Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda
Cyswllt: Mrs Dana Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Materion Personol Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Estynnwyd cydymdeimlad diffuant â’r Cynghorydd Gareth Davies a Mrs Julie Davies a’u teulu yn sgil marwolaeth sydyn eu mab, Daniel Davies |
|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Roedd y Cynghorwyr Meirion Davies, Gwyn James, Maldwyn Lewis a Lyndon
Lloyd MBE wedi ymddiheuro am nad oedd modd iddynt ddod i’r cyfarfod. Roedd y Cynghorydd Paul Hinge wedi ymddiheuro am nad oedd modd iddo ddod i’r cyfarfod oherwydd ei fod yn ymgymryd â dyletswyddau eraill y Cyngor.
|
|
Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd Catherine Hughes ddatgan buddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu yng nghais A210390. Bu i’r Cynghorydd Rhodri Evans ddatgan buddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu yng nghais A210464. Bu i’r Cynghorydd Ifan Davies ddatgan buddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu yng nghais A210390. |
|
Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2021 PDF 199 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2021 yn gywir. Materion yn codi Dim. |
|
Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor PDF 701 KB Cofnodion: Trafodwyd adroddiad Swyddog
Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ynghylch y ceisiadau cynllunio
a ganlyn a drafodwyd yn un o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor ac yr oedd angen
iddo eu hystyried ymhellach:- A210463 Cynnig i godi annedd unllawr, Tir yn Woodcroft, Capel
Dewi, Aberystwyth Nodi
bod y cais WEDI’I DYNNU YN ÔL cyn y cyfarfod. ________________________________________________________________________ A210464 Codi sied storio â ffrâm ddur i’w defnyddio i
storio peiriannau a bwyd anifeiliaid, Caeau Tyncelyn,
Llangeitho, Tregaron GWRTHOD
y cais am y rhesymau a ganlyn: 1.
Nid yw’r cais yn llwyddo
i ddangos bod angen y datblygiad arfaethedig yn y lleoliad hwn. Felly, nid oes
cyfiawnhad digonol dros ganiatáu’r datblygiad mewn cefn gwlad agored yn unol
â’r polisi cynllunio cenedlaethol. Felly, mae’r cynnig yn mynd yn groes i Nodyn
Cyngor Technegol 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy (2010). 2.
Mae safle’r cais wedi’i
leoli mewn man amlwg yn y dirwedd, ar wahân i unrhyw ffurf adeiledig
gyfreithlon. Felly, tybir bod lleoliad a maint y datblygiad yn andwyol i
gymeriad ac i ymddangosiad y dirwedd a’r ardal. O’r herwydd, mae’r cais yn mynd
yn groes i bolisïau DM06 a DM17 y Cynllun Datblygu Lleol. ______________________________________________________________________ |
|
Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu PDF 703 KB Cofnodion: Trafodwyd adroddiad Swyddog Arweiniol Corfforaethol
– yr Economi ac Adfywio ynghylch ceisiadau datblygu, hysbysebu, statudol a’r
awdurdod lleol:- Bu i Miss Emma Rowbotham
(Ymgeisydd) annerch y Pwyllgor yn unol â’r atodiad dros dro i’r weithdrefn
weithredol sy’n caniatáu i’r cyhoedd annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn sgil
COVID-19. A210390 Cynnig i godi
annedd menter wledig, gan gynnwys gosod gwaith bach i drin carthion,
Tir yn Nhynant, Tyn’reithin, Tregaron CYMERADWYO’R cais yn ddibynnol ar
amodau (gan gynnwys amod meddiannaeth TAN6) a chytundeb adran 106 a fydd yn
rhwymo’r annedd at y tir a’r adeilad presennol. Nid oedd yr Aelodau’n cytuno ag
argymhelliad y swyddogion ac roeddent yn tybio bod modd cymeradwyo’r cais am y
rhesymau a ganlyn:- ·
Mae’r cais yn cydymffurfio â pholisi TAN 6 o ran anheddau mentrau gwledig ·
Mae’r cais yn cydymffurfio â pholisi S04 6.6.1 y Cynllun Datblygu Lleol
gan fod angen y gellir ei gyfiawnhau o ran menter wledig ·
Mae’r ymgeisydd wedi cytuno i rwymo’r annedd at y tir (nad yw’n eiddo i
Gyngor Sir Ceredigion) a’r adeilad presennol ·
Mae’r cais yn cydymffurfio â pharagraff 4.4 o TAN 6 – Anheddau newydd ar fentrau gwledig sefydledig
– fel a ganlyn:- a.
mae angen swyddogaethol cyfredol sydd wedi’i ddangos yn glir; b.
mae’r angen yn ymwneud â gweithiwr amser llawn, ac nid yw’n ymwneud â
gofyniad rhan-amser; c.
mae’r fenter o dan sylw wedi bod mewn bodolaeth ers o leiaf dair blynedd,
mae wedi gwneud elw mewn o leiaf un o’r blynyddoedd hynny, ac mae’r fenter a’r
busnes y mae angen y swydd arnynt yn ariannol gadarn ar hyn o bryd ac mae
rhagolygon clir y byddant yn parhau i fod yn y sefyllfa honno; d.
ni fyddai modd bodloni’r angen swyddogaethol drwy annedd arall na thrwy
addasu adeilad addas sydd eisoes ar y tir lle y mae’r fenter wedi’i lleoli, na
thrwy unrhyw adeilad arall yn yr ardal sy’n addas ac ar gael i’w feddiannu gan
y gweithiwr o dan sylw; e.
mae’r gofynion cynllunio arferol eraill, er enghraifft y gofynion lleoli
a mynediad, wedi’u bodloni. ·
Mae’r cais yn cydymffurfio â pharagraff 4.5.1 (pwynt 2). Mae angen
swyddogaethol ar hyn o bryd am 0.5 neu ragor o weithiwr amser llawn, ac mae’r
unigolyn hwnnw’n cael o leiaf 50% o gyflog Gweithiwr Safonol Gradd 2 (fel y’i
diffinnir gan fersiwn ddiweddaraf y Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol) gan fusnes
y fferm. _____________________________________________________________________ Bu i Carol a Jack Deal
(Ymgeisydd) annerch y Pwyllgor yn unol â’r atodiad dros dro i’r weithdrefn
weithredol sy’n caniatáu i’r cyhoedd annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn sgil
COVID-19. A210725 Codi twnnel
polythen ar gyfer da byw i gadw defaid ar dyddyn, Tegfan, Llanwenog,
Llanybydder CYMERADWYO’R cais yn ddibynnol ar amodau, gan gynnwys mai dim ond ar gyfer da byw y
defnyddir y twnnel polythen. _____________________________________________________________ |
|
Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig PDF 692 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi’r rhestr o
geisiadau cynllunio y bu i Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac
Adfywio ymdrin â nhw. |
|
Cofnodion: Dim. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor |