Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y
Cynghorydd Elizabeth Evans a’r Cynghorydd Dan Potter am na fedrent ddod i’r
cyfarfod. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Datgelodd y Cynghorydd Bryan Davies fuddiant personol a buddiant a oedd yn rhagfarnu o ran eitem 3, Fflyd y Cyngor a Gyrru yn y Gwaith – Defnyddio Cerbydau Preifat |
|
Polisiau Gyrru yn y Gwaith - Fflyd y Cyngor a Defnyddio Cerbydau Preifat (Fflyd Llwyd) Cofnodion: Ystyriwyd y ddau
bolisi newydd yr oedd y Gwasanaeth Pobl a Threfniadaeth wedi’u datblygu ar y
cyd â’r Priffyrdd a’r Gwasanaethau Amgylcheddol. Yn dilyn ystyriaeth gychwynnol
gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar 27 Hydref 2021,
ailddrafftiwyd y ddau bolisi hyn i gynnwys nifer o’r newidiadau a awgrymwyd.
Ymgynghorwyd gyda’r Undebau Llafur perthnasol am y polisïau hyn a chafodd eu
newidiadau nhw eu cynnwys lle bo hynny’n briodol. Diben yr holl
bolisïau a gweithdrefnau staff oedd nodi’n glir yr ymddygiad, y prosesau a’r
gweithdrefnau y mae’n ofynnol i’r staff gadw atynt. Hefyd, roedd y dogfennau
hyn yn nodi sut y gall y staff gael cyngor neu gymorth ynghyd â’r canlyniadau o
beidio cydymffurfio â’r polisi a/neu’r weithdrefn. Polisi Gyrru
yn y Gwaith – Fflyd y Cyngor Cynhaliwyd
adolygiad Rheoli Risg Fflyd a Gyrwyr gan ymgynghorydd ar ran Zurich, cwmni yswiriant y Cyngor. Y prif ddiben oedd
adolygu polisïau a threfniadau’r Cyngor gan ystyried safonau arfer gorau a
darparu argymhellion a fyddai’n cynorthwyo wrth sicrhau cydymffurfiaeth,
diogelu ein gweithlu rhag niwed a lleihau risg digwyddiadau. Un o brif
argymhellion yr Adolygiad oedd cyflwyno Polisi Gyrru yn y Gwaith gyda Chytundeb
Gyrrwr yn rhan ohono, sy’n cynnig “disgwyliad diamwys clir ynghylch safonau
gyrru”. Roedd y Polisi Gyrru yn y Gwaith – Fflyd y Cyngor yn un o gyfres o
gynlluniau sy’n ceisio safoni’r prosesau cofnodi a chydymffurfiaeth ar draws y
fflyd cerbydau a sicrhau safonau gyrru sy’n gwella diogelwch y gyrwyr a’r
teithwyr, gan leihau nifer y digwyddiadau a’r damweiniau sy’n
gysylltiedig â’r fflyd. Roedd y cynlluniau eraill yn cynnwys cyflwyno modiwl
e-ddysgu ar gyfer rhoi hyfforddiant i yrwyr a systemau archwilio cadarn ar
gyfer cerbydau a thrwyddedau. Cyflwynwyd y
canlynol fel rhan o’r Polisi Gyrru yn y Gwaith – Fflyd y Cyngor:-
Polisi Gyrru
yn y Gwaith – Defnyddio Cerbyd Preifat (Fflyd Llwyd) Roedd y Polisi
Gyrru yn y Gwaith – Defnyddio Cerbyd Preifat (Fflyd Llwyd) yn nodi’r
disgwyliadau ar y gweithwyr hynny sy’n defnyddio eu cerbyd preifat at ddibenion
busnes y Cyngor. Byddai modiwl e-ddysgu hefyd yn cael ei ddatblygu i gyd-fynd
â’r polisi. Cyflwynwyd y
canlynol fel rhan o’r Polisi Gyrru yn y Gwaith – Defnyddio Cerbyd Preifat
(Fflyd Llwyd):
|
|
Adroddiad Absenoldeb Oherwydd Salwch Cofnodion: Rhoddwyd diweddariad am absenoldeb oherwydd salwch yn
dilyn cais gan y Pwyllgor yn y cyfarfod diwethaf. Dywedwyd bod y polisi yn
amlinellu’r gweithdrefnau ar gyfer rheoli absenoldeb oherwydd salwch o fewn y
Cyngor. O ran y gweithlu corfforaethol, roedd Polisi a Gweithdrefn Rheoli
Absenoldeb Oherwydd Salwch yn y Gwaith wedi bod yn weithredol ers hydref 2017. Roedd y prosesau a nodwyd yn y ddogfen wedi'u
gweithredu'n llawn ac roeddent bellach wedi'u hen sefydlu. O ran gweithlu’r ysgolion, cymeradwyodd y Cabinet Bolisi a Gweithdrefn Enghreifftiol
Rheoli Absenoldeb Oherwydd Salwch yn y Gwaith diwygiedig ym mis Rhagfyr 2021 ac
roedd y ddogfen hon yn cael ei chynnig i Gyrff Llywodraethol y tymor hwn i'w
mabwysiadu. Roedd y gweithdrefnau fwy neu lai’r un fath ar gyfer y
ddau bolisi. Dywedwyd bod y gwaith o
fonitro absenoldeb oherwydd salwch wedi’i rannu’n ddwy: a) Absenoldeb tymor byr
oherwydd salwch – cyfnod byr o absenoldeb, yn aml dim ond ychydig ddyddiau o
ganlyniad i fân anhwylderau b) Absenoldeb hirdymor oherwydd salwch – absenoldeb parhaus
o fwy na 28 diwrnod Rhoddwyd rhagor o
fanylion am y polisi gan gynnwys gwybodaeth am fonitro absenoldeb tymor byr,
monitro absenoldeb hirdymor oherwydd salwch, Care First, y Siarter Afiechyd
Marwol, Absenoldebau oherwydd Covid-19, a rôl
Swyddog Iechyd a Lles y Gweithwyr. Rhoddwyd cyflwyniad
hefyd am absenoldeb oherwydd salwch a darparwyd y wybodaeth ganlynol:-
Yn dilyn cwestiynau o’r
llawr, CYTUNWYD i dderbyn yr adroddiad er gwybodaeth. |
|
Cofnodion: Ystyriwyd yr
adroddiad ynghylch Cysylltedd Digidol. Cyflwynwyd yr adroddiad i roi trosolwg
i’r Aelodau o’r cynlluniau a’r prosiectau yr oedd Cyngor Sir Ceredigion yn
ymgymryd â nhw i gefnogi lefelau o gysylltedd digidol ar draws y Sir. Darparwyd y
wybodaeth ganlynol ar ffurf cyflwyniad pwyntbwer:- ·
Cefndir ·
Sefyllfa
bresennol – Band eang, ffonau symudol ·
Prosiectau
/ Cynlluniau cyfredol – Band eang, Prosiectau Ffeibr,
Prosiect Gigabit, Adolygiad o’r Farchnad Agored 2021,
Ffonau Symudol, Rhwydwaith Gwledig a Rennir , Gwasanaeth Ardal Estynedig, Rhwydwaith
LoRaWAN ar draws y Sir, Trefi SMART Ceredigion, Gwefan
Ddigidol, Mapio Cysylltedd Digidol ·
Casgliad Yn dilyn cwestiynau
o’r llawr, CYTUNWYD i nodi’r adroddiad diweddaru ynghylch yr agenda cysylltedd
digidol yng Ngheredigion a gwaith y Cyngor o ran helpu i wella cysylltedd a
chynorthwyo’r Aelodau i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo cyfleoedd o fewn eu
cymunedau. |
|
Blaenraglen Waith 2021.2022 Cofnodion: Cytunwyd ar
y Flaenraglen Waith fel y’i cyflwynwyd
yn amodol ar y canlynol:- • Cyflwyno adroddiad am Ffermydd y Sir ynghyd ag argymhellion ynghylch y ffordd ymlaen yng
nghyfarfod y Pwyllgor ar 17 Mawrth 2022 • Gwahodd y Swyddog Digidol newydd i un o gyfarfodydd y dyfodol • Cyflwyno adroddiad ynglŷn â grantiau Trefi Smart a chyllid arall sydd ar
gael i adfywio trefi yn un o gyfarfodydd
y dyfodol ar ôl yr etholiadau. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: CYTUNWYD i gadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd
ar 14 Hydref 2021 a 27 Hydref 2021 yn amodol ar nodi bod y Cynghorydd Endaf
Edwards wedi ymddiheuro na fedrai fod yn bresennol yn y cyfarfod a gynhaliwyd
ar 27 Hydref 2021. Materion
yn codi Gofynnodd y Cynghorydd Lyndon Lloyd MBE a fyddai
modd cynnwys rhif ffôn CLIC ar ddogfennau ymgynghori a dogfennau cyhoeddus gan
nad oedd pawb yn medru ymateb i ymgynghoriadau ar-lein. Byddai’r cais hwn yn
cael ei anfon ymlaen at y swyddogion perthnasol. |