Lleoliad: Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron ac o bell trwy fideo gynhadledda
Cyswllt: Mrs Dana Jones
Rhif | Eitem | |
---|---|---|
Materion Personol Cofnodion: Estynnodd y Cadeirydd groeso i bawb i’r cyfarfod. |
||
Ymddiheuriadau Cofnodion:
|
||
Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu Cofnodion: Datgelodd y Cynghorydd
Ifan Davies fudd personol
ac sy’n rhagfarnu yng Nghais A211191. Datgelodd Mrs Catrin Newbold fudd personol ac sy’n rhagfarnu yng Nghais A220476. |
||
Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2022 Cofnodion:
PENDERFYNWYD cadarnhau bod Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2022 yn gywir. Materion yn codi Dim |
||
Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Cofnodion: Dim. |
||
Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu Cofnodion: Ceisiadau Datblygu, Hysbysebu, Statudol a’r Awdurdod Lleol Ystyriwyd Adroddiad Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ynghylch Ceisiadau datblygu, hysbysebu, statudol a’r awdurdod lleol:- A210592 Codi annedd, Plot tu ôl Brynmorwel, Brynhoffnant, Llandysul CYFEIRIO’R cais i’r Panel Archwilio Safle yn unol â Pharagraff 4 y meini prawf a fabwysiadwyd gan y Cyngor. ____________________________________________________________ Anerchodd Mrs Helen Ashby-Ridgway (Asiant) y Pwyllgor yn unol â'r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau'r Cyhoedd sy'n annerch y Pwyllgor Reoli Datblygu
A211168 Datblygu sylfeini er mwyn lleoli cabanau, sy’n dod dan y diffiniad o garafannau sefydlog, codi adeilad er mwyn cadw offer, ac adeiladu pyllau, gyda’r gwaith cysylltiedig er mwyn cael mynediad, parcio ceir, tirlunio a seilwaith draenio, Tir i’r De o Seven Springs Lodge Park, Llanon CYMERADWYO’R cais yn unol ag amodau. ________________________________________________________________
Anerchodd Mrs Gwawr Edwards y Pwyllgor yn unol â'r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau'r Cyhoedd sy'n annerch y Pwyllgor Reoli Datblygu A211191 Newid defnydd tir i ddefnydd twristiaeth, er mwyn caniatáu codi pâr o gabanau i’w defnyddio fel llety gwyliau, ynghyd â’r gwaith cysylltiedig gan gynnwys lleoedd parcio a gosod systemau draenio, Hafodhir Uchaf, Bethania, Llanon CYFEIRIO’R cais i’r Panel Archwilio Safle yn unol â Pharagraffau 3, 4 a 5 y meini prawf a fabwysiadwyd gan y Cyngor. ________________________________________________________________
Anerchodd Mrs Gwennan Jenkins (Asiant) y Pwyllgor yn unol â'r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau'r Cyhoedd sy'n annerch y Pwyllgor Reoli Datblygu A220476 Datblygiad Preswyl, Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol Aberporth, Y Clwb, Parc-llyn, Aberteifi CYMERADWYO’R cais yn unol ag amodau a Rhwymedigaeth Adran 106 am dai fforddiadwy a chyfraniad i le agored cyhoeddus. ________________________________________________________________ |
||
Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi rhestr y ceisiadau cynllunio y bu i Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ymdrin â nhw. |
||
Cofnodion: Dim. |
||
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor Cofnodion: Dim. |