Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda
Cyswllt: Mrs Dana Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Materion Personol Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod |
|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Roedd y Cynghorydd Maldwyn
Lewis wedi ymddiheuro am nad oedd modd iddo ddod i’r cyfarfod. |
|
Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu Cofnodion: Dim. |
|
Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd 2021 PDF 147 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd 2021 yn gywir. |
|
Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor PDF 820 KB Cofnodion: Trafodwyd adroddiad Swyddog
Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ynghylch y ceisiadau cynllunio
a ganlyn a drafodwyd yn un o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor ac yr oedd angen
iddo eu hystyried ymhellach:- A200906 Addasu, estyn a newid yr
annedd bresennol i ddarparu pedair fflat hunangynhwysol, 1 Heol y Castell, Tan
y Cae, Aberystwyth CYMERADWYO’R cais yn ddibynnol ar amodau, gan
gynnwys gosod deunydd gwrthsain cyn i neb feddiannu’r fflatiau, gwahardd y
meddianwyr rhag defnyddio’r to gwastad fel ardal amwynder, a’u gwahardd hefyd
rhag newid y ffenestr yn ddrws i gael mynediad ato. _______________________________________________________________ |
|
Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu PDF 825 KB Cofnodion: Trafodwyd adroddiad Swyddog Arweiniol Corfforaethol
– yr Economi ac Adfywio ynghylch ceisiadau datblygu, hysbysebu, statudol a’r
awdurdod lleol:- Bu i Mr Luke Veasey
(Ymgeisydd) annerch y Pwyllgor yn unol â’r atodiad dros dro i’r weithdrefn
weithredol sy’n caniatáu i’r cyhoedd annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn sgil
Covid-19. A210529 Codi estyniad i Trafford House, Trawsgoed, Aberystwyth CYMERADWYO’R cais yn ddibynnol ar
amodau. _____________________________________________________________________ Bu i Mr Elfyn Jones
(Ymgeisydd) annerch y Pwyllgor yn unol â’r atodiad dros dro i’r weithdrefn
weithredol sy’n caniatáu i’r cyhoedd annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn sgil
Covid-19. A210615 Llain adeiladu
arfaethedig ar gyfer un annedd, gyda mynedfa newydd at y briffordd, Llain wrth
ymyl Dolau Gwyn, Dole, Bow Street, Aberystwyth GOHIRIO’R penderfyniad ar y cais
am fis i ganiatáu mwy o amser neu ‘gyfnod callio’ er mwyn ystyried holl ffeithiau’r
cais. _____________________________________________________________ |
|
Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig PDF 815 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi’r rhestr o geisiadau cynllunio y bu i Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ymdrin â nhw |
|
Cofnodion: Dim. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor Cofnodion: None. |