Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Rheoli Datblygu - Dydd Mercher, 14eg Awst, 2024 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Mrs Dana Jones 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Dim.

2.

Materion Personol

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at farwolaeth sydyn ddiweddar y Cynghorydd Paul Hinge a thalodd deyrnged i'w waith helaeth o fewn y Cyngor Sir ers iddo ddod yn Aelod etholedig dros Ward Tirmynach yn 2008, ei frwdfrydedd at ei rôl fel Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog ar gyfer cyn-filwyr yng Ngheredigion a Chymru ac, yn bwysicaf oll, ei falchder o'i holl deulu. Mynegwyd cydymdeimlad iddynt yn ystod y cyfnod anodd hwn.

 

3.

Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Datgelodd y Cynghorydd Ceris Jones fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu yng Nghais A230293.

 

4.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf 2024 pdf eicon PDF 103 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf 2024 fel rhai cywir yn ddibynnol ar nodi bod y Cynghorydd Eryl Evans hefyd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Materion yn codi

Dim.

 

5.

Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i Adroddiad y Swyddog Arweiniol CorfforaetholEconomi ac Adfywio ar y ceisiadau cynllunio a ganlyn a ystyriwyd mewn cyfarfod blaenorol ac yr oedd angen eu hystyried ymhellach gan y Pwyllgor:-

 

A230293 Codi annedd menter wledig (TAN 6) a sied, ar dir cyfagos i Faespwll, Talgarreg, Llandysul

 

Cafwyd pleidlais wedi’i chofnodi ar sail argymhelliad gan y swyddog yn unol â Rhan 4, Dogfen I o Gyfansoddiad y Cyngor gan fod penderfyniad y Pwyllgor yn mynd yn groes i argymhelliad y swyddog ac yn wyriad sylweddol oddi wrth bolisi.

Cynigodd y Cynghorydd Marc Davies y dylid mynd yn erbyn yr argymhelliad, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Meirion Davies.

 

O blaid yr argymhelliad:

 

Yn erbyn yr argymhelliad:

Cynghorwyr Ifan Davies, Marc Davies, Meirion Davies, Raymond Evans, Rhodri Evans, Hugh Hughes, Chris James, Maldwyn Lewis, Sian Maehrlein a Carl Worrall (10)

 

Yn erbyn: Neb

 

Ymatal: Neb

 

Cytunwyd i GYMERADWYO’r cais yn amodol ar Rwymedigaeth Adran 106 ar gyfer annedd menter wledig a sied.

 

Nid oedd yr Aelodau’n cytuno ag argymhelliad y swyddogion ac roeddent o’r farn y gellid cymeradwyo’r cais am y rhesymau canlynol:

         Mae’r cais yn cydymffurfio â pholisi Cynllunio Cymru, Rhifyn 12, paragraff 5.4.16 Clystyrau Busnes

         Mae'r cais yn cydymffurfio â pharagraff 4.6 Anheddau newydd ar fentrau newydd a 4.7. a 4.7.1  Arfarniadau o anheddau mentrau gwledig TAN 6

         Roedd y Polisi Cynllunio Cymru diwygiedig, Rhifyn 12 yn fwy cadarnhaol tuag at y datblygiadau hyn nag yn y canllawiau blaenorol

         Mae'r cais yn cefnogi busnes lleol sy'n gweithio hefyd mewn clwstwr gyda busnes arall gerllaw; a oedd o fudd i'r ddau yn Nhalgarreg

         Mae eisoes adeilad â mynediad ar y safle ac felly nid yw'n safle maes-glas

         Roedd y Panel Archwilio Safle o’r farn bod y safle yn dderbyniol ar gyfer y datblygu

         Roedd yn hanfodol byw ar y safle oherwydd rhesymau diogelwch

         Nid oedd safle addas arall yn yr ardal leol ar gyfer y datblygiad hwn

         Atgyfnerthu busnes ar un safle

         Mae'n hybu’r economi leol ac yn cefnogi’r gymuned

         Mae'n cefnogi'r Gymraeg a'r ysgol leol

 

 

 

           

 

_________________________________________________________________

 

 

A230865 Ystafell arddangos ceir arfaethedig ac adeilad MOT/Gweithdy yn lle’r gweithdy presennol, Garej Whitehall, Stryd Fawr, Llanon

 

Cytunwyd i GYMERADWYO’r cais yn amodol ar amodau a fyddai'n sicrhau lliniaru sŵn addas a bod yr arolwg ystlumod diweddar a'r adroddiad seilwaith gwyrdd a gyflwynwyd yn ddigonol.

 

Nid oedd yr Aelodau’n cytuno ag argymhelliad y swyddogion ac roeddent o’r farn y gellid cymeradwyo’r cais am y rhesymau canlynol:

 

         Cefnogi’r economi leol yn Llanon

         Roedd swyddogion yn dymuno cefnogi'r cais ond roedd ganddyn nhw bryderon.

         Roedd y Panel Archwilio Safle wedi bod ar y safle i ystyried y pryderon a godwyd gan Swyddogion ac roedd lliniaru sŵn, sain, ac effaith weledol y datblygiad wedi’i gyflawni

         Mae'r cais yn cydymffurfio â pholisi DM22 Gwarchod a Gwella'r Amgylchedd yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Economi ac Adfywio ar geisiadau datblygu, hysbysebu; statudol a’r awdurdod lleol:-

 

Darllenwyd llythyr ar ran yr Ymgeisydd nad oedd yn gallu mynychu'r cyfarfod am resymau dilys.

 

A230920.  Newid defnydd cae amaethyddol i leoli 2 gaban bugail a gwaith cysylltiedig ar gyfer llety gwyliau, Tanrallt, Talybont

 

CYFEIRIO'r cais i'r Panel Archwilio Safle yn unol â pharagraff 3, 4 a 5 o feini prawf mabwysiedig y Cyngor.

 

_________________________________________________________________

 

Cyfeiriodd Miss Celyn Jukes (ymgeisydd) at y pwyllgor yn unol â’r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau’r Cyhoedd sy’n annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu.

 

 

A240273. 4 annedd (Tai) fforddiadwy - Tai Gostyngiad ar Werth, Drws Y Coed. Caemorgan Road, Cardigan

 

GWRTHOD y cais.

______________________________________________________________

 

A240407. Codi byngalo sengl gyda garej ar wahân a’r holl waith sy’n gysylltiedig. Plot 27, Heol Y Cwm, Cross Inn, Llandysul

 

GOHIRIO'r cais i'r Grŵp Callio yn unol â pharagraff 2 (opsiwn 3) o'r broses ohirio ar gyfer ceisiadau a gyflwynir i'r Pwyllgor Rheoli Datblygu - Gweithdrefnau Gweithredol a gofyn am ragor o wybodaeth gan yr ymgeisydd hefyd.

 

 

 

_________________________________________________________________

 

 

7.

Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o geisiadau cynllunio yr ymdriniwyd â hwy yn Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Economi ac Adfywio.

 

8.

Apeliadau pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD nodi'r apeliadau cynllunio a gafwyd.

 

9.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor

Cofnodion:

Dim.