Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Rheoli Datblygu - Dydd Mercher, 11eg Medi, 2024 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Mrs Dana Jones 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorydd Carl Worrall am na allai fynychu'r cyfarfod.

 

Byddai'r Cynghorydd Rhodri Evans yn mynychu'r cyfarfod yn hwyr, a byddai angen i'r Cynghorydd Hugh Hughes adael y cyfarfod yn gynnar.

 

2.

Materion Personol

Cofnodion:

Dim.

3.

Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Dim.

4.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Awst 2024 pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Awst 2024 fel rhai cywir.

 

Materion sy’n codi

Dim.

5.

Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Economi ac Adfywio ar y ceisiadau cynllunio a ganlyn a ystyriwyd mewn cyfarfod blaenorol ac yr oedd angen eu hystyried ymhellach gan y Pwyllgor:-

 

 

A230920 Newid defnydd cae amaethyddol i leoli 2 gwt bugail a gwaith cysylltiedig ar gyfer llety gwyliau.  Tanrallt, Tal-y-bont

 

CYMERADWYO’r cais yn destun amodau a Chytundeb Adran 106 yn clymu cytiau’r bugeiliaid i Danrallt.

 

Nid oedd yr aelodau'n cytuno ag argymhelliad y Swyddogion ac roeddent o'r farn y gellid cymeradwyo’r cais am y rhesymau a ganlyn:-

 

         Mae'r cais yn cydymffurfio â pholisïau DM06 a DM17 y CDLl

         Roedd llai o effaith ar y dirwedd gan fod cwt y bugail yn llai o ran graddfa o gymharu â llety arall i dwristiaid megis carafannau sefydlog a chyfyngwyd y gymeradwyaeth i gytiau bugeiliaid yn unig.

         Y gellid cefnogi'r cais pe bai sgrinio naturiol ychwanegol yn cael ei ddarparu

         Y lleoliad oedd yr un mwyaf addas ar gyfer y datblygiad o ystyried bod y safle ei hun yn dir isel ac felly’n llai ymwthiol yn weledol na’r safleoedd eraill a ystyriwyd.

 

________________________________________________________________

 

6.

Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Economi ac Adfywio ar geisiadau datblygu, hysbysebu; yr awdurdod lleol a statudol:-

 

Anerchodd Mr Paul Nicholls (asiant) y pwyllgor yn unol â'r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau'r Cyhoedd yn annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu.    

 

A210935 Annedd Newydd Arfaethedig mewn cysylltiad â menter sefydledig, Cambrian Marine Centre, Tegfan, Aberaeron

 

GOHIRIO’r cais i’r Grŵp Callio yn unol â pharagraff 2 (opsiwn 3) o’r broses ohirio ar gyfer ceisiadau a gyflwynir i’r Pwyllgor Rheoli Datblygu - Gweithdrefnau Gweithredol a hefyd i ofyn am fwy o wybodaeth gan yr ymgeisydd

______________________________________________________________

 

Anerchwyd y pwyllgor gan Mr Ieuan Williams (asiant) a Mrs Elen Davies

(ymgeisydd) yn unol â’r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau’r Cyhoedd yn

annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu   

 

A230165 Codi Annedd Gweithwyr Menter Wledig, Blaenffynnon, Llanwnnen,

Llanbedr Pont Steffan

 

 

GOHIRIO’r cais i’r Grŵp Callio yn unol â pharagraff 2 (opsiwn 3) o’r broses ohirio ar

gyfer ceisiadau a gyflwynir i’r Pwyllgor Rheoli Datblygu - Gweithdrefnau Gweithredol

a hefyd i ofyn am fwy o wybodaeth gan yr ymgeisydd

 

______________________________________________________________

Anerchodd Mrs Gwennan Jenkins (Asiant) y pwyllgor yn unol â'r weithdrefn weithredol ar gyfer Aelodau'r Cyhoedd yn annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu  

 

 

Codi un annedd, Penybryn, C1064 o Gyffordd y

B4340 i’r Rhes Newydd, Aberystwyth

 

GOHIRIO gwneud penderfyniad ar y cais, awdurdodi'r Swyddog Arweiniol Corfforaethol - Economi ac Adfywio i gymeradwyo annedd fforddiadwy ac yn amodol ar gytundeb Adran 106; a gwrthod y cais os na chytunir ar un fforddiadwy.

 

________________________________________________________________

 

A230859 Mynediad a thrac newydd arfaethedig, Tynyffordd Fach, Pontarfynach, Aberystwyth

 

CYFEIRIO’r cais i’r Panel Ymweld yn unol â Pharagraffau 2, 3 a 4 o feini prawf mabwysiedig y Cyngor.

 

______________________________________________________________

A240084 Annedd arfaethedig ar y farchnad agored a gwaith cysylltiedig, Plot yn gyfagos i Dyn Y Coed, Pont-rhyd-y-groes, Ystrad Meurig

 

GOHIRIO gwneud penderfyniad ar y cais, awdurdodi'r Swyddog Arweiniol Corfforaethol - Economi ac Adfywio i gymeradwyo annedd fforddiadwy ac yn amodol ar gytundeb Adran 106; a gwrthod y cais os na chytunir ar un fforddiadwy.  Cytunodd yr Aelodau hefyd y dylid lleihau maint yr annedd arfaethedig i gydymffurfio â pholisi S05 y CDLl, Canllawiau Cynllunio Atodol Cyngor Sir Ceredigion o ran Tai Fforddiadwy a Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru 2021 Mannau a Chartrefi Prydferth (WDQR 2021).

 

_____________________________________________________________

 

A240308 Amrywio Amod 2 A021471 - Amrywio cynlluniau, Brynddewi, C1056 o Aber-arth i gyffordd yr U1554, Aber-arth, Aberaeron

 

Nodi bod y cais wedi'i OHIRIO gan fod mwy o wybodaeth wedi'i chyflwyno'n hwyr gan yr ymgeisydd, nad oedd Swyddogion wedi ei hystyried.

 

Anerchodd Mrs Gwennan Jenkins (Asiant) y pwyllgor yn unol â'r weithdrefn weithredol ar gyfer Aelodau'r Cyhoedd yn annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu  

 

 

______________________________________________________________

 

A240477 Defnyddio annedd fel Llety Gwyliau Tymor Byr (Caniatâd Dros Dro) Parc Y Deri, A485 o Lanilar i Gyffordd yr C1037, Llanilar, Aberystwyth

 

GOHIRIO’r cais i’r Grŵp Callio yn unol â pharagraff 2 (opsiwn 3) o’r broses ohirio ar gyfer ceisiadau a gyflwynir i’r Pwyllgor Rheoli Datblygu - Gweithdrefnau Gweithredol a hefyd i ofyn am fwy o wybodaeth gan yr ymgeisydd

 

 

 

7.

Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o geisiadau cynllunio yr ymdriniwyd â hwy yn Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Economi ac Adfywio

8.

Apeliadau pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi'r apeliadau cynllunio a gafwyd

.

9.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor

Cofnodion:

Dim.