Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda
Cyswllt: Mrs Dana Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Materion Personol Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. |
|
Ymddiheuriadau Cofnodion:
Roedd y Cynghorydd Gwyn James wedi
ymddiheuro am nad oedd modd iddo ddod i’r cyfarfod. Dywedodd y Cynghorwyr Rhodri
Evans a Dai Mason y byddent yn gadael y cyfarfod yn gynnar oherwydd bod
ganddynt ymrwymiadau eraill. |
|
Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu Cofnodion: Dim. |
|
Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2022 PDF 218 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion y cyfarfod
a gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2022 yn gywir. Materion
yn codi Dim. |
|
Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor PDF 749 KB Cofnodion: Trafodwyd
adroddiad Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ynghylch y
ceisiadau cynllunio a ganlyn a drafodwyd yn un o gyfarfodydd blaenorol y
Pwyllgor ac yr oedd angen iddo eu hystyried ymhellach:- A210615
Llain adeiladu arfaethedig ar gyfer un annedd, gyda mynedfa newydd at y
briffordd, Llain wrth ymyl Dolau Gwyn, Dole, Bow Street, Aberystwyth GOHIRIO’R
penderfyniad ar y cais yn
ddibynnol ar gwblhau cytundeb Adran 106 ar gyfer annedd fforddiadwy, derbyn
Asesiad o Ganlyniadau Llifogydd gan Gyfoeth Naturiol Cymru, a chytuno ar annedd
lai o faint, gan ganiatáu i Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac
Adfywio GYMERADWYO’R cais os yw’r ymgeisydd yn cytuno â’r amodau a’i WRTHOD os
na ellir dod i gytundeb. ________________________________________________________________________
A210722 Byngalo ymddeol arfaethedig, Garej Bayview, Parc-llyn, Aberteifi GOHIRIO’R penderfyniad ar y cais am fis er mwyn ystyried
gwybodaeth bellach a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd ers y cyfarfod diwethaf am nad
oedd pob swyddog na phob Aelod wedi cael cyfle i weld yr wybodaeth hon; hefyd,
gofyn ar gais Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio i’r
ymgeisydd a’r asiant ddarparu erbyn dydd Gwener yr wybodaeth gywir yr hoffent
i’r swyddogion, y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ac yna’r Pwyllgor ei hystyried o
ran eu cais, a hynny oherwydd bod yr wybodaeth a ddarparwyd yn y cyfarfod hwn
yn gwrthdaro â’r wybodaeth a ddarparwyd yn y cyfarfod blaenorol. ________________________________________________________________________ |
|
Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu PDF 749 KB Cofnodion: Trafodwyd
adroddiad Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ynghylch
ceisiadau datblygu, hysbysebu, statudol a’r awdurdod lleol:- A210966 Addasu dwy
ysgubor yn llety gwyliau (Newid Defnydd) a chadw’r gwaith a wnaed hyd yma a’i gwblhau,
ynghyd â darparu ardal barcio allanol ar fuarth y fferm i wasanaethu’r unedau,
Fferm Pengarreg, Llanilar, Aberystwyth Nodi bod y cais WEDI’I DYNNU YN
ÔL. _____________________________________________________________________ A210997
Cadw dau gaban gwyliau pren a gwella’r briffordd i ddarparu lôn fynediad at y
safle, gan gynnwys dwy gilfan basio a gwelliannau i’r gyffordd. Fferm
Pengarreg, Llanilar, Aberystwyth Nodi bod y cais WEDI’I DYNNU YN ÔL. _____________________________________________________________ |
|
Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig PDF 741 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi’r rhestr o geisiadau cynllunio y bu i Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ymdrin â nhw. |
|
Cofnodion: Dim. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor |