Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Dwynwen Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Dim. |
|
Adroddiad Perfformiad Diwygio Lles PDF 235 KB Cofnodion: Derbyniwyd
diweddariad Diwygio Lles, gan y Rheolwr Corfforaethol – Refeniw, Budd-daliadau,
ac Asesiadau Ariannol ar y canlynol:-
Yn dilyn
cwestiynau gan yr Aelodau, CYTUNWYD i nodi cynnwys yr adroddiad. Gofynnwyd yn
ogystal am fanylion nifer yr achosion gan Awdurdodau Lleol eraill er mwyn
cymharu’r llwyth gwaith yng Ngheredigion. |
|
Cynllun Grant Cymunedol Ceredigion PDF 779 KB Cofnodion: Ystyriwyd yr adroddiad Cynllun Grant Cymunedol Ceredigion. Dywedodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol –
Cyllid a Chaffael fod Cynllun Grant Cymunedol Ceredigion ar hyn o bryd yn
caniatâi ceisiadau am gyllid gan Grwpiau Cymunedol Cynghorau Cymuned neu
Cymdeithasau Chwaraeon a Chwarae Gwirfoddol dilys i ymgeisio am gyllid wrth y
Cyngor ar gyfer prosiectau sydd â bwriad i gynyddu amrywiaeth y cyfleusterau,
gweithgareddau a chyfleoedd o fewn Ceredigion. Yn ystod proses Pennu’r Gyllideb 2024/25, cytunwyd y
byddai cyllideb Cynllun Grant Cymunedol Ceredigion yn cael ei leihau. Bydd
cyllideb Grantiau Cyfalaf n cael ei leihau i £100k. Mae cyfraniad y Cyngor i
Grantiau Refeniw o £26k yn cael ei ddileu, sydd felly’n lleihau’r cyllid sydd
ar gael i £30k y flwyddyn sy’n cael ei ariannu’n gyfan gwbl o gyfran Ceredigion
o Gronfa’r Degwm (WCF). Mae’n hanfodol bod y cyllid cyfyngedig sydd ar gael
bellach yn cael ei ddefnyddio i’r perwyl mwyaf effeithlon. Mae hyn yn cynnwys
ystyried hyd a lled Ceredigion o ba agweddau sy’n bwysig i’w cefnogi. Yn rhan o'r Gyllideb
Grantiau Refeniw, mae grantiau 'Polisi' sy'n cael eu dyfarnu i Bapurau Bro,
Eisteddfodau, Sioeau Amaethyddol, Gwyliau ac unigolion sy'n cynrychioli Cymru
neu Brydain Fawr. Mae'r adroddiad hwn yn
amlinellu newidiadau arfaethedig i alluogi gwariant y Cynllun i gadw o fewn y gyllideb.
Mae canllawiau'r cynllun wedi'u diweddaru ynghlwm fel Atodiad 2. Yn dilyn trafodaeth a
chwestiynau gan yr Aelodau, CYTUNWYD i argymell i’r Cabinet:- (i) i GYNNWYS Cynghorau Tref a Chymuned yn y Cynllun a ddiweddarwyd (ii) i ariannu ceisiadau gan Addoldai o Gronfa
Eglwys Cymru yn unig (iii) i leihau’r lefel uchaf o ddyfarniadau
cyfalaf i £10,000 (iv) i ddiwygio'r ystod o gymorth
grantiau Polisi yn unol â Thabl 3. (v) i beidio â chynnig unrhyw grantiau refeniw eraill
mwyach. (vi) i symleiddio ffenestr a
phroses ymgeisio grant. |
|
Trosolwg o'r materion ariannol yn ystod y flwyddyn PDF 203 KB Cofnodion: Dywedodd y Swyddog
Arweiniol Corfforaethol – Cyllid a Chaffael y bu’r broses o bennu Cyllideb
24/25 yn un heriol ac roedd yn cynnwys cymeradwyo tua 70 o gynigion i gwtogi’r
Gyllideb a oedd yn dod i gyfanswm o tua £5.8m. Mae'r cynnydd wrth gyflawni'r
Cwtogiadau Cyllidebol hyn yn cael ei adolygu a'i fonitro gan y Grŵp
Arweiniol ar ddiwedd pob mis. Dywedodd taw’r
bwriad yn ystod y flwyddyn, yw darparu'r wybodaeth ganlynol i bob Pwyllgor
Trosolwg a Chraffu yn unigol: • Y sefyllfa
ariannol chwarterol ddiweddaraf fel yr adroddwyd i'r Cabinet, gan ddechrau gyda
Chwarter 1 maes o law. Bydd hyn yn cynnwys yr adroddiadau Monitro Refeniw a
Chyfalaf. • Y sefyllfa
ddiweddaraf o ran statws BRAG Cwtogiadau Cyllidebol 24/25 fel yr adroddir yn
atodiad 1. Roedd y wybodaeth
y gyflwynwyd yn galluogi’r Pwyllgor i graffu ar y materion ariannol sy'n
berthnasol i'r meysydd Gwasanaeth sy'n dod o fewn ei gylch gwaith. Ar unrhyw
adeg yn ystod y flwyddyn gall y Pwyllgor ddewis bwrw golwg fanylach ar unrhyw
ran o'r Gyllideb sydd o fewn ei gylch gwaith a hynny drwy'r Flaenraglen
Waith. Yn dilyn
trafodaeth a chwestiynau gan yr Aelodau, CYTUNWYD i nodi’r adroddiad a
gyflwynwyd. |
|
Adroddiad Blynyddol Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi 2023-2024 PDF 531 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet dros Bartneriaethau, Tai, y Cyfreithiol
a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd Adroddiad Blynyddol Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi
2023-24, ‘Siarad, Gwrando a Gweithio gyda’n Gilydd’ a gafodd ei gymeradwyo fel
polisi gan y Cabinet ar 04/10/2022 a’i gyhoeddi ar 18/10/2022. Cafodd yr
Adroddiad Blynyddol ei gyflwyno er mwyn sicrhau craffu briodol gan y Pwyllgor. Hwn yw’r ail Adroddiad
Blynyddol sy’n amlinellu cynnydd wrth gyflawni’r Polisi. Yn dilyn
trafodaeth a chwestiynau gan yr Aelodau, CYTUNWYD i argymell fod y Cabinet yn
CYMERADWYO’R Adroddiad Blynyddol Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi 2023-24. |
|
Cofnodion: CYTUNWYD i nodi’r Flaenraglen Waith fel y’i cyflwynwyd yn amodol ar adroddiad a
ddiweddarwyd ynghylch sefyllfa asedau’r Cyngor sydd wediu
gosod ar y farchnad, wedi’u gwerthu ayb. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD
cadarnhau fel cofnod cywir gofnodion cyfarfod y cyfarfod blaenorol. |