Lleoliad: Siambr y Cyngor - Penmorfa
Cyswllt: Mrs Dana Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Roedd y Cynghorwyr Ifan Davies a Catherine Hughes wedi
ymddiheuro am nad oedd modd iddynt ddod i’r cyfarfod. |
|
Materion Personol Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r
cyfarfod. Estynnwyd cydymdeimlad â’r Cynghorydd Ifan Davies yn sgil
marwolaeth ei fam. Estynnodd y Cynghorydd Paul Hinge gydymdeimlad â theulu’r
Arglwydd Elystan Morgan a oedd wedi marw’n ddiweddar. Estynnwyd llongyfarchiadau i Swyddog Arweiniol
Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ar godi ymwybyddiaeth o ganser y prostad
drwy gymryd rhan yn nigwyddiad y Big Walk. Ei darged oedd cwblhau 310 milltir
ym mis Gorffennaf. Byddai dolen at y dudalen codi arian yn cael ei dosbarthu
ymhlith yr Aelodau. |
|
Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd Rowland Rees-Evans ddatgan buddiant
personol a buddiant sy’n rhagfarnu yng nghais A200862, ond roedd wedi cael
caniatâd gan y Pwyllgor Moeseg a Safonau i siarad ynghylch y cais. Bu i’r Cynghorwyr John Adams-Lewis, Dafydd Edwards,
Rhodri Evans a Gareth Lloyd ddatgan buddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu
yng nghais A201067. Bu i’r Cynghorydd Gethin Davies ddatgan buddiant personol
a buddiant sy’n rhagfarnu yng nghais A210062. Bu i Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac
Adfywio ddatgan buddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu yng ngheisiadau
A201067 ac A210077. |
|
Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2021 PDF 234 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion y cyfarfod
a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2021 yn gywir. Materion
yn codi Dim. |
|
Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor PDF 756 KB Cofnodion: Trafodwyd adroddiad Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr
Economi ac Adfywio ynghylch y ceisiadau cynllunio a ganlyn a drafodwyd yn un o
gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor ac yr oedd angen iddo eu hystyried ymhellach:- Darllenwyd sylwadau ysgrifenedig Mr Robert Thomas
(Asiant) i’r Pwyllgor yn unol â’r atodiad dros dro i’r weithdrefn weithredol
sy’n caniatáu i’r cyhoedd annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn sgil Covid-19. A200862
Codi annedd, Tycoch, Trefenter, Aberystwyth GOHIRIO’R penderfyniad ar y cais i ganiatáu mwy o amser neu ‘gyfnod
callio’ er mwyn ystyried y pwyntiau a godwyd gan yr Aelodau, ystyried
arwyddocâd y gwyriad, ac ystyried y risgiau cyn adrodd yn ôl wrth y Pwyllgor ym
mis Medi. Rheswm: Sicrhau bod y Pwyllgor yn cael mwy o gyngor am arwyddocâd
y gwyriad ac am y risgiau cyn penderfynu’n derfynol. |
|
Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu PDF 774 KB Cofnodion: Trafodwyd
adroddiad Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ynghylch
ceisiadau datblygu, hysbysebu, statudol a’r awdurdod lleol:- Darllenwyd sylwadau ysgrifenedig Ffrindiau Erw Goch
(Gwrthwynebwyr) a Mr Dylan Green (Asiant) i’r Pwyllgor yn unol â’r atodiad dros
dro i’r weithdrefn weithredol sy’n caniatáu i’r cyhoedd annerch y Pwyllgor
Rheoli Datblygu yn sgil Covid-19. A201067 Cais cynllunio hybrid sy’n cynnwys: A) Cais
cynllunio amlinellol gyda’r holl faterion wedi’u cadw’n ôl (ac eithrio’r rheini
sydd wedi’u cynnwys yn y cais llawn isod) ar gyfer datblygiad preswyl i’w
ddatblygu fesul cam a’r gwaith cysylltiedig; B) Cais llawn ar gyfer datblygiad
preswyl a gwaith cysylltiedig, gan gynnwys darparu man agored/chwarae
cyhoeddus, ffordd ddosbarthu newydd o Gefnesgair i
Heol Waunfawr, trefniadau peirianyddol a draenio, mesurau lliniaru ecolegol,
gwaith tirweddu a gwaith cysylltiedig, Tir sy’n cydffinio
â Hafan y Waun, Waunfawr, Aberystwyth GOHIRIO’R penderfyniad ar y cais i gael
gwybod am ganlyniad y cais i gael statws Maes Pentref cyn ystyried y cais
cynllunio, i gael cadarnhad gan SSE a Dŵr Cymru fod seilwaith priodol yn
ei le ganddynt i ddarparu ar gyfer y datblygiad preswyl hwn yn sgil materion a
godwyd gan Aelodau, ac i ddarparu cynllun rheoli ar gyfer yr ardal chwarae well
dros y tymor hir. _____________________________________________ Darllenwyd sylwadau
ysgrifenedig Mr Llyr Evans (Asiant) i’r Pwyllgor yn unol â’r atodiad dros dro
i’r weithdrefn weithredol sy’n caniatáu i’r cyhoedd annerch y Pwyllgor Rheoli
Datblygu yn sgil Covid-19. A210062 Cais i leoli wyth caban gwyliau
hunanarlwyo, ynghyd â ffordd fynediad, mesurau tirweddu a gwaith cysylltiedig,
Tir i’r gorllewin o Westy Penrallt, Aberporth CYMERADWYO’R cais yn ddibynnol ar
amodau. _____________________________________________ Darllenwyd sylwadau
ysgrifenedig Mr Rhys Norrington-Davies (Ymgeisydd) a Mr Alex Smith (Asiant) i’r
Pwyllgor yn unol â’r atodiad dros dro i’r weithdrefn weithredol sy’n caniatáu
i’r cyhoedd annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn sgil Covid-19. A210077 Dymchwel y
stablau presennol a chodi annedd breswyl, gan gynnwys parcio, tirweddu a gwaith
atodol, Tir yn Nhyn-y-cae, Tal-y-bont GOHIRIO’R penderfyniad ar y cais
i ganiatáu mwy o amser neu ‘gyfnod callio’ er mwyn ystyried y pwyntiau a godwyd
gan yr asiant, ystyried arwyddocâd y gwyriad, ac ystyried y risgiau cyn adrodd
yn ôl wrth y Pwyllgor ym mis Medi.
Rheswm: Sicrhau bod y Pwyllgor yn cael mwy o gyngor am arwyddocâd
y gwyriad ac am y risgiau cyn penderfynu’n derfynol. ________________________________________________________ |
|
Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig PDF 753 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi’r rhestr o geisiadau cynllunio y bu i Swyddog Arweiniol
Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ymdrin â nhw.
|
|
Cofnodion: Dim. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd iddo gael gwybod yn ystod y cyfarfod fod y
Cynghorydd Catherine Hughes wedi colli ei thad; estynnwyd cydymdeimlad â hithau
a’i theulu. |