Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Rheoli Datblygu - Dydd Mercher, 11eg Awst, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Penmorfa

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Ceredig Davies wedi ymddiheuro am nad oedd modd iddo ddod i’r cyfarfod.

 

 

2.

Materion Personol

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

Estynnwyd cydymdeimlad â’r Cynghorydd Catherine Hughes a’i theulu yn sgil marwolaeth ei thad.

           

 

3.

Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Dim.

 

4.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2021 pdf eicon PDF 208 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2021 yn gywir.                     

 

           Materion yn codi

           Dim.

 

5.

Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor pdf eicon PDF 666 KB

Cofnodion:

Dim.

6.

Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu pdf eicon PDF 684 KB

Cofnodion:

 

 

          Trafodwyd adroddiad Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ynghylch ceisiadau datblygu, hysbysebu, statudol a’r awdurdod lleol:-

         

Darllenwyd sylwadau ysgrifenedig Mr Robert Taylor (Ymgeisydd) i’r Pwyllgor yn unol â’r atodiad dros dro i’r weithdrefn weithredol sy’n caniatáu i’r cyhoedd annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn sgil Covid-19.

 

A201081 Cynnig i godi annedd fforddiadwy, gan gynnwys gosod gwaith bach i drin carthion, Tir wrth ymyl College Farm, Bethania, Llannon

 

          GOHIRIO’R penderfyniad ar y cais i ganiatáu mwy o amser i gael       mwy o wybodaeth a ‘chyfnod callio’ er mwyn:

·    ystyried y pwyntiau a godwyd gan yr Aelodau,

·    gofyn am fwy o wybodaeth gan y Gwasanaeth Priffyrdd,

·    gofyn am fwy o wybodaeth gan yr Ymgeisydd,

·    ystyried arwyddocâd y gwyriad,      

·    ystyried y risgiau cyn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor, gan gynnwys y

cynnig newydd o ran priffyrdd,

·    a ellir ystyried yr annedd o dan y canllawiau Un Blaned.

·    Roedd amwysedd yn y cynnig

 

           Rheswm:

Sicrhau bod y Pwyllgor yn cael mwy o gyngor am arwyddocâd y gwyriad a’r risgiau cyn gwneud penderfyniad terfynol.       

 

         

        Darllenwyd sylwadau ysgrifenedig Mr Alun Charles (Asiant) i’r Pwyllgor yn unol â’r atodiad dros dro i’r weithdrefn weithredol sy’n caniatáu i’r cyhoedd annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn sgil Covid-19.

 

A210084 Cais cynllunio ôl-weithredol i gael caniatâd ar gyfer llety gwyliau mewn caban sydd wedi’i leoli ar dir Porth Elenydd, Pontarfynach, Porth Elenydd, Pontarfynach, Aberystwyth

 

          CYMERADWYO’R cais yn ddibynnol ar amodau.

 

 

          Darllenwyd sylwadau ysgrifenedig Mr Alex Smith (Asiant) i’r Pwyllgor yn unol â’r atodiad dros dro i’r weithdrefn weithredol sy’n caniatáu i’r cyhoedd annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn sgil Covid-19.

 

A210291 Codi tair annedd fforddiadwy, gan gynnwys mynediad, parcio, tirweddu a gwaith atodol, Tir wrth ymyl Maescrug, Pantycrug, Capel Seion, Aberystwyth                

 

CYMERADWYO’R cais yn ddibynnol ar gytundeb Adran 106 ar gyfer y tai fforddiadwy ac ar yr amod bod y gostyngiad yn y pris gwerthu’n parhau i fod yn 30%. Os nad yw’r ymgeisydd yn cytuno, caniateir i Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio WRTHOD y cais.  

        Nid oedd yr Aelodau’n cytuno ag argymhelliad y swyddogion ac roeddent yn tybio bod modd cymeradwyo’r cais am y rhesymau a ganlyn:-

·         Cafodd egwyddor y datblygiad ei sefydlu eisoes drwy gymeradwyo’r cais cynllunio blaenorol ar y safle, felly roedd yr annedd fforddiadwy ychwanegol i’w chroesawu ac roedd yn bosibl y gallai’r datblygwr gael adenillion ariannol mwy ffafriol ar y datblygiad pe câi tair annedd fforddiadwy eu cymeradwyo;

·         Roedd gan yr ymgeisydd restr o brynwyr posibl ar gyfer y tai fforddiadwy hyn, ac roedd hyn yn dangos bod galw amdanynt;

·         O gymeradwyo’r cais hwn, byddai’n cynorthwyo’r Cyngor i gyrraedd ei darged o ran nifer y tai fforddiadwy yn y sir;

·         Roedd angen tai fforddiadwy ar fyrder ac roedd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS, wedi tynnu sylw at hyn yn ddiweddar;

·         Roedd angen tai fforddiadwy yn y lleoliad hwn oherwydd nad oedd unrhyw ddatblygiadau yn y dref gyfagos;

·         Dywedodd yr Aelodau nad oeddent yn derbyn gostyngiad o 15% yn y gostyngiad ym mhris gwerthu’r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig pdf eicon PDF 667 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi’r rhestr o geisiadau cynllunio y bu i Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ymdrin â nhw. Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth – Rheoli Datblygu ddiweddariad i’r Aelodau am berfformiad y gwasanaeth ers y chwarter diwethaf. Bu i’r Aelodau longyfarch y gwasanaeth ar yr hyn a gyflawnwyd ganddo yn wyneb lefelau staffio annigonol.

8.

Apeliadau pdf eicon PDF 667 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi’r penderfyniad apêl a oedd wedi dod i law.

9.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor