Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Rheoli Datblygu - Dydd Mercher, 9fed Chwefror, 2022 10.00 am

Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda

Cyswllt: Mrs Dana Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Materion Personol

Cofnodion:

     

      Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

 

2.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

             

   Roedd y Cynghorydd Gwyn James wedi ymddiheuro am nad oedd modd iddo ddod i’r cyfarfod.

 

Dywedodd y Cynghorwyr Rhodri Evans a Dai Mason y byddent yn gadael y cyfarfod yn gynnar oherwydd bod ganddynt ymrwymiadau eraill.

 

3.

Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Dim.

4.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2022 pdf eicon PDF 218 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2022 yn gywir.              

 

           Materion yn codi

           Dim.

 

5.

Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor pdf eicon PDF 749 KB

Cofnodion:

 Trafodwyd adroddiad Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ynghylch y ceisiadau cynllunio a ganlyn a drafodwyd yn un o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor ac yr oedd angen iddo eu hystyried ymhellach:-                      

 

A210615 Llain adeiladu arfaethedig ar gyfer un annedd, gyda mynedfa newydd at y briffordd, Llain wrth ymyl Dolau Gwyn, Dole, Bow Street, Aberystwyth

 

GOHIRIO’R penderfyniad ar y cais yn ddibynnol ar gwblhau cytundeb Adran 106 ar gyfer annedd fforddiadwy, derbyn Asesiad o Ganlyniadau Llifogydd gan Gyfoeth Naturiol Cymru, a chytuno ar annedd lai o faint, gan ganiatáu i Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio GYMERADWYO’R cais os yw’r ymgeisydd yn cytuno â’r amodau a’i WRTHOD os na ellir dod i gytundeb. 

          ________________________________________________________________________

 

         A210722 Byngalo ymddeol arfaethedig, Garej Bayview, Parc-llyn, Aberteifi

 

GOHIRIO’R penderfyniad ar y cais am fis er mwyn ystyried gwybodaeth bellach a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd ers y cyfarfod diwethaf am nad oedd pob swyddog na phob Aelod wedi cael cyfle i weld yr wybodaeth hon; hefyd, gofyn ar gais Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio i’r ymgeisydd a’r asiant ddarparu erbyn dydd Gwener yr wybodaeth gywir yr hoffent i’r swyddogion, y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ac yna’r Pwyllgor ei hystyried o ran eu cais, a hynny oherwydd bod yr wybodaeth a ddarparwyd yn y cyfarfod hwn yn gwrthdaro â’r wybodaeth a ddarparwyd yn y cyfarfod blaenorol.                                                                         

            ________________________________________________________________________

6.

Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu pdf eicon PDF 749 KB

Cofnodion:

        Trafodwyd adroddiad Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ynghylch ceisiadau datblygu, hysbysebu, statudol a’r awdurdod lleol:-

 

A210966 Addasu dwy ysgubor yn llety gwyliau (Newid Defnydd) a chadw’r gwaith a wnaed hyd yma a’i gwblhau, ynghyd â darparu ardal barcio allanol ar fuarth y fferm i wasanaethu’r unedau, Fferm Pengarreg, Llanilar, Aberystwyth                          

         

Nodi bod y cais WEDI’I DYNNU YN ÔL.

 

_____________________________________________________________________

 

 

          A210997 Cadw dau gaban gwyliau pren a gwella’r briffordd i ddarparu lôn fynediad at y safle, gan gynnwys dwy gilfan basio a gwelliannau i’r gyffordd. Fferm Pengarreg, Llanilar, Aberystwyth

         

          Nodi bod y cais WEDI’I DYNNU YN ÔL.

          _____________________________________________________________

         

 

7.

Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig pdf eicon PDF 741 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi’r rhestr o geisiadau cynllunio y bu i Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ymdrin â nhw.                    

8.

Apeliadau pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Dim.

9.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor