Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol - Dydd Iau, 17eg Mawrth, 2022 10.00 am

Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorwyr John Adams- Lewis, Bryan Davies, Ceredig Davies, Gareth Davies, Endaf Edwards ac Elizabeth Evans am na fedrent ddod i’r cyfarfod.

 

Oherwydd trafferthion technegol, nid oedd y Cynghorydd Ifan Davies na’r Cynghorydd Keith Evans yn medru bod yn bresennol yn y cyfarfod.

 

 

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Dim.

3.

Adroddiad ynghylch y Polisi Cyfyngiadau Gwleidyddol ar Weithwyr Llywodraeth Leol pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Ystyriwyd yr Adroddiad ynghylch y Polisi a’r Gofrestr o ran Cyfyngiadau Gwleidyddol ar Weithwyr Llywodraeth Leol. Dywedwyd bod Adran 2, Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (“Deddf 1989”) wedi sefydlu’r cysyniad o gyfyngu gweithgarwch gwleidyddol ar gyfer rhai swyddi dynodedig er mwyn sicrhau bod gweithwyr llywodraeth leol yn wleidyddol ddiduedd.

 

Yn unol â Deddf 1989, roedd yn ofynnol i’r Cyngor greu a chadw rhestr o’r swyddi hynny sydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol. Gan ddod i rym ar 12 Ionawr 2010, newidiodd Adran 30, Deddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009 y dull o nodi swyddi sydd â chyfyngiadau gwleidyddol o dan Adran 2 Deddf 1989, a diddymodd y drefn o osod cyfyngiadau gwleidyddol ar staff yn sgil eu lefelau cyflog.  

 

O ganlyniad, penderfynwyd bod angen adolygu’r Polisi Cyfyngiadau Gwleidyddol ar Weithwyr Llywodraeth Leol (a ddiweddarwyd diwethaf ym mis Ionawr 2020) (‘y Polisi’) oherwydd Brexit a newidiadau diweddar e.e. newidiadau i deitlau’r Swyddogion Arweiniol Corfforaethol.

 

Adroddwyd bod y newidiadau i’r Polisi yn cynnwys y canlynol:

 

  • Datblygu’r esboniad o’r Swyddi Penodedig a’r Swyddi Sensitif (o dan y darn

‘Pwy sy’n cael eu heffeithio?’);

 

  • Diweddaru’r cyfeiriadau at deitlau’r Prif Weithredwr a’r Swyddogion Arweiniol

Corfforaethol;

 

  • Cynnwys Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a’r Swyddog Monitro /

Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu yn y rhestr o Swyddogion Statudol a dileu ‘(dan Ddeddf 1989)’ o 1b):

 

       1. Swyddi Penodedig

 

b) y Prif Swyddogion Statudol (dan Ddeddf 1989)

 

  • Yn 2. Swyddi ‘Sensitif’ ychwanegwyd bod y swyddi hyn hefyd yn rhai sydd o

dan gyfyngiadau gwleidyddol.

 

Yn dilyn cwestiwn o’r llawr, CYTUNWYD i nodi a chymeradwyo’r newidiadau i’r Polisi Cyfyngiadau Gwleidyddol ar Weithwyr Llywodraeth Leol.

 

Byddai angen cael cadarnhad oddi wrth y Dirprwy Swyddog Canlyniadau a allai athro/athrawes sefyll fel ymgeisydd yn yr etholiadau a oedd ar fin cael eu cynnal, a phe byddent yn llwyddiannus, a fyddai angen iddynt wedyn roi’r gorau i’w gwaith fel athro/athrawes.

 

4.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion. pdf eicon PDF 285 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD i gadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 07 Chwefror a 18 Chwefror 2022

 

Materion yn codi

Dim.

 

Dywedodd y Cadeirydd mai hwn fyddai ei gyfarfod olaf fel Cadeirydd a dymunodd y gorau i bawb at y dyfodol. Diolchodd pawb i’r Cadeirydd ac i’r holl Gynghorwyr na fyddai’n sefyll yn yr etholiadau ym mis Mai.

 

Rhoddwyd llongyfarchiadau i’r Cynghorydd Rowland Rees-Evans am gael ei benodi’n Uchel Siryf Dyfed. Oherwydd hyn, ni fyddai’n sefyll fel Cynghorydd yn yr etholiad. Dymunodd pawb yn dda iddo.

 

Diolchodd y Cynghorydd Lyndon Lloyd MBE i’r holl Gynghorwyr a thîm y Gwasanaethau Democrataidd am eu cefnogaeth yn ystod ei gyfnod fel Cynghorydd.