Lleoliad: Siambr y Cyngor - Penmorfa
Cyswllt: Mrs Dana Jones
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Dim. |
|||||||||||||||||||||||||
Materion Personol Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. |
|||||||||||||||||||||||||
Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd Rowland Rees–Evans ddatgan buddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu yng nghais A200862, ond roedd wedi cael caniatâd gan y Pwyllgor Moeseg a Safonau i siarad ynghylch y cais. |
|||||||||||||||||||||||||
Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Mai 2021 PDF 125 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion y cyfarfod
a gynhaliwyd ar 19 Mai 2021 yn gywir. Materion
yn codi Dim. |
|||||||||||||||||||||||||
Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor PDF 829 KB Cofnodion: Dim. |
|||||||||||||||||||||||||
Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu PDF 853 KB Cofnodion: Trafodwyd adroddiad Swyddog Arweiniol
Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ynghylch ceisiadau datblygu, hysbysebu,
statudol a’r awdurdod lleol:- A200862 Codi annedd, Tycoch,
Trefenter, Aberystwyth GOHIRIO’R penderfyniad ar y cais er mwyn i’r swyddogion ystyried
yr wybodaeth a gyflwynwyd yn ddiweddar gan yr asiant o ran annedd fforddiadwy.
____________________________________________ A201095 Codi annedd, Llain wrth ymyl Gwyn Ley, Penrhyn-coch, Aberystwyth GOHIRIO’R penderfyniad ar y cais er
mwyn i’r ymgeisydd a’r swyddogion drafod lleoli’r annedd yn nes at y fferm ac
ystyried codi annedd amaethyddol TAN 6 yn hytrach nag annedd fforddiadwy, yn
ogystal â darparu cyfiawnhad dros godi annedd TAN 6. _______________________________________________________ A200879 Dileu amod amaethyddol 4 caniatâd cynllunio
D1/1000/87 i godi annedd ar gyfer gweithiwr amaethyddol, Rhos Rhydiol, Bwlch-llan, Llanbedr Pont Steffan Nodi bod yr ymgeisydd
wedi TYNNU’R CAIS YN ÔL. . _______________________________________________________ Darllenwyd sylwadau
ysgrifenedig Mr Zac Addison (Asiant) i’r Pwyllgor yn
unol â’r atodiad dros dro i’r weithdrefn weithredol sy’n caniatáu i’r cyhoedd
annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn sgil Covid-19. A200994 Sied arfaethedig
i storio peiriannau amaethyddol a garddwriaethol, Tir wrth ymyl Waun Fach, Cwm-cou, Castellnewydd Emlyn CYMERADWYO’R cais yn ddibynnol ar amodau, gan gynnwys bod y cerbydau sy’n gysylltiedig â’r
busnes yn cael eu storio yn y sied yn unig ac nid ar yr iard. Nid oedd yr
Aelodau’n cytuno ag argymhelliad y swyddogion ac roeddent yn tybio bod modd
cymeradwyo’r cais am y rhesymau a ganlyn:- ·
Mae’r cais hwn yn
cefnogi ac yn hybu busnes gwledig ·
Mae Polisi Cynllunio
Cymru yn hyblyg ac mae’n caniatáu ar gyfer busnesau gwledig. Mae’n bolisi gan y
Cyngor Sir i gynorthwyo busnesau bach gwledig fel hwn ·
Mae Cyngor Cymuned
Beulah yn cefnogi’r cais ac mae hon yn ffactor bwysig o blaid cymeradwyo’r cais ·
Mae’n bwysig bod gan yr
ymgeisydd sied i gadw ei beiriannau drud yn ddiogel dan glo |
|||||||||||||||||||||||||
Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig PDF 229 KB Cofnodion: .PENDERFYNWYD nodi’r rhestr o geisiadau cynllunio y
bu i Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ymdrin â nhw.
|
|||||||||||||||||||||||||
Cofnodion: CYTUNWYD
i nodi’r apeliadau a ganlyn:-
|
|||||||||||||||||||||||||
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor Cofnodion: Dywedodd Swyddog Arweiniol
Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio y bydd gweithdy’n cael ei gynnal ar gyfer
yr Aelodau ddydd Gwener, 25 Mehefin 2021, am 2.30pm. Bydd y gweithdy’n gyfle i
ystyried materion fel llythyrau cyn galw ceisiadau i mewn, diweddariad ar
Bolisi Cynllunio Cymru, Cymru’r Dyfodol, ac unrhyw newidiadau polisi sy’n
tarddu o Lywodraeth Cymru. Bydd rhaglen waith ar gyfer cyfarfodydd y Pwyllgor
dros y misoedd nesaf hefyd yn cael ei thrafod. |