Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Mrs Dana Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorydd Ifan Davies na fyddai modd iddo fod yn bresennol ar ddechrau'r cyfarfod, ac ymunodd â'r cyfarfod am 10:45am. |
|
Materion Personol Cofnodion: Estynnodd y Cadeirydd groeso i bawb i'r cyfarfod a manteisiodd ar y cyfle i
ddymuno'n dda i Mr Alan Davies, Rheolwr Corfforaethol Gwasanaethau Cynllunio,
yn dilyn ei gyfnod yn yr ysbyty yn ddiweddar.
Yn ogystal, estynnodd yr aelodau groeso i Gynghorydd Mark Strong, a oedd yn bresennol dros zoom, gan ddymuno'n dda iddo. Manteisiodd y Cynghorydd Rhodri Evans ar y cyfle i ddiolch i Swyddogion a
fu'n ymwneud â datblygiad anghyfreithlon
yn Nhrychrug, Talsarn yn ddiweddar, am ddelio gyda'r ymchwiliad hwn a'i ddatrys yn gyflym
ac mewn ffordd broffesiynol. Ategwyd y sylwadau uchod gan Gynghorydd Marc Davies,
ac roedd yn dymuno nodi yn y cofnodion
bod Cyngor Sir Ceredigion yn defnyddio gweithdrefnau gorfodi yn ôl yr angen, gan gymryd y camau mwyaf priodol. Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion a fu'n ymwneud â hyn hefyd. |
|
Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu Cofnodion: Ni ddatgelwyd unrhyw Fuddiannau Personol a/neu Fuddiannau sy'n Rhagfarnu. |
|
Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Medi 2022 PDF 86 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau bod Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Medi 2022 yn gywir. Materion yn codi Dim materion yn codi |
|
Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor PDF 1 MB Cofnodion: Ystyriwyd Adroddiad y Swyddog
Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio am y ceisiadau cynllunio canlynol, a ystyriwyd yn ystod cyfarfod
blaenorol ac yr oedd gofyn i'r Pwyllgor
eu hystyried ymhellach: Wrth ystyried y cais isod,
cyflwynwyd gwybodaeth esempt yn unol â'r diffiniad ym Mharagraff 12 ac 13 Rhan
4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn
Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007. Cytunwyd y byddai'r cyhoedd a'r wasg yn cael
eu gwahardd o'r cyfarfod wrth i'r mater gael ei ystyried, yn unol ag Adran
100B(2) y Ddeddf. Ar ôl ystyried y
wybodaeth esempt hon, dychwelodd y pwyllgor i drefniant cyfarfod
cyhoeddus. Gwaharddwyd y Cyhoedd a'r
Wasg am 10:30am ac fe'u gwahoddwyd yn ôl i mewn am 10:45am. A210091 Cais cynllunio
ôl-weithredol am sied peiriannau amaethyddol a storio a gwelliannau i'r
mynediad presennol i gerbydau, Tir gyferbyn â Than Yr Allt, Coxhead, Tregaron. GWRTHOD y cais am y rhesymau canlynol: 1. Nid yw'r cais yn dangos yr angen am y datblygiad arfaethedig yn y
lleoliad hwn. Felly, ni cheir cyfiawnhad
digonol dros ganiatáu datblygiad mewn cefn gwlad agored, yn unol â pholisi
cynllunio cenedlaethol. Felly, mae'r
cynnig yn mynd yn groes i Nodyn Cyngor Technegol 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig
Cynaliadwy (2010). 2. Oherwydd ei leoliad ar drac yr hen reilffordd rhwng Aberystwyth a
Chaerfyrddin, nid yw'r cynnig yn llwyddo i ddiogelu seilwaith trafnidiaeth
blaenorol, y mae ganddo y potensial i ddarparu teithio cynaliadwy yn groes i
bolisi DM04: Seilwaith Teithio
Cynaliadwy fel Ystyriaeth Berthnasol Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Cyngor Sir
Ceredigion a fabwysiadwyd. 3. Lleolir safle y cais mewn lleoliad amlwg yn y tirlun i ffwrdd o unrhyw
ffurfiau adeiledig cyfreithlon. Felly,
bernir bod lleoliad a maint y datblygiad yn niweidiol i gymeriad ac
ymddangosiad y tirlun a'r ardal. O
ganlyniad, mae'r datblygiad arfaethedig yn mynd yn groes i Bolisïau DM06 a DM17
y Cynllun Datblygu Lleol. ________________________________________________________ |
|
Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu PDF 1 MB Cofnodion: Ystyriwyd Adroddiad y Swyddog Arweiniol
Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ynghylch Ceisiadau cynllunio datblygu,
hysbysebu; statudol a'r awdurdod lleol:- A200789 Datblygiad
preswyl sy'n cynnwys 15 annedd a'r holl faterion neilltuedig ac eithrio
mynediad a chynllun, Tir yn Lôn Gwastad, Borth. CYMERADWYO'R cais yn unol ag amodau a chwblhau Cytundeb adran 106. _____________________________________________________________ Anerchodd Mr Ifan Evans (Ymgeisydd) a Mrs Gwennan
Jenkins (Asiant) y Pwyllgor yn unol â'r
Weithdrefn weithredol i Aelodau'r Cyhoedd sy'n annerch y Pwyllgor Rheoli
Datblygu. A220202 Disodli annedd gadawedig, Tir ym
Mhantyffynnon Isaf, Ysbyty Ystwyth CYFEIRIO'R cais
i Banel Archwilio Safle yn unol â phwynt 2, a 5 y meini prawf a fabwysiadwyd
gan y Cyngor; a; GOHIRIO'R penderfyniad
am y cais yn unol â Dewis 3 Gweithdrefnau Gweithredol y Pwyllgor Rheoli
Datblygu ynghylch 'cyfnod callio'.
______________________________________________________________ A220259 Codi canopi dros iard gaeedig, Ysgol
Uwchradd Aberteifi, Park Place, Heol Gwbert, Aberteifi, SA43 1AD CYMERADWYO'R
cais yn unol ag amodau. ______________________________________________________ |
|
Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig PDF 1 MB Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi rhestr y ceisiadau cynllunio y bu i Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ymdrin â nhw. |
|
Cofnodion: CYTUNWYD nodi'r apeliadau cynllunio a oedd wedi dod i law.
Roedd yr aelodau yn dymuno nodi yn y cofnodion bod
ganddynt bryder am y ffaith eu bod wedi cael anhawster clywed siaradwyr ar zoom unwaith eto yn y Siambr. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor Cofnodion: Roedd yr aelodau yn dymuno nodi yn y cofnodion bod ganddynt bryder am y ffaith eu bod wedi cael anhawster clywed siaradwyr ar zoom unwaith eto yn y Siambr. |