Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Dwynwen Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorydd Paul Hinge na fedrai
ddod i’r cyfarfod am ei fod yn cyflawni dyletswyddau eraill ar ran y Cyngor. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Dim. |
|
Adroddiad ynghylch Adroddiad Ystadegol Uwch Grwner Ceredigion PDF 172 KB Cofnodion: Ystyriwyd Adroddiad ynghylch Adroddiad
Ystadegol Uwch Grwner Ceredigion ar gyfer 2023 ac Adroddiad y Prif Grwner. Dywedwyd nad oedd Adroddiad
Ystadegol Ceredigion ar gyfer 2023 wedi’i gyhoeddi eto ond bod disgwyl yr
adroddiad cyn diwedd mis Mehefin 2024. Byddai’r adroddiad hwn yn cael ei
gyflwyno gerbron cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 8 Hydref 2024. Ychwanegwyd bod
Adroddiad Blynyddol y Prif Grwner ar gyfer 2023 bellach wedi’i gyhoeddi a bod
modd gweld yr adroddiad ar ei wefan. Roedd yr adroddiad yn amlinellu
canfyddiadau’r Prif Grwner ar gyfer
2023. Roedd y rhain fel a ganlyn:-
Roedd y camau gweithredu
fel a ganlyn:-
Wrth grynhoi, soniwyd am
y canlynol:-
Dywedwyd hefyd fod Prif
Grwner newydd wedi’i phenodi ar 25 Mai 2024, sef Ei Hanrhydedd y Barnwr Alexia Durran a hynny am gyfnod o
dair blynedd. Roedd ystadegau
cenedlaethol y Crwneriaid ar gyfer 2023 wedi’u cyhoeddi. Roedd yr adroddiad yn dangos bod 36,855 o gwestau wedi’u hagor ledled y Deyrnas Unedig yn 2023 a oedd yn gynnydd o 2% ers 2022. Dyma oedd y nifer uchaf ers dechrau’r cyfnodau blynyddol yn 1995, ac eithrio'r blynyddoedd pan oedd angen ymchwiliadau Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS). Roedd y marwolaethau yr adroddwyd yn eu cylch a arweiniodd at gwestau yn cyfateb i 19% o'r holl farwolaethau a ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Cofnodion: Roedd y Gwasanaeth Pobl a Threfniadaeth
wedi parhau â’r gwaith o adolygu, datblygu a diweddaru polisïau allweddol. Yn
dilyn ymgynghoriad, cafodd y polisïau a’r canllawiau canlynol eu trafod a’u
diwygio a bu i’r undebau llafur corfforaethol cydnabyddedig gytuno iddynt:
Diben pob polisi a
gweithdrefn ar gyfer y gweithwyr oedd amlinellu'n glir yr ymddygiad sy'n
ofynnol ohonynt ynghyd â'r prosesau a'r gweithdrefnau oedd angen iddynt eu
dilyn. Roedd y dogfennau hyn yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â'r cymorth a'r
cyngor oedd ar gael ac roedd yn sôn am y canlyniadau o beidio â glynu wrth y
polisi a/neu weithdrefn. Polisi Recriwtio Diogel Roedd y Polisi Recriwtio
Diogel yn nodi’r safonau yr oedd Cyngor Sir Ceredigion wedi’u gosod ynghylch
recriwtio a chadw pobl sy’n dymuno gweithio gyda grwpiau agored i niwed (plant
a/neu oedolion) mewn ffordd ddiogel. Roedd y Polisi cyfredol, a oedd wedi’i
gyflwyno yn 2017, wedi’i adolygu i sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio â’r
ddeddfwriaeth a’i fod yn addas i’r diben. Dim ond mân newidiadau oedd wedi’u
cynnig, ac roedd y rhain yn cael eu nodi isod. Roedd y newidiadau yn cael eu
cyflwyno er mwyn sicrhau proses fetio gadarn a thrylwyr ar gyfer yr holl staff,
gwirfoddolwyr a chontractwyr sy’n gweithio i Gyngor Sir Ceredigion neu sy’n
gweithio gyda Chyngor Sir Ceredigion. Nid oedd unrhyw
newidiadau i’r arfer presennol o gynnal gwiriadau DBS ar ôl i weithwyr gael eu
penodi i rolau sy’n cyflawni gweithgarwch a reoleiddir. Dim ond o dan rai
amgylchiadau y byddai angen ymgymryd â’r gwaith o ailwirio bob hyn a hyn h.y.
pan fyddai’r ddeddfwriaeth yn mynnu bod angen gwneud hynny neu pan fyddai
pryder, cwyn neu wybodaeth yn dod i law ynghylch euogfarn neu rybudd a roddwyd
i weithiwr mewn rôl sy’n cyflawni gweithgarwch a reoleiddir. Roedd y newidiadau
arfaethedig i’r Polisi fel a ganlyn:
Yn ogystal ag ymgynghori
â’r undebau llafur, roedd Bwrdd Diogelu Corfforaethol y Cyngor wedi adolygu’r
polisi. Cynllun Prynu Gwyliau
Blynyddol Trefniadau gwirfoddol
oedd Cynlluniau Prynu Gwyliau Blynyddol a oedd yn cynnig mwy o hyblygrwydd i
weithwyr dros eu hawl i gael gwyliau trwy ganiatáu iddynt brynu gwyliau
ychwanegol o dan drefniant ad-dalu cyflog. Roedd y cynlluniau hyn i’w gweld yn
eang ar draws sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Byddai’r cynllun yn cynnig arbedion i’r Cyngor am na fyddai dim costau cyflog ar gyfer cyfnod y gwyliau blynyddol ychwanegol ac y byddai gostyngiad yng nghyfraniadau Yswiriant Gwladol y Cyflogwr. Un o’r buddion ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Ystyried y Blaenraglen Waith PDF 99 KB Cofnodion: CYTUNWYD i nodi’r Flaenraglen Waith fel y’i cyflwynwyd yn amodol ar gyflwyno
adroddiad am werthu asedau’r Cyngor yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis
Hydref 2024. |
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau bod Cofnodion y cyfarfod blaenorol yn gywir yn
amodol ar nodi bod y Cynghorydd Carl Worrall yn bresennol yn y cyfarfod. |