Lleoliad: Siambr y Cyngor - Penmorfa
Cyswllt: Mrs Dana Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Roedd y Cynghorydd Bryan Davies wedi ymddiheuro am nad oedd modd iddo ddod i’r cyfarfod. |
|
Materion Personol Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Roedd y Cynghorydd Paul Hinge am longyfarch Nerys Hywel ar gael ei
phenodi’n gadeirydd benywaidd cyntaf Clwb Rygbi Aberystwyth yn ddiweddar. Roedd hefyd am ddymuno’n
dda i Steve Owen a fydd yn cerdded o Gaerdydd i Benrhiw-pâl
i godi arian i Woody’s Lodge,
canolfan gymdeithasol i dywys cyn-filwyr at y cymorth a’r gefnogaeth y mae eu
hangen arnynt i ailgysylltu â’u teuluoedd a’u cymunedau. Os oedd unrhyw un am
gyfrannu, roedd tudalen Just Giving
ar gael ar ei dudalen Facebook. Bu i’r Cadeirydd
longyfarch pawb a fu’n rhan o’r digwyddiad diweddar yng Nghlwb Pêl-droed
Felin–fach i godi arian i Steffan Morgan, chwaraewr ifanc a oedd wedi cael
diagnosis fod arno ganser anghyffredin. Cafwyd newyddion rhagorol yn ddiweddar
fod Steffan wedi clywed bod y clefyd wedi cilio |
|
Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu Cofnodion: Bu i’r
Cynghorydd Ceredig Davies ddatgan buddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu
yng nghais A201050. |
|
Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 09 Mehefin 2021 PDF 231 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 09 Mehefin 2021 yn gywir. Materion yn
codi Dim. |
|
Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor PDF 967 KB Cofnodion: Trafodwyd
adroddiad Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio
ynghylch y ceisiadau cynllunio a ganlyn a drafodwyd yn un
o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor ac yr oedd angen iddo
eu hystyried ymhellach:- Darllenwyd
sylwadau ysgrifenedig Mr
Juanita Humprhis (Gwrthwynebydd)
i’r Pwyllgor yn unol â’r
atodiad dros dro i’r weithdrefn
weithredol sy’n caniatáu i’r cyhoedd
annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn sgil Covid-19. A200528 Ffurfio mynedfa newydd i gae amaethyddol,
Tir yng Nghilgraig,
Capel Dewi, Llandysul GOHIRIO’R penderfyniad ar y cais hyd nes
bod adroddiad geotechnegol
a holl fanylion y cynigion i ddraenio dŵr wyneb wedi’u cyflwyno, gan ganiatáu bryd
hynny i Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio
GYMERADWYO’R cais yn ddibynnol ar amodau,
gan gynnwys cynllun plannu yn sgil colli
gwrych. Os na chaiff
yr wybodaeth hon ei chyflwyno o fewn cyfnod derbyniol,
caiff y cais ei ailgyflwyno i’r Pwyllgor. Roedd
y penderfyniad i gymeradwyo’r
cais hefyd yn ddibynnol ar
gymeradwyo cais cynllunio A210239 hefyd. Roedd
yr Aelodau’n tybio bod modd cymeradwyo’r cais os caiff mwy
o wybodaeth ei chyflwyno a’i bod yn bodloni Swyddog
Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio,
a hynny am y rhesymau a ganlyn:- • Roedd angen
mynedfa newydd i’r cae yn
wahanol i farn y swyddogion yn yr
adroddiad • Cafodd gwybodaeth
ei chyflwyno i ddangos bod angen y fynedfa newydd • Roeddent yn
derbyn y byddai’r fynedfa’n cael effaith weledol, ond, at ei gilydd,
byddai’r fynedfa arfaethedig yn fwy diogel na’r
fynedfa bresennol ac roedd yr Aelodau’n
tybio bod diogelwch yn gorbwyso unrhyw
effaith weledol andwyol • Nid oedd gan yr Awdurdod Priffyrdd Lleol unrhyw wrthwynebiad i’r fynedfa arfaethedig |
|
Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu PDF 984 KB Cofnodion: Trafodwyd adroddiad Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ynghylch ceisiadau datblygu, hysbysebu, statudol a’r awdurdod lleol:-
Darllenwyd sylwadau ysgrifenedig Ms Juanita Humphris, Mrs S J Dilworth a Mrs R Thomas i’r Pwyllgor yn unol â’r atodiad dros dro i’r weithdrefn weithredol sy’n caniatáu i’r cyhoedd annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn sgil Covid-19. A210239 Cynnig i ffurfio trac mynediad amaethyddol, Tir yng Nghilgraig, Capel Dewi, Llandysul GOHIRIO’R penderfyniad ar y cais hyd nes bod adroddiad geotechnegol a holl fanylion y cynigion i ddraenio dŵr wyneb wedi’u cyflwyno, gan ganiatáu bryd hynny i Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio GYMERADWYO’R cais yn ddibynnol ar amodau, gan gynnwys cynllun plannu yn sgil colli gwrych. Os na chaiff yr wybodaeth hon ei chyflwyno o fewn cyfnod derbyniol, caiff y cais ei ailgyflwyno i’r Pwyllgor.
• Roedd angen mynedfa newydd i’r cae yn wahanol i farn y swyddogion yn yr adroddiad • Cafodd gwybodaeth ei chyflwyno i ddangos bod angen y fynedfa newydd • Roeddent yn derbyn y byddai’r fynedfa’n cael effaith weledol, ond, at ei gilydd, byddai’r fynedfa arfaethedig yn fwy diogel na’r fynedfa bresennol ac roedd yr Aelodau’n tybio bod diogelwch yn gorbwyso unrhyw effaith weledol andwyol • Nid oedd gan yr Awdurdod Priffyrdd Lleol unrhyw wrthwynebiad i’r fynedfa arfaethedig Darllenwyd sylwadau ysgrifenedig Mr a Mrs W ac A Davey (Ymgeiswyr) i’r Pwyllgor yn unol â’r atodiad dros dro i’r weithdrefn weithredol sy’n caniatáu i’r cyhoedd annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn sgil Covid-19. A201050 Codi annedd, gan gynnwys gosod mynedfa i gerbydau a gwaith trin carthion, Tir wrth ymyl Awel y Mynydd, Pisgah, Aberystwyth GOHIRIO’R penderfyniad ar y cais am fis er mwyn i’r ymgeisydd drafod â’r Awdurdod Cynllunio Lleol a fyddai’n ystyried newid y cais yn gais i godi annedd fforddiadwy neu annedd TAN 6, gan ganiatáu i Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio GYMERADWYO cais diwygiedig boddhaol yn ddibynnol ar amodau a chytundeb cyfreithiol Adran 106. Os na cheir cytundeb ar y cynnig, caiff y cais ei ailgyflwyno i’r Pwyllgor.
Darllenwyd sylwadau ysgrifenedig Mr Rhys ap Dylan (Asiant) i’r Pwyllgor yn unol â’r atodiad dros dro i’r weithdrefn weithredol sy’n caniatáu i’r cyhoedd annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn sgil Covid-19.
A201064 Cam 3 – Codi saith annedd, Cae John, Cross Inn, Llannon CYMERADWYO’R cais yn ddibynnol ar amodau a chytundeb Adran 106, gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn trafod â’r ymgeisydd gynllun datblygu graddol er mwyn codi’r tai fforddiadwy cyn y tai ar gyfer y farchnad agored o ddewis. Roedd yr Aelodau’n tybio bod modd cymeradwyo’r cais am y rhesymau a ganlyn:- • Roeddent yn derbyn y gyfradd dwf a nodwyd yn y lleoliad hwn, ond oherwydd diffyg datblygu mewn ardaloedd eraill fel Aberaeron, roeddent yn croesawu’r cais hwn • Nid oedd modd rhoi caniatâd cynllunio mewn ardaloedd eraill ar hyn o bryd oherwydd problemau â ffosffadau, felly roedd angen adeiladu yn y lleoliad hwn • Roeddent yn croesawu’r tai fforddiadwy a fyddai’n cael eu darparu drwy’r datblygiad hwn
Darllenwyd sylwadau ysgrifenedig ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|
Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig PDF 129 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi’r rhestr o geisiadau cynllunio y bu i Swyddog Arweiniol
Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ymdrin â nhw. Dywedodd
y Cynghorydd Lyndon Lloyd fod
nifer o drigolion ei ward wedi gofyn
am eglurhad ynghylch y ceisiadau ar y rhestr hon a gafodd eu cymeradwyo mewn
cefn gwlad agored. Yn ei
ymateb, dywedodd Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio fod pob cais
a gymeradwywyd ar y rhestr hon wedi’i gymeradwyo drwy awdurdod dirprwyedig a chan ddilyn y canllawiau.
Os oedd gan
unrhyw drigolion unrhyw gwestiynau, dywedodd y dylent ysgrifennu’n uniongyrchol ato. |
|
Cofnodion: Dim. |