Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol - Dydd Iau, 13eg Ionawr, 2022 10.00 am

Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorydd Elizabeth Evans a’r Cynghorydd Dan Potter am na fedrent ddod i’r cyfarfod.

 

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Datgelodd y Cynghorydd Bryan Davies fuddiant personol a buddiant a oedd yn rhagfarnu o ran eitem 3, Fflyd y Cyngor a Gyrru yn y Gwaith – Defnyddio Cerbydau Preifat

3.

Polisiau Gyrru yn y Gwaith - Fflyd y Cyngor a Defnyddio Cerbydau Preifat (Fflyd Llwyd) pdf eicon PDF 692 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd y ddau bolisi newydd yr oedd y Gwasanaeth Pobl a Threfniadaeth wedi’u datblygu ar y cyd â’r Priffyrdd a’r Gwasanaethau Amgylcheddol. Yn dilyn ystyriaeth gychwynnol gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar 27 Hydref 2021, ailddrafftiwyd y ddau bolisi hyn i gynnwys nifer o’r newidiadau a awgrymwyd. Ymgynghorwyd gyda’r Undebau Llafur perthnasol am y polisïau hyn a chafodd eu newidiadau nhw eu cynnwys lle bo hynny’n briodol. 

 

Diben yr holl bolisïau a gweithdrefnau staff oedd nodi’n glir yr ymddygiad, y prosesau a’r gweithdrefnau y mae’n ofynnol i’r staff gadw atynt. Hefyd, roedd y dogfennau hyn yn nodi sut y gall y staff gael cyngor neu gymorth ynghyd â’r canlyniadau o beidio cydymffurfio â’r polisi a/neu’r weithdrefn. 

 

Polisi Gyrru yn y Gwaith – Fflyd y Cyngor

Cynhaliwyd adolygiad Rheoli Risg Fflyd a Gyrwyr gan ymgynghorydd ar ran Zurich, cwmni yswiriant y Cyngor. Y prif ddiben oedd adolygu polisïau a threfniadau’r Cyngor gan ystyried safonau arfer gorau a darparu argymhellion a fyddai’n cynorthwyo wrth sicrhau cydymffurfiaeth, diogelu ein gweithlu rhag niwed a lleihau risg digwyddiadau. 

 

Un o brif argymhellion yr Adolygiad oedd cyflwyno Polisi Gyrru yn y Gwaith gyda Chytundeb Gyrrwr yn rhan ohono, sy’n cynnig “disgwyliad diamwys clir ynghylch safonau gyrru”. Roedd y Polisi Gyrru yn y Gwaith – Fflyd y Cyngor yn un o gyfres o gynlluniau sy’n ceisio safoni’r prosesau cofnodi a chydymffurfiaeth ar draws y fflyd cerbydau a sicrhau safonau gyrru sy’n gwella diogelwch y gyrwyr a’r teithwyr, gan leihau nifer y digwyddiadau a’r

damweiniau sy’n gysylltiedig â’r fflyd. Roedd y cynlluniau eraill yn cynnwys cyflwyno modiwl e-ddysgu ar gyfer rhoi hyfforddiant i yrwyr a systemau archwilio cadarn ar gyfer cerbydau a thrwyddedau. 

 

Cyflwynwyd y canlynol fel rhan o’r Polisi Gyrru yn y Gwaith – Fflyd y Cyngor:-

 

  • Cytundeb Gyrrwr/Gweithredwr Peirianwaith i’w lofnodi bob blwyddyn;
  • Y gofyniad i weithwyr hysbysu eu rheolwr o unrhyw newid i’w hiechyd neu namau corfforol/synhwyraidd ac asesiad iechyd blynyddol
  • Os oes achos, sgrinio am gyffuriau ac alcohol
  • Y gweithiwr yn talu cyfraniad o hyd at £250 at gostau dros-ben yswiriant yn dilyn gweithdrefn ddisgyblu, os achosir y difrod o ganlyniad i’w hesgeulustod nhw neu os byddant wedi bod yn gyrru heb ofal a sylw priodol

 

Polisi Gyrru yn y Gwaith – Defnyddio Cerbyd Preifat (Fflyd Llwyd)

Roedd y Polisi Gyrru yn y Gwaith – Defnyddio Cerbyd Preifat (Fflyd Llwyd) yn nodi’r disgwyliadau ar y gweithwyr hynny sy’n defnyddio eu cerbyd preifat at ddibenion busnes y Cyngor. Byddai modiwl e-ddysgu hefyd yn cael ei ddatblygu i gyd-fynd â’r polisi. 

 

Cyflwynwyd y canlynol fel rhan o’r Polisi Gyrru yn y Gwaith – Defnyddio Cerbyd Preifat (Fflyd Llwyd):

 

  • Datganiad defnyddiwr Cerbyd Preifat i’w lofnodi bob blwyddyn;
  • Y gofyniad i’r gweithiwr hysbysu eu rheolwr o unrhyw newid i’w hamgylchiadau a allai effeithio ar ddefnyddio cerbyd preifat at ddibenion gwaith
  • Os oes achos, sgrinio am gyffuriau ac alcohol
  • Y gweithwyr yn cadarnhau bod eu cerbydau yn addas i’r ffordd fawr, bod ganddynt dystysgrif MOT (pan fo hynny’n briodol) a’u bod wedi cael ei yswirio’n  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Adroddiad Absenoldeb Oherwydd Salwch pdf eicon PDF 141 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd diweddariad am absenoldeb oherwydd salwch yn dilyn cais gan y Pwyllgor yn y cyfarfod diwethaf. Dywedwyd bod y polisi yn amlinellu’r gweithdrefnau ar gyfer rheoli absenoldeb oherwydd salwch o fewn y Cyngor. O ran y gweithlu corfforaethol, roedd Polisi a Gweithdrefn Rheoli Absenoldeb Oherwydd Salwch yn y Gwaith wedi bod yn weithredol ers hydref 2017. Roedd y prosesau a nodwyd yn y ddogfen wedi'u gweithredu'n llawn ac roeddent bellach wedi'u hen sefydlu.   

 

O ran gweithlu’r ysgolion, cymeradwyodd y Cabinet Bolisi a Gweithdrefn Enghreifftiol Rheoli Absenoldeb Oherwydd Salwch yn y Gwaith diwygiedig ym mis Rhagfyr 2021 ac roedd y ddogfen hon yn cael ei chynnig i Gyrff Llywodraethol y tymor hwn i'w mabwysiadu. 

 

Roedd y gweithdrefnau fwy neu lai’r un fath ar gyfer y ddau bolisi.

 

Dywedwyd bod y gwaith o fonitro absenoldeb oherwydd salwch wedi’i rannu’n ddwy:

 

a) Absenoldeb tymor byr oherwydd salwch – cyfnod byr o absenoldeb, yn aml dim ond ychydig ddyddiau o ganlyniad i fân anhwylderau

b) Absenoldeb hirdymor oherwydd salwch – absenoldeb parhaus o fwy na 28 diwrnod

 

Rhoddwyd rhagor o fanylion am y polisi gan gynnwys gwybodaeth am fonitro absenoldeb tymor byr, monitro absenoldeb hirdymor oherwydd salwch, Care First, y Siarter Afiechyd Marwol, Absenoldebau oherwydd Covid-19, a rôl  Swyddog Iechyd a Lles y Gweithwyr.

 

Rhoddwyd cyflwyniad hefyd am absenoldeb oherwydd salwch a darparwyd y wybodaeth ganlynol:-

  • Nifer y staff
  • Nifer y diwrnodau a gollwyd
  • Nifer y diwrnodau a gollwyd cyfwerth ag amser llawn
  • Meincnodi – Nifer y diwrnodau - 2018-19, 2019-20, 2020-21
  • Cwmwl Geiriau – Rhesymau dros absenoldebau hirdymor
  • Nifer yr atgyfeiriadau Iechyd Galwedigaethol
  • Nifer y staff a roddodd orau i’w gwaith oherwydd afiechyd
  • Absenoldebau oherwydd Covid-19 hyd at 07/01/2022

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i dderbyn yr adroddiad er gwybodaeth.

 

Hefyd, wrth gyflwyno data i’r Pwyllgor yn y dyfodol, dywedwyd y dylid ystyried cymharu absenoldebau oherwydd salwch yng Nghyngor Sir Ceredigion â’r sefyllfa yn y sector preifat ac yng Nghyngor Sir Powys.

 

 

5.

Cysylltedd Digidol pdf eicon PDF 580 KB

Cofnodion:

 

Ystyriwyd yr adroddiad ynghylch Cysylltedd Digidol. Cyflwynwyd yr adroddiad i roi trosolwg i’r Aelodau o’r cynlluniau a’r prosiectau yr oedd Cyngor Sir Ceredigion yn ymgymryd â nhw i gefnogi lefelau o gysylltedd digidol ar draws y Sir. 

 

Darparwyd y wybodaeth ganlynol ar ffurf cyflwyniad pwyntbwer:-

·         Cefndir

·         Sefyllfa bresennol – Band eang, ffonau symudol

·         Prosiectau / Cynlluniau cyfredol – Band eang, Prosiectau Ffeibr, Prosiect Gigabit, Adolygiad o’r Farchnad Agored 2021, Ffonau Symudol, Rhwydwaith Gwledig a Rennir , Gwasanaeth Ardal Estynedig, Rhwydwaith LoRaWAN ar draws y Sir, Trefi SMART Ceredigion, Gwefan Ddigidol, Mapio Cysylltedd Digidol

·         Casgliad

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i nodi’r adroddiad diweddaru ynghylch yr agenda cysylltedd digidol yng Ngheredigion a gwaith y Cyngor o ran helpu i wella cysylltedd a chynorthwyo’r Aelodau i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo cyfleoedd o fewn eu cymunedau.

 

 

6.

Blaenraglen Waith 2021.2022 pdf eicon PDF 160 KB

Cofnodion:

Cytunwyd ar y Flaenraglen Waith fel y’i cyflwynwyd yn amodol ar y canlynol:-

           Cyflwyno adroddiad am Ffermydd y Sir ynghyd ag argymhellion ynghylch y ffordd ymlaen yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 17 Mawrth 2022

           Gwahodd y Swyddog Digidol newydd i un o gyfarfodydd y dyfodol  

           Cyflwyno adroddiad ynglŷn â grantiau Trefi Smart a chyllid arall sydd ar gael i adfywio trefi yn un o gyfarfodydd y dyfodol ar ôl yr etholiadau.

 

7.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd blaenorol dyddiedig 14.10.21, 27.10.21 a 29.11.21 ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion. pdf eicon PDF 253 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD i gadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2021 a 27 Hydref 2021 yn amodol ar nodi bod y Cynghorydd Endaf Edwards wedi ymddiheuro na fedrai fod yn bresennol yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Hydref 2021.

 

Materion yn codi

Gofynnodd y Cynghorydd Lyndon Lloyd MBE a fyddai modd cynnwys rhif ffôn CLIC ar ddogfennau ymgynghori a dogfennau cyhoeddus gan nad oedd pawb yn medru ymateb i ymgynghoriadau ar-lein. Byddai’r cais hwn yn cael ei anfon ymlaen at y swyddogion perthnasol.