Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus - Dydd Iau, 21ain Mawrth, 2024 11.20 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Dim.

2.

Datgan diddordebau personol / diddordebau personol sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Dim.

3.

Ethol Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn fwrdeistrefol 2024/25, gan ddechrau ar 17 Mai 2024.

Cofnodion:

Cynigiodd y Cynghorydd Gwyn Wigley Evans ac eiliwyd gan y Cynghorydd Rhodri Evans bod y Cynghorydd Marc Davies yn cael ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn Gyngor nesaf.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol bod y Cynghorydd Marc Davies yn cael ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn Gyngor nesaf.

4.

Ethol Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn fwrdeistrefol 2024/25, gan ddechrau ar 17 Mai 2024.

Cofnodion:

Cynigiodd y Cynghorydd Marc Davies ac eiliwyd gan y Cynghorydd Rhodri Evans bod y Cynghorydd Gwyn Wigley Evans yn cael ei ethol yn Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn Gyngor nesaf.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol bod y Cynghorydd Gwyn Wigley Evans yn cael ei ethol yn Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn Gyngor nesaf.