Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol - Dydd Iau, 16eg Mai, 2024 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Dwynwen Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Dim.

3.

Adroddiad Perfformiad Diwygio Lles pdf eicon PDF 235 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd diweddariad Diwygio Lles, gan y Rheolwr Corfforaethol – Refeniw, Budd-daliadau, ac Asesiadau Ariannol ar y canlynol:-

 

  • Cefndir
  • Staffio presennol a sefyllfa o ran nifer yr achosion
  • Credyd Cynhwysol (CC)
  • Cymhorthdal Ystafell Sbâr (Treth ystafell wely)
  • Y Cap Budd-daliadau
  • Cynllun gostyngiad Treth y Cyngor (CGTC)
  • Taliadau Tai Dewisol (TTD)
  • Y Dyfodol
  • Ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru

 

Yn dilyn cwestiynau gan yr Aelodau, CYTUNWYD i nodi cynnwys yr adroddiad.

 

Gofynnwyd yn ogystal am fanylion nifer yr achosion gan Awdurdodau Lleol eraill er mwyn cymharu’r llwyth gwaith yng Ngheredigion.

 

 

4.

Cynllun Grant Cymunedol Ceredigion pdf eicon PDF 779 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd yr adroddiad Cynllun Grant Cymunedol Ceredigion.  Dywedodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Cyllid a Chaffael fod Cynllun Grant Cymunedol Ceredigion ar hyn o bryd yn caniatâi ceisiadau am gyllid gan Grwpiau Cymunedol Cynghorau Cymuned neu Cymdeithasau Chwaraeon a Chwarae Gwirfoddol dilys i ymgeisio am gyllid wrth y Cyngor ar gyfer prosiectau sydd â bwriad i gynyddu amrywiaeth y cyfleusterau, gweithgareddau a chyfleoedd o fewn Ceredigion.

 

Yn ystod proses Pennu’r Gyllideb 2024/25, cytunwyd y byddai cyllideb Cynllun Grant Cymunedol Ceredigion yn cael ei leihau. Bydd cyllideb Grantiau Cyfalaf n cael ei leihau i £100k. Mae cyfraniad y Cyngor i Grantiau Refeniw o £26k yn cael ei ddileu, sydd felly’n lleihau’r cyllid sydd ar gael i £30k y flwyddyn sy’n cael ei ariannu’n gyfan gwbl o gyfran Ceredigion o Gronfa’r Degwm (WCF). Mae’n hanfodol bod y cyllid cyfyngedig sydd ar gael bellach yn cael ei ddefnyddio i’r perwyl mwyaf effeithlon. Mae hyn yn cynnwys ystyried hyd a lled Ceredigion o ba agweddau sy’n bwysig i’w cefnogi.

 

Yn rhan o'r Gyllideb Grantiau Refeniw, mae grantiau 'Polisi' sy'n cael eu dyfarnu i Bapurau Bro, Eisteddfodau, Sioeau Amaethyddol, Gwyliau ac unigolion sy'n cynrychioli Cymru neu Brydain Fawr.

 

Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu newidiadau arfaethedig i alluogi gwariant y Cynllun i gadw o fewn y gyllideb. Mae canllawiau'r cynllun wedi'u diweddaru ynghlwm fel Atodiad 2.

 

Yn dilyn trafodaeth a chwestiynau gan yr Aelodau, CYTUNWYD i argymell i’r Cabinet:-

 

(i) i GYNNWYS Cynghorau Tref a Chymuned yn y Cynllun a ddiweddarwyd

(ii) i ariannu ceisiadau gan Addoldai o Gronfa Eglwys Cymru yn unig

(iii) i leihau’r lefel uchaf o ddyfarniadau cyfalaf i £10,000

(iv) i ddiwygio'r ystod o gymorth grantiau Polisi yn unol â Thabl 3.

(v) i beidio â chynnig unrhyw grantiau refeniw eraill mwyach.

(vi) i symleiddio ffenestr a phroses ymgeisio grant.

 

5.

Trosolwg o'r materion ariannol yn ystod y flwyddyn pdf eicon PDF 203 KB

Cofnodion:

Dywedodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Cyllid a Chaffael y bu’r broses o bennu Cyllideb 24/25 yn un heriol ac roedd yn cynnwys cymeradwyo tua 70 o gynigion i gwtogi’r Gyllideb a oedd yn dod i gyfanswm o tua £5.8m. Mae'r cynnydd wrth gyflawni'r Cwtogiadau Cyllidebol hyn yn cael ei adolygu a'i fonitro gan y Grŵp Arweiniol ar ddiwedd pob mis.

 

Dywedodd taw’r bwriad yn ystod y flwyddyn, yw darparu'r wybodaeth ganlynol i bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn unigol:

• Y sefyllfa ariannol chwarterol ddiweddaraf fel yr adroddwyd i'r Cabinet, gan ddechrau gyda Chwarter 1 maes o law. Bydd hyn yn cynnwys yr adroddiadau Monitro Refeniw a Chyfalaf.

• Y sefyllfa ddiweddaraf o ran statws BRAG Cwtogiadau Cyllidebol 24/25 fel yr adroddir yn atodiad 1.

 

Roedd y wybodaeth y gyflwynwyd yn galluogi’r Pwyllgor i graffu ar y materion ariannol sy'n berthnasol i'r meysydd Gwasanaeth sy'n dod o fewn ei gylch gwaith. Ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn gall y Pwyllgor ddewis bwrw golwg fanylach ar unrhyw ran o'r Gyllideb sydd o fewn ei gylch gwaith a hynny drwy'r Flaenraglen Waith.

 

Yn dilyn trafodaeth a chwestiynau gan yr Aelodau, CYTUNWYD i nodi’r adroddiad a gyflwynwyd.

 

6.

Adroddiad Blynyddol Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi 2023-2024 pdf eicon PDF 531 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet dros Bartneriaethau, Tai, y Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd Adroddiad Blynyddol Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi 2023-24, ‘Siarad, Gwrando a Gweithio gyda’n Gilydd’ a gafodd ei gymeradwyo fel polisi gan y Cabinet ar 04/10/2022 a’i gyhoeddi ar 18/10/2022. Cafodd yr Adroddiad Blynyddol ei gyflwyno er mwyn sicrhau craffu briodol gan y Pwyllgor.

 

Hwn yw’r ail Adroddiad Blynyddol sy’n amlinellu cynnydd wrth gyflawni’r Polisi.

 

Yn dilyn trafodaeth a chwestiynau gan yr Aelodau, CYTUNWYD i argymell fod y Cabinet yn CYMERADWYO’R Adroddiad Blynyddol Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi 2023-24.

 

7.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 143 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi’r Flaenraglen Waith fel y’i cyflwynwyd yn amodol ar adroddiad a ddiweddarwyd ynghylch sefyllfa asedau’r Cyngor sydd wediu gosod ar y farchnad, wedi’u gwerthu ayb.

 

 

8.

Cadarnhau cofnodion 12.03.2024 a'r 21.03.2024 ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion. pdf eicon PDF 110 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau fel cofnod cywir gofnodion cyfarfod y cyfarfod blaenorol.