Lleoliad: rhithrol
Cyswllt: Mrs Dana Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Roedd y Cynghorwyr Ifan Davies, Paul Hinge, Catherine Hughes, Gwyn James a Lyndon Lloyd MBE wedi ymddiheuro am nad oedd modd iddynt ddod i’r cyfarfod. |
|
Materion Personol Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cynhaliwyd munud o dawelwch er cof am yr Arglwydd Elystan Morgan a oedd wedi marw’n ddiweddar |
|
Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu Cofnodion: Dim. |
|
Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2021 PDF 227 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2021 yn gywir. Materion yn codi Dim. |
|
Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor PDF 725 KB Cofnodion: Dim. |
|
Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu PDF 739 KB Cofnodion: Trafodwyd adroddiad Swyddog Arweiniol Corfforaethol
– yr Economi ac Adfywio ynghylch ceisiadau datblygu, hysbysebu, statudol a’r
awdurdod lleol:- A210230
Newid defnydd o C3 (annedd) i C4 (tŷ amlfeddiannaeth), 8 Bythynnod
Gogerddan, Ffordd Penglais, Aberystwyth CYMERADWYO’R cais yn ddibynnol
ar amodau. _____________________________________________________________ A210283 Codi dwy annedd, Lleiniau 16 ac 17 Clos y Gwyddil,
y Ferwig, Aberteifi CYMERADWYO’R cais yn ddibynnol ar amodau
ac yn ddibynnol ar gytundeb cyfreithiol Adran 106 a fydd yn sicrhau swm
gohiriedig o 10% yn gyfraniad at ddarparu tai fforddiadwy yn y sir, yn unol â
darpariaeth polisi S05 y Cynllun Datblygu Lleol, gyda’r gwaith i gychwyn cyn
pen 18 mis ar ôl dyddiad rhoi’r caniatâd. Nid oedd yr Aelodau’n cytuno ag argymhelliad y
swyddogion ac roeddent yn tybio bod modd cymeradwyo’r cais am y rhesymau a
ganlyn:- ·
Nid oedd datblygiadau eraill ar y gweill yn yr anheddiad cyswllt ·
Rhoddwyd caniatâd gwreiddiol dros ddeng mlynedd yn ôl ac fe godwyd 15
annedd; deg ar gyfer y farchnad agored a phum annedd fforddiadwy, sef 50% o’r
datblygiad. Roedd y gyfran hon yn fwy na’r ddarpariaeth tai fforddiadwy sy’n
ofynnol fel arfer ·
Roedd yr ystad hon yn ddelfrydol, gyda lle i ddwy annedd a fyddai’n
cwblhau’r safle ·
Mae’r Aelod Lleol a Chyngor Cymuned y Ferwig yn cefnogi’r cais ·
Ni ddylid rhoi cymaint o bwyslais ar y sylwadau dienw gan drydydd partïon
a gyflwynwyd ar dudalen 14 o’r adroddiad; ac mae un gwrthwynebydd yn
gwrthwynebu oherwydd y bydd yn colli’r golygfeydd, ac nid yw hon yn ystyriaeth
gynllunio sylweddol ·
Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiadau gan y Gwasanaethau Priffyrdd, Draenio
Tir nac Ecoleg, Cyfoeth Naturiol Cymru, Diogelu Mwynau, na Dŵr Cymru, ac
roedd yr adran honno o adroddiad y swyddog a oedd yn ymwneud ag amwynder
preswyl ar dudalennau 15/16 yn eithriadol o gadarnhaol ac yn datgan y tybir bod
y datblygiad arfaethedig yn dderbyniol yn ôl maen prawf 7 polisi DM06 y Cynllun
Datblygu Lleol ·
Roedd yr unig wrthwynebiad yn seiliedig ar niferoedd a chanrannau ac,
oherwydd y newid o ran anghenion a phroblemau tai’r sir, gan gynnwys ffosffadau
yn Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Teifi, roedd yr Aelodau’n tybio bod modd
iddynt gefnogi’r cais hwn ·
Roedd nifer o ddadleuon perthnasol dros gefnogi’r cais yn groes i
strategaeth dai’r Cynllun Datblygu Lleol, a gellir gweld y rhain ar dudalennau
16/17. Yn gryno, nodwyd y sylwadau a ganlyn:- § Mae dros wyth mlynedd wedi mynd
heibio ers y penderfyniad apêl ac mae’r sefyllfa dai wedi newid § Adeiladwyd yr ystad mewn dau
gam, gyda’r naill gam a’r llall wedi’u cwblhau’n gyflym i ateb galwadau’r
farchnad § Roedd y tai o ansawdd uchel § Mae’r ystad wedi’i lleoli mewn
anheddiad cyswllt diffiniedig ac mewn lleoliad cynaliadwy yn y pentref § Bydd y datblygiad yn dod â thai
newydd am bris rhesymol i’r farchnad yn y Ferwig, a hynny gan ddatblygwr lleol
dibynadwy sy’n cyflogi gweithwyr lleol § Mae cryn alw am gartrefi â phedair ystafell wely yn yr ardal, a’r rheini ar gael i deuluoedd lleol, felly gwnaed y cais hwn mewn ymateb ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|
Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig PDF 728 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi’r rhestr o geisiadau cynllunio y bu i Swyddog Arweiniol
Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ymdrin â nhw. |
|
Cofnodion: CYTUNWYD i nodi’r apeliadau
cynllunio a oedd wedi dod i law. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor |