Lleoliad: rhithrol
Cyswllt: Mrs Dana Jones
Rhif | eitem | |
---|---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Roedd y Cynghorwyr Peter Davies a Catherine Hughes wedi ymddiheuro am nad oedd modd iddynt ddod i’r cyfarfod. |
||
Materion Personol Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Estynnwyd llongyfarchion
i’r Cynghorwyr Paul Hinge ac Ifan
Davies ar gael eu penodi’n Gadeirydd ac yn Is-gadeirydd y Cyngor
yn y Cyfarfod Blynyddol diweddar. |
||
Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd Ifan Davies ddatgan buddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu yng nghais A200449 |
||
Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2021 PDF 253 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion
y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2021 yn gywir, yn ddibynnol ar nodi bod y
Cyfreithiwr, Mrs Ffion Lloyd, yn bresennol yn y cyfarfod. |
||
Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor PDF 1 MB Cofnodion: Trafodwyd adroddiad Swyddog Arweiniol
Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ynghylch y ceisiadau cynllunio a ganlyn a
drafodwyd yn un o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor ac yr oedd angen iddo eu
hystyried ymhellach:- A200449 Codi dwy annedd ar gyfer y farchnad agored
gyda mynediad i gerbydau, Tir wrth ymyl Maes Wyre, Llanrhystud, Aberystwyth CYMERADWYO’R cais gyda chytundeb cyfreithiol Adran 106
a fydd yn sicrhau cyfraniad ariannol o 10% o werth y datblygiad ar y farchnad
agored i’w ddefnyddio tuag at ddarparu tai fforddiadwy yn y sir yn unol â
pholisi S05 o’r Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig. Nid oedd yr Aelodau’n cytuno ag argymhelliad y
swyddogion am y rhesymau a ganlyn:- ·
Roedd
yr Aelodau’n teimlo bod yr ymgeisydd wedi lliniaru’r problemau a godwyd yn yr
adroddiad o ran Parth Llifogydd C2 drwy ddarparu mapiau wedi’u diweddaru sy’n
rhoi sicrwydd na fydd unrhyw lifogydd yn y lleoliad hwn ac, o’r herwydd, dylid
caniatáu’r datblygiad. ·
Roedd
Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi cytuno dros dro ar Barth B. ·
Roedd
y lleoliad o fewn ffiniau’r pentref. ·
Nid oedd yr anheddau ar y safle ymgeisio
wedi’u lleoli ym Mharth Llifogydd C2 ond mewn ardal a ddynodwyd fel Parth
Llifogydd B, felly roedd yr Aelodau’n tybio ei bod yn ddiogel adeiladu yn y
lleoliad hwnnw. ·
Pan gafwyd achos hanesyddol o lifogydd yn y
pentref, dywedodd yr Aelod lleol nad oedd y llifogydd wedi effeithio ar yr
ardal hon. |
||
Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu PDF 1 MB Cofnodion: Trafodwyd adroddiad Swyddog Arweiniol Corfforaethol
– yr Economi ac Adfywio ynghylch ceisiadau datblygu, hysbysebu, statudol a’r
awdurdod lleol:- Darllenwyd sylwadau
ysgrifenedig Mr Iwan Thomas (Asiant) i’r Pwyllgor yn unol â’r atodiad dros dro
i’r weithdrefn weithredol sy’n caniatáu i’r cyhoedd annerch y Pwyllgor Rheoli
Datblygu yn sgil Covid-19. A200945 Dymchwel y bwthyn gwreiddiol a chodi annedd yn ei
le, Penrhiw Cottage, Ciliau Aeron CYMERADWYO’R
cais. Nid oedd yr Aelodau’n
cytuno ag argymhelliad y swyddogion ac roeddent yn tybio bod modd cymeradwyo’r cais am y rhesymau a
ganlyn:- ·
Roedd y cais hwn yn
gyfystyr â lles cynllunio oherwydd bydd yr annedd yn cael ei lleoli ymhellach
oddi wrth y ffordd ·
Roedd ôl troed o 140
metr sgwâr yn dderbyniol gan mai annedd ar gyfer y farchnad agored ydoedd ·
Ym marn yr Aelodau,
roedd y cais yn cydymffurfio â pholisïau LU09 a DM06 oherwydd bydd yr ymgeisydd
yn ailddefnyddio deunyddiau’r bwthyn gwreiddiol i adeiladu’r annedd newydd, a
bydd yr annedd, felly, yn annedd gyfnewid ·
Roedd yn edrych i raddau
helaeth fel annedd oherwydd bod ffenestr ac waliau ar y walblat;
roedd hyn yn wahanol i farn y swyddogion.
_____________________________________________________________ A200958 Cynnig i godi annedd ac ardal barcio, 3 Pen y
Cei, Ffordd Felin-y-môr, Trefechan CYMERADWYO’R cais yn ddibynnol ar amodau a chytundeb cyfreithiol
Adran 106 a fydd yn sicrhau swm gohiriedig o 10% i’w ddefnyddio tuag at
ddarparu tai fforddiadwy yn y sir, yn unol â darpariaeth polisi S05 o’r Cynllun
Datblygu Lleol. _______________________________________________________________________ Darllenwyd sylwadau ysgrifenedig Mr Gareth Richards (Ymgeisydd) i’r
Pwyllgor yn unol â’r atodiad dros dro i’r weithdrefn weithredol sy’n caniatáu
i’r cyhoedd annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn sgil Covid-19. A200694 Newid defnydd uned wyliau rhif 5 yn llety
rheolwr, Penuwch Fawr, Capel Seion, Aberystwyth CYMERADWYO’R cais yn ddibynnol ar gytundeb
Adran 106 i glymu’r llety rheolwr at y busnes. Nid oedd yr Aelodau’n cytuno ag argymhelliad y
swyddogion am y rhesymau a ganlyn:- ·
Ar ôl i’r pwyllgor drafod y cais, roedd hi’n amlwg nad oes modd i’r
perchennog barhau â’r gwaith sy’n deillio o’r busnes ar hyn o bryd a bod angen
rheolwr ar y safle 24 awr y dydd. ·
Bydd y penderfyniad hwn yn ysgafnhau baich y busnes ar y perchennog sy’n
wynebu problemau iechyd. ·
Mae’r busnes eisoes yn llwyddiannus a bydd rheolwr yn cadw’r busnes i
fynd yn yr economi wledig. ·
Nid oedd y cais hwn ond yn darparu llety i reolwr a fydd ynghlwm wrth y
busnes. ·
O gymeradwyo’r cais, bydd yn cynllunio ar gyfer olyniaeth drwy ganiatáu
i’r perchennog barhau â’i fusnes yn hytrach na’i gau. Bydd hefyd yn gyfle i
eraill ddysgu gan y busnes at y dyfodol. ·
Mae cymeradwyo’r cais yn gydnaws â pholisïau Cyngor Sir Ceredigion. _____________________________________________________________________ Darllenwyd sylwadau ysgrifenedig Mr Cynan Jones, Ms Charmian
Holloway a Ms Margaret Jones (Gwrthwynebwyr) a Mr
Paul Nichollas (Asiant) a Mr Irvine
i’r Pwyllgor yn unol â’r atodiad dros dro i’r weithdrefn weithredol sy’n
caniatáu i’r cyhoedd annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn sgil Covid-19. A200773 Annedd (Fforddiadwy) Anghenion Lleol Arfaethedig, Llwydlo ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
||
Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig PDF 1 MB Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi’r rhestr o geisiadau cynllunio y bu i Swyddog Arweiniol
Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ymdrin â nhw. Rhoddwyd diweddariad ynghylch y ceisiadau cynllunio yr aethpwyd i’r afael â nhw gan ddefnyddio’r awdurdod dirprwyedig. Nodwyd bod Covid-19 a’r sefyllfa o ran ffosffadau wedi effeithio’n sylweddol ar y gyfradd benderfynu. |
||
Cofnodion: Dim. |
||
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor Cofnodion: ·
Nododd y Cynghorydd Lyndon Lloyd MBE fod gofyn i Gyngor Sir Ceredigion ddarparu
prisiad newydd o’r eiddo pan fydd eiddo a ddynodwyd yn ‘gartref fforddiadwy’ yn
cael ei werthu. Fodd bynnag, cyfeiriodd at achos penodol yn ei ward lle nad
oedd yr asiant gwerthu tai na’r gwerthwr yn cytuno â’r prisiad a ddarparwyd, yn
enwedig o ganlyniad i’r cynnydd diweddar ym mhrisiau tai. Dywedwyd y byddai’r swyddogion yn ymchwilio
i’r mater ac yn ymateb. ·
Dywedwyd y bydd
gweithdai’n cael eu cynnal i roi gwybodaeth i’r Aelodau am faterion amrywiol,
gan gynnwys newidiadau i Bolisi Cynllunio Cymru, diweddariadau am geisiadau a
alwyd i mewn, ffosffadau, a thai fforddiadwy. |