Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron.
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a Materion Personol Cofnodion: Ni chafwyd dim
ymddiheuriadau. Dymunai’r Cynghorydd
Elizabeth Evans fynegi ei diolchgarwch diffuant i Peter Evans, Harbwrfeistr Aberaeron, a oedd yn ymddeol o’i swydd heddiw.
Dymunodd hi’n dda iddo yn ei ymddeoliad.
Estynnodd y Cynghorydd Meirion Davies ei
longyfarchiadau i’r Cynghorydd Marc Davies ar gyflawni ugain mlynedd o
wasanaeth gyda’r Awdurdod Tân. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Ni ddatgelwyd dim Buddiannau Personol/ Buddiannau
sy’n Rhagfarnu (gan gynnwys datganiadau chwipio). |
|
Cod Ymarfer ar gyfer Archwiliadau Diogelwch ar Ffyrdd Sirol a’r Ymateb PDF 276 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i Gôd Ymarfer Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer
Archwiliadau Diogelwch ar Ffyrdd Sirol a’r Ymateb (‘Cod Ymarfer’)
sy’n egluro’r polisi a’r safon ar gyfer cynnal archwiliadau ar y rhwydwaith priffyrdd mabwysiedig. Unwaith y bydd y côd wedi’i gymeradwyo, eglurodd y Swyddog y byddai angen creu
trefniadau arolygu newydd. Bydd angen diweddaru Cynllun Rheoli Asedau
Priffyrdd y Gwasanaeth a’r System Rheoli Asedau, a diwygio adroddiadau’r
system, yn ôl yr angen, er mwyn iddynt adlewyrchu gofynion y cod newydd. Bydd angen hyfforddiant ar
Arolygwyr Priffyrdd, Uwch-arolygwyr a Pheirianwyr. Bydd angen rhoi prosesau
busnes newydd ar waith i sicrhau bod gwaith trin yn
cael ei drefnu’n rhaglenni cynnal a chadw cylchol/ataliol rheolaidd a mwy
cost-effeithiol, megis yn achos glanhau cwteri, trin ffosydd, patsho ac ati. Bydd rhaid datblygu cefnogaeth yr
Arolygiaeth i weithgarwch gwaith stryd, gwaith gorfodi a swyddogaethau eraill
ac mae’r cynigion ailstrwythuro sydd ar waith yn y Gwasanaethau Priffyrdd yn
mynd i’r afael â hyn. Mae’n hollbwysig fod y gwaith o gyfrif traffig cerbydau a
cherddwyr yn digwydd ar draws y rhwydwaith a bod y rhain yn cael eu hymgorffori
wrth adolygu’r Cod Ymarfer yn rheolaidd. Ar ôl trafodaeth hir, gofynnwyd i’r
Aelodau ystyried yr argymhelliad canlynol: ·
Bod y Cabinet yn
cymeradwyo’r Cod Ymarfer ar gyfer Archwiliadau Diogelwch ar Ffyrdd Sirol a’r
Ymateb 2021. Cytunodd yr Aelodau i argymell bod
y Cabinet yn cymeradwyo’r Cod Ymarfer ar gyfer Archwiliadau Diogelwch ar
Ffyrdd Sirol a’r Ymateb 2021. |
|
Cofnodion: CYTUNWYD bod cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 26 Mai 2021 yn gywir ar yr amod y
mewnosodir y canlynol: Gweithdrefn, pwynt 1: Cadeiriodd y Cynghorydd Marc Davies y
cyfarfod o 10:05am ymlaen. |
|
Ystyried Rhaglen Flaen Trosolwg a Chraffu PDF 64 KB Cofnodion: CYTUNWYD i nodi cynnwys Blaenraglen
Waith 2021/22 fel y’i cyflwynwyd ar yr amod y mewnosodir yr eitemau agenda
canlynol: ·
Adroddiad ar ddyfodol y Parthau Diogel – gofynnodd yr Aelodau am i gyfarfod
arbennig gael ei alw ynghyd i ystyried yr eitem hon a hynny cyn diwedd mis Medi
2021. ·
Adroddiad ar Nitrogen a Ffosffadau – Ionawr 2022; ·
Adroddiad ar Gasglu Sbwriel – Ionawr 2022; |