Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Rheoli Datblygu - Dydd Mercher, 12fed Gorffennaf, 2023 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Mrs Dana Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Materion Personol

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i bawb i’r cyfarfod.

2.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Ceris Jones wedi ymddiheuro am nad oedd modd iddi fynychu’r cyfarfod.

3.

Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Rhodri Evans ei fod wedi cael goddefeb gan y Pwyllgor Moeseg a Safonau i siarad yn unig am Gais A201012.

 

Datganodd Mrs Dana Jones, Gwasanaethau Democrataidd, fudd personol ac sy'n rhagfarnu yng Nghais A220674 ac roedd Ms Nia Jones, Rheolwr Corfforaethol – Gwasanaethau Democrataidd wedi cymryd y cofnodion ar gyfer yr eitem hon.tem.

4.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mehefin 2023 pdf eicon PDF 103 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau  bod Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mehefin 2023 yn gywir.

Materion yn codi

Dim.

 

5.

Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor pdf eicon PDF 859 KB

Cofnodion:

 

Ystyriwyd Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaetholyr Economi ac Adfywio am y ceisiadau cynllunio canlynol, a ystyriwyd yn ystod cyfarfod blaenorol ac yr oedd gofyn i'r Pwyllgor eu hystyried ymhellach:-

 

 CYMERADWYO’R cais yn unol â chytundeb A106 dan ddarpariaeth Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a oedd yn clymu’r datblygiad arfaethedig gyda’r busnes amaethyddol ym Mhenlanwen ac i’r gwrthwyneb.  Pe na bai’r cytundeb A 106 yn cael ei gwblhau, awdurdodir y Swyddog Arweiniol Corfforaetholyr Economi ac Adfywio i WRTHOD y cais.

 

Nid oedd yr Aelodau yn cytuno ag argymhelliad y Swyddogion ac roeddent o’r farn y gellid cymeradwyo’r cais am y rhesymau canlynol:-

Yn dilyn ymweliad gan y Panel Archwilio Safle â’r lleoliad, roedd yr Aelodau yn cytuno â’r panel, a ddaeth i’r casgliad ar ôl archwilio’r tir yn agosach at y brif fferm, nad oedd lleoli’r datblygiad ger y brif fferm yn addas gan bod y lleoliad yn serth, yn agos i afon a bod y mynediad i’r fferm ei hun yn annigonol yn eu barn nhw oherwydd yr angen i deithio trwy brif glos y fferm, a ddefnyddir mewn ffordd amaethyddol ac felly, roedd cyfiawnhad dros leoli’r datblygiad yn y lleoliad arfaethedig.

         Safle y cais oedd yr unig leoliad ymarferol er mwyn lleoli’r podiau eu hunain.

         Ni fyddai’r podiau Glampio yn cael effaith weledol niweidiol ar y tirlun gan bod y safle arfaethedig islaw’r llinell crib ac mae’n cydymffurfio â DM17.

         Roedd hwn yn gais goddrychol y byddai modd ei gymeradwyo gan ei fod yn cynorthwyo’r fferm i arallgyfeirio.

         Byddai modd cymeradwyo’r cais yn unol â chytundeb Adran 106 dan ddarpariaeth Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 gan glymu’r datblygiad arfaethedig gyda’r busnes amaethyddol ym Mhenlanwen ac i’r gwrthwyneb.

_________________________________________________________________

 

A220250 Codi bloc o fflatiau sengl, gyda chwech llawr (y chweched llawr yn y to), a fydd yn cynnwys 24 uned, gyda lle parcio a mannau amwynder cymunol cysylltiedig, Darn o dir gerllaw Adeilad Brynderw, Ffordd Stanley, Aberystwyth

 

CYMERADWYO’R cais yn unol ag amodau a chwblhau cytundeb A106 mewn perthynas ag unedau fforddiadwy.

 

6.

Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu pdf eicon PDF 865 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaetholyr Economi ac Adfywio ynghylch Ceisiadau cynllunio datblygu, hysbysebu; statudol a'r awdurdod lleol:-

 

Anerchodd Mrs Gwennan Jenkins (Asiant) a Mr Dyfed Evans (Ymgeisydd) y Pwyllgor yn unol â'r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau'r Cyhoedd sy'n annerch y Pwyllgor Reoli Datblygu

 

 

A220638 Cam 4 – Codi 8 annedd gan gynnwys 2 annedd fforddiadwy, Cae John, Cross Inn, Llanon

GOHIRIO’R cais er mwyn caniatáu mwy o amser neu gyfnodcallio’ er mwyn ystyried ymhellach pa mor dderbyniol yw’r datblygiad mewn egwyddor, a’i gydymffurfiaeth â pholisïau LU06 ac LU24, oherwydd y byddai’r cais hwn yn codi’r dwysedd yn uwch na’r dwysedd arfaethedig yng nghategori yr Aneddiadau Cysylltiedig a Lleoliadau Eraill ymhellach ar gyfer y Grŵp Anheddiad hwn ar yr adeg hon.

        

 

 

______________________________________________________________

Anerchodd Mr Geraint John y Pwyllgor yn unol â'r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau'r Cyhoedd sy'n annerch y Pwyllgor Reoli Datblygu

 

A220674 Ehangu’r parc carafannau yn Fferm Bargoed, gan gynnwys lleiniau carafannau teithio newydd gyda thwbâu twym, a llety glampio, Fferm Bargoed,

Llwyncelyn, Aberaeron

 

 

CYMERADWYO’R cais yn unol ag amodau.

 

______________________________________________________________

 

Anerchodd Mrs Gwennan Jenkins (Asiant) a Mr Meirion Evans (Ymgeisydd) y Pwyllgor yn unol â'r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau'r Cyhoedd sy'n annerch y Pwyllgor Reoli Datblygu

 

A220763 Annedd cyfnewid arfaethedig (Dymchwel ar ôl cwblhau), estyniad i’r ardd a gwaith cysylltiedig, Allt y Bryn,Beulah, Castellnewydd Emlyn

 

CYFEIRIO’R cais i’r Panel Archwilio Safle yn unol â Pharagraff 2 y meini prawf a fabwysiadwyd gan y Cyngor.

 

________________________________________________________________

 

A230270 Codi to blaen presennol yr estyniad a gwaith ail-doi cyffredinol ar adeilad cyfan y ganolfan hamdden a gwaith cysylltiedig sy’n cynnwys disodli cafnau dŵr ac ati, Canolfan Hamdden Teifi, Park Place, Heol Gwbert, Aberteifi

 

CYMERADWYO’R cais yn unol ag amodau.

 

 

 

7.

Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig pdf eicon PDF 847 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi rhestr y ceisiadau cynllunio y bu i Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaetholyr Economi ac Adfywio ymdrin â nhw.of the Corporate Lead Officer – Economy and Regeneration.

8.

Apeliadau pdf eicon PDF 842 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD nodi’r apeliadau a oedd wedi dod i law.

9.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor

Cofnodion:

Dim.