Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Rheoli Datblygu - Dydd Mercher, 8fed Rhagfyr, 2021 10.00 am

Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda

Cyswllt: Mrs Dana Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Materion Personol

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

Estynnwyd cydymdeimlad diffuant â’r Cynghorydd Gareth Davies a Mrs Julie Davies a’u teulu yn sgil marwolaeth sydyn eu mab, Daniel Davies

2.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Roedd y Cynghorwyr Meirion Davies, Gwyn James, Maldwyn Lewis a Lyndon Lloyd MBE wedi ymddiheuro am nad oedd modd iddynt ddod i’r cyfarfod.

 

Roedd y Cynghorydd Paul Hinge wedi ymddiheuro am nad oedd modd iddo ddod i’r cyfarfod oherwydd ei fod yn ymgymryd â dyletswyddau eraill y Cyngor.

           

3.

Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Catherine Hughes ddatgan buddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu yng nghais A210390.

 

Bu i’r Cynghorydd Rhodri Evans ddatgan buddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu yng nghais A210464.

 

Bu i’r Cynghorydd Ifan Davies ddatgan buddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu yng nghais A210390.

 

4.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2021 pdf eicon PDF 199 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2021 yn gywir.             

 

Materion yn codi

Dim.

 

5.

Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor pdf eicon PDF 701 KB

Cofnodion:

Trafodwyd adroddiad Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ynghylch y ceisiadau cynllunio a ganlyn a drafodwyd yn un o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor ac yr oedd angen iddo eu hystyried ymhellach:-                      

 

          


A210463 Cynnig i godi annedd unllawr, Tir yn Woodcroft, Capel Dewi, Aberystwyth           

 

           Nodi bod y cais WEDI’I DYNNU YN ÔL cyn y cyfarfod.

          ________________________________________________________________________

 

A210464 Codi sied storio â ffrâm ddur i’w defnyddio i storio peiriannau a bwyd anifeiliaid, Caeau Tyncelyn, Llangeitho, Tregaron

 

          GWRTHOD y cais am y rhesymau a ganlyn:

 

1.    Nid yw’r cais yn llwyddo i ddangos bod angen y datblygiad arfaethedig yn y lleoliad hwn. Felly, nid oes cyfiawnhad digonol dros ganiatáu’r datblygiad mewn cefn gwlad agored yn unol â’r polisi cynllunio cenedlaethol. Felly, mae’r cynnig yn mynd yn groes i Nodyn Cyngor Technegol 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy (2010).

2.    Mae safle’r cais wedi’i leoli mewn man amlwg yn y dirwedd, ar wahân i unrhyw ffurf adeiledig gyfreithlon. Felly, tybir bod lleoliad a maint y datblygiad yn andwyol i gymeriad ac i ymddangosiad y dirwedd a’r ardal. O’r herwydd, mae’r cais yn mynd yn groes i bolisïau DM06 a DM17 y Cynllun Datblygu Lleol.

 

          ______________________________________________________________________

 

 

6.

Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu pdf eicon PDF 703 KB

Cofnodion:

Trafodwyd adroddiad Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ynghylch ceisiadau datblygu, hysbysebu, statudol a’r awdurdod lleol:-

 

Bu i Miss Emma Rowbotham (Ymgeisydd) annerch y Pwyllgor yn unol â’r atodiad dros dro i’r weithdrefn weithredol sy’n caniatáu i’r cyhoedd annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn sgil COVID-19.                                

 

A210390 Cynnig i godi annedd menter wledig, gan gynnwys gosod gwaith bach i drin carthion, Tir yn Nhynant, Tyn’reithin, Tregaron

         

CYMERADWYO’R cais yn ddibynnol ar amodau (gan gynnwys amod meddiannaeth TAN6) a chytundeb adran 106 a fydd yn rhwymo’r annedd at y tir a’r adeilad presennol.

 

Nid oedd yr Aelodau’n cytuno ag argymhelliad y swyddogion ac roeddent yn tybio bod modd cymeradwyo’r cais am y rhesymau a ganlyn:-

 

·         Mae’r cais yn cydymffurfio â pholisi TAN 6 o ran anheddau mentrau gwledig

·         Mae’r cais yn cydymffurfio â pholisi S04 6.6.1 y Cynllun Datblygu Lleol gan fod angen y gellir ei gyfiawnhau o ran menter wledig

·         Mae’r ymgeisydd wedi cytuno i rwymo’r annedd at y tir (nad yw’n eiddo i Gyngor Sir Ceredigion) a’r adeilad presennol

·         Mae’r cais yn cydymffurfio â pharagraff 4.4 o TAN 6 –  Anheddau newydd ar fentrau gwledig sefydledig – fel a ganlyn:-

a.    mae angen swyddogaethol cyfredol sydd wedi’i ddangos yn glir;

b.    mae’r angen yn ymwneud â gweithiwr amser llawn, ac nid yw’n ymwneud â gofyniad rhan-amser;

c.    mae’r fenter o dan sylw wedi bod mewn bodolaeth ers o leiaf dair blynedd, mae wedi gwneud elw mewn o leiaf un o’r blynyddoedd hynny, ac mae’r fenter a’r busnes y mae angen y swydd arnynt yn ariannol gadarn ar hyn o bryd ac mae rhagolygon clir y byddant yn parhau i fod yn y sefyllfa honno;

d.    ni fyddai modd bodloni’r angen swyddogaethol drwy annedd arall na thrwy addasu adeilad addas sydd eisoes ar y tir lle y mae’r fenter wedi’i lleoli, na thrwy unrhyw adeilad arall yn yr ardal sy’n addas ac ar gael i’w feddiannu gan y gweithiwr o dan sylw;      

e.    mae’r gofynion cynllunio arferol eraill, er enghraifft y gofynion lleoli a mynediad, wedi’u bodloni.

·         Mae’r cais yn cydymffurfio â pharagraff 4.5.1 (pwynt 2). Mae angen swyddogaethol ar hyn o bryd am 0.5 neu ragor o weithiwr amser llawn, ac mae’r unigolyn hwnnw’n cael o leiaf 50% o gyflog Gweithiwr Safonol Gradd 2 (fel y’i diffinnir gan fersiwn ddiweddaraf y Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol) gan fusnes y fferm.

 

_____________________________________________________________________

 

          Bu i Carol a Jack Deal (Ymgeisydd) annerch y Pwyllgor yn unol â’r atodiad dros dro i’r weithdrefn weithredol sy’n caniatáu i’r cyhoedd annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn sgil COVID-19.

 

A210725 Codi twnnel polythen ar gyfer da byw i gadw defaid ar dyddyn, Tegfan, Llanwenog, Llanybydder

 

CYMERADWYO’R cais yn ddibynnol ar amodau, gan gynnwys mai dim ond ar gyfer da byw y defnyddir y twnnel polythen.        

 

          _____________________________________________________________

 

7.

Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig pdf eicon PDF 692 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi’r rhestr o geisiadau cynllunio y bu i Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ymdrin â nhw.               

 

8.

Apeliadau pdf eicon PDF 690 KB

Cofnodion:

Dim.

9.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor