Datblygu ynghylch 'cyfnod callio'.

        ______________________________________________________________

       

A220259 Codi canopi dros iard gaeedig, Ysgol Uwchradd Aberteifi, Park Place, Heol Gwbert, Aberteifi, SA43 1AD

 

        CYMERADWYO'R cais yn unol ag amodau. ______________________________________________________

 

7.

Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi rhestr y ceisiadau cynllunio y bu i Adroddiad y Swyddog                            Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ymdrin â nhw.

8.

Apeliadau pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

CYTUNWYD nodi'r apeliadau cynllunio a oedd wedi dod i law.

 

Roedd yr aelodau yn dymuno nodi yn y cofnodion bod ganddynt bryder am y ffaith eu bod wedi cael anhawster clywed siaradwyr ar zoom unwaith eto yn y Siambr.

 

9.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor

Cofnodion:

Roedd yr aelodau yn dymuno nodi yn y cofnodion bod ganddynt bryder am y ffaith eu bod wedi cael anhawster clywed siaradwyr ar zoom unwaith eto yn y Siambr.