Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda
Cyswllt: Mrs Dana Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Materion Personol Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Bu i’r Aelodau ddiolch i Mrs Gwennan Jenkins a Mr Gwion Dafydd am eu gwaith yn ystod eu cyfnod gyda’r Gwasanaeth Cynllunio a bu iddynt ddymuno’n dda iddynt yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Estynnwyd llongyfarchiadau i’r Cynghorydd Rowland Rees-Evans ar i’w ferch gael ei derbyn i Gymdeithas y Cyfreithwyr. |
|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Roedd y Cynghorydd Peter Davies MBE wedi ymddiheuro
am nad oedd modd iddo ddod i’r cyfarfod. |
|
Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd Endaf Edwards ddatgan buddiant personol
a buddiant sy’n rhagfarnu yng nghais A210575. Bu i’r Cynghorydd Odwyn Davies ddatgan buddiant personol a
buddiant sy’n rhagfarnu yng nghais A210121. Bu i’r Cynghorydd Ceredig Davies ddatgan buddiant personol a
buddiant sy’n rhagfarnu yng nghais A201050. Bu i Mr Russell Hughes Pickering ddatgan buddiant personol a
buddiant sy’n rhagfarnu yng nghais A210077. |
|
Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 08 Medi 2021 PDF 137 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion y cyfarfod
a gynhaliwyd ar 08 Medi 2021 yn gywir. Materion yn codi Dim. |
|
Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor PDF 1 MB Cofnodion: Trafodwyd adroddiad Swyddog
Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ynghylch y ceisiadau cynllunio
a ganlyn a drafodwyd yn un o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor ac yr oedd angen
iddo eu hystyried ymhellach:- A200862
Codi annedd, Tycoch, Trefenter, Aberystwyth CYMERADWYO’R cais yn ddibynnol ar gytundeb
Adran 106 ar gyfer annedd fforddiadwy. Roedd
yr Aelodau’n tybio bod modd cymeradwyo’r cais am y rhesymau a ganlyn:- ·
O
ran bodloni’r meini prawf polisi sy’n ymwneud â’i leoliad, roedd yr Aelodau’n
tybio bod safle’r cais yn Nhrefenter a bod hwnnw’n
anheddiad cydnabyddedig. ·
Er
mai nifer gyfyngedig o anheddau a geir yn yr union ardal honno ac nad oes
unrhyw ardal adeiledig amlwg yno, roedd yn cynnwys nifer fach o grwpiau o dai
sy’n ffurfio anheddiad. ·
Pe
bai bwlch bach yn datblygu, wrth ymyl annedd sy’n bodoli eisoes ac yn agos at
eraill, ni fyddai’n ‘gefn gwlad agored’ ar yr ystyr bod yno gaeau tonnog na
thirwedd ddi-dor, ond un sy’n cydymffurfio â chymeriad yr anheddiad a’i barchu.
·
Roedd
dau eiddo i’r gogledd i safle’r cais a chlwstwr o dai gerllaw. Roedd y Panel yn
tybio bod yr anheddiad yn gymuned yn hytrach na phentref, a’i fod yn anheddiad
cydnabyddedig hyd yn oed os yw’r anheddau wedi’u gwasgaru. ·
Roedd
hwn yn gais i godi annedd fforddiadwy ac roedd hynny i’w groesawu yn yr
anheddiad hwn. ·
Roedd
lleoliad yr annedd yn dilyn patrwm anheddau gwreiddiol Ceredigion, ac roedd
Polisi Cynllunio Cymru’n datgan bod disgresiwn i’r awdurdod cynllunio ystyried
hyn. _____________________________________________________ A201050 Codi annedd, gan gynnwys gosod mynedfa i gerbydau
a gwaith trin carthion, Tir wrth ymyl Awel y Mynydd, Pisgah, Aberystwyth GOHIRIO’R penderfyniad ar y cais
i roi cyfle i gynlluniau diwygiedig ar gyfer annedd fforddiadwy gael eu
cyflwyno a’u hystyried, gan roi caniatâd i Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr
Economi ac Adfywio gymeradwyo’r cais os yw’r cynlluniau ar gyfer tŷ
fforddiadwy’n dderbyniol neu wrthod y cais os yw’r trafodaethau’n methu. Os caiff ei gymeradwyo, bydd y caniatâd hefyd yn destun
cytundeb Adran 106 i sicrhau bod yr annedd yn un fforddiadwy am byth. ________________________________________________________ A210077 Dymchwel y stablau presennol a chodi annedd
breswyl, gan gynnwys parcio, tirweddu a gwaith atodol, Tir yn Nhyn-y-cae,
Tal-y-bont GWRTHOD y cais oherwydd ei fod
yn mynd yn groes i bolisïau S01, S04 ac S05 Cynllun Datblygu Lleol Ceredigion
2007–2022. ________________________________________________________ |
|
Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu PDF 1 MB Cofnodion: Trafodwyd
adroddiad Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ynghylch
ceisiadau datblygu, hysbysebu, statudol a’r awdurdod lleol:- Gwnaeth Mr Laurence Akerman (Gwrthwynebydd) ei
sylwadau ei hun i’r Pwyllgor a darllenwyd llythyr Mr Rhys ap Dylan (Asiant) i’r
Pwyllgor ar ei ran yn unol â’r atodiad dros dro i’r weithdrefn weithredol sy’n
caniatáu i’r cyhoedd annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn sgil Covid-19. A200906
Addasu, estyn a newid yr annedd bresennol i ddarparu pedair fflat
hunangynhwysol, 1 Heol y Castell, Tan y Cae, Aberystwyth GOHIRIO’R penderfyniad ar y cais
am fis i ganiatáu mwy o amser neu ‘gyfnod callio’ i ystyried y pwyntiau a
godwyd gan yr Aelodau, ac i roi cyfle i’r swyddogion ymweld â’r safle a chael
mwy o wybodaeth/lluniau/fideos i roi sylw i’r pwyntiau hyn cyn ystyried y cais
ymhellach. _____________________________________________ A210121 Codi adeilad
fferm amaethyddol, Abermarlais, Cellan, Llanbedr Pont Steffan GOHIRIO’R penderfyniad ar y cais
am fis i gael mwy o wybodaeth er mwyn ystyried y cais. Gofynnodd yr Aelodau’n benodol am fwy o wybodaeth am y rheswm pam
fod angen ail adeilad fferm ar y daliad, ynghyd â chyfiawnhad dros leoli’r
adeilad arfaethedig oddi ar fuarth presennol y fferm. _____________________________________________ A210575 Gosod wyneb newydd
ar y maes parcio presennol, dyrannu 30 lle parcio ar gyfer y gwesty (fel sy’n
ofynnol o dan amod 4 caniatâd cynllunio A190141) a gwaith cysylltiedig, Maes
Parcio Eglwys San Mihangel, Maes Lowri, Aberystwyth CYMERADWYO’R cais yn ddibynnol ar
amodau. ____________________________________________ |
|
Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig PDF 265 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi’r rhestr o geisiadau cynllunio y bu i Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ymdrin â nhw. |
|
Cofnodion: CYTUNWYD i nodi’r penderfyniadau a oedd wedi dod i law o ran apeliadau cynllunio. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor Cofnodion: None. |