Lleoliad: Siambr y Cyngor - Penmorfa
Cyswllt: Mrs Dana Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Roedd y Cynghorwyr Ceredig Davies a Maldwyn Lewis wedi ymddiheuro am nad
oedd modd iddynt ddod i’r cyfarfod. Roedd y Cynghorydd Paul Hinge wedi ymddiheuro am nad oedd modd iddo ddod
i’r cyfarfod oherwydd ei fod yn ymgymryd â dyletswyddau eraill y Cyngor. |
|
Materion Personol Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. . |
|
Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu Cofnodion: Dim. |
|
Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Awst 2021 PDF 220 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion y cyfarfod
a gynhaliwyd ar 10 Awst 2021 yn gywir. Materion
yn codi Dim. |
|
Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor PDF 479 KB Cofnodion: Trafodwyd
adroddiad Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ynghylch y
ceisiadau cynllunio a ganlyn a drafodwyd yn un o gyfarfodydd blaenorol y
Pwyllgor ac yr oedd angen iddo eu hystyried ymhellach:- A201050
Codi annedd, gan gynnwys gosod mynedfa i gerbydau a gwaith trin carthion, Tir wrth ymyl Awel y Mynydd, Pisgah,
Aberystwyth GOHIRIO’R penderfyniad ar y cais i ganiatáu
mwy o amser neu ‘gyfnod callio’ er mwyn ystyried y pwyntiau a godwyd gan yr
Aelodau, ystyried arwyddocâd y gwyriad ac ystyried y risgiau cyn adrodd yn ôl wrth
y Pwyllgor. Rheswm: Sicrhau
bod y Pwyllgor yn cael mwy o gyngor am arwyddocâd y gwyriad a’r risgiau cyn
gwneud penderfyniad terfynol. |
|
Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu PDF 479 KB Cofnodion: Pwyllgor yn unol â’r atodiad dros dro i’r weithdrefn weithredol sy’n
caniatáu i’r cyhoedd annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn sgil Covid-19. A210522 Cynnig i godi annedd
sengl newydd, Tir i’r gogledd o Dŷ Blaencwm, Brynhoffnant, Llandysul, Ceredigion,
SA44 6ED CYMERADWYO’R cais yn ddibynnol ar amodau ac yn ddibynnol hefyd ar
gytundeb cyfreithiol Adran 106 a fydd yn sicrhau swm gohiriedig o 10% o werth y
datblygiad ar y farchnad agored yn unol â gofynion polisi S05 (Tai Fforddiadwy)
o’r Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig. Roedd yr Aelodau’n tybio bod modd
cymeradwyo’r cais am y rhesymau a
ganlyn:- ·
Roedd
yr Aelodau’n cydnabod bod y safle mewn anheddiad cyswllt ac felly ei fod yn
bodloni gofynion Cynllun Datblygu Lleol Ceredigion ·
Oherwydd
prinder caniatadau yn yr anheddiad cyswllt, roedd modd cymeradwyo’r cais ·
Roedd
prinder darpariaeth tai yng Nghanolfan Gwasanaeth Gwledig Aberporth / Parcllyn
hefyd yn rheswm dros ganiatáu’r datblygiad ·
Roedd
yr annedd arfaethedig gerllaw anheddiad ·
Roedd
yr annedd y drws nesaf i anheddau eraill sy’n cael eu codi ar hyn o bryd ·
Gellid
tybio ei bod yn rhy gynnar i gymeradwyo’r cais hwn, ond mae angen yr annedd hon
ar hyn o bryd ·
Mae’r
ymgeisydd sydd am godi’r annedd arfaethedig wedi buddsoddi’n helaeth mewn dau
fusnes ym Mrynhoffnant sy’n cynorthwyo’r economi leol, ac mae hefyd yn ymlynu
wrth bolisi’r Cyngor Sir a Pholisi Cynllunio Cymru o ran hyrwyddo busnesau mewn
ardaloedd gwledig ·
Roedd
angen i’r ymgeisydd fyw gerllaw ei fusnesau am resymau diogelwch ·
Roedd
yr annedd wedi’i lleoli mewn pentref cynaliadwy sy’n darparu gwasanaethau i’r
gymuned ehangach hefyd |
|
Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig PDF 477 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi’r rhestr o geisiadau cynllunio y bu i Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ymdrin â nhw |
|
Cofnodion: Nodwyd y penderfyniadau a oedd
wedi dod i law o ran apeliadau cynllunio. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor |