Eitem Agenda

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Cyllideb Refeniw 25/26 a'r rhaglen Gyfalaf Aml-flwyddyn gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.     Nodi y bydd cynnydd arfaethedig cyllideb Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru yn creu pwysau costau o £301k ar Gyllideb 25/26 y Cyngor (sy'n cyfateb i gynnydd o oddeutu 0.6% yn Nhreth y Cyngor ar gyfer trigolion Ceredigion).

2.     Argymell bod y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu’r Gyllideb yn ystyried yr opsiynau canlynol at ddibenion y Cyngor Sir ynghylch Gofyniad drafft ar Gyllideb 25/26 ac o ganlyniad y cynnydd arfaethedig yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 25/26:

a)    Gofyniad drafft ar Gyllideb 25/26 o £209.109m, gan arwain at gynnydd yn Nhreth y Cyngor (ar gyfer elfen Cyngor Sir Ceredigion) o £13.94 y mis ar gyfer eiddo Band D (9.7%), a fyddai'n cynnwys darpariaeth ar gyfer buddsoddiad o £230k yn y Gwasanaeth Gorfodaeth Cynllunio a buddsoddiad o £481k yn y Gwasanaeth Casglu Gwastraff.

b)    Gofyniad drafft ar Gyllideb 25/26 o £209.234m, gan arwain at gynnydd yn Nhreth y Cyngor (ar gyfer elfen Cyngor Sir Ceredigion) o £14.24 y mis ar gyfer eiddo Band D (9.9%), a fyddai'n cynnwys darpariaeth ar gyfer buddsoddiad o £346k yn y Gwasanaeth Gorfodaeth Cynllunio a buddsoddiad o £481k yn y Gwasanaeth Casglu Gwastraff.

3.     Argymell pan gyhoeddir setliad terfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 25/26:

a)    Bod gwerth unrhyw grantiau penodol pellach a drosglwyddir i’r Grant Cynnal Refeniw yn cael eu cyfeirio i gyllideb y Gwasanaeth perthnasol, lle bo hynny'n briodol.

b)    Y dylai unrhyw newidiadau penodol eraill dargedu’r Gwasanaeth(au) sy’n cael eu heffeithio yn uniongyrchol, pan fo hynny'n briodol.

c)     Y byddai unrhyw fudd o Gyllido Gwaelodol yn y Setliad Terfynol yn cael ei ddefnyddio i leihau'r cynnydd i Dreth y Cyngor dangosol.

d)    Bod unrhyw newid(newidiadau) eraill i'r AEF yn cael eu trin drwy wneud addasiad i gyllideb y Grŵp Arweiniol.

4.     Nodi y bydd y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn cael ei diweddaru ar ôl Datganiad Ariannol nesaf y Canghellor (a ddisgwylir ar 26/03/25).

5.     Nodi rhaglen arfaethedig y Ffioedd a Thaliadau drafft a nodir yn Atodiad 8, ac y bydd y rhain yn cael eu hystyried yn ffurfiol gan y Cabinet ar 18/02/25.

6.     Nodi’r Rhaglen Gyfalaf Aml-Flwyddyn sydd yn Atodiad 10.

7.     Nodi’r Strategaeth Gyfalaf sydd yn Atodiad 11.

8.     Nodi y dylid ystyried unrhyw opsiynau newydd neu amgen ar gyfer Cyllideb ddrafft 25/26 yn ystod y cyfarfodydd i Graffu'r Gyllideb ac y byddai angen digon o amser ymlaen llaw ar y swyddog Adran 151 i fodelu’n llawn unrhyw effeithiau posibl ac i roi barn ar gadernid unrhyw gynnig (gynigion).

9.     Cyfeirio'r adroddiad Cabinet hwn at sylw’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar y Gyllideb, fel y gall y Cabinet ystyried eu hadborth ffurfiol ar 18/02/25, er mwyn i'r Cabinet wedyn wneud eu hargymhellion terfynol i'r Cyngor Llawn ar 03/03/25 ar y Gofyniad ar Gyllideb 25/26 a maint y cynnydd yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 25/26.

10. Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus mewn perthynas â Gorfodaeth Cynllunio.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Fel bod y gwaith o baratoi Cyllideb 2025/26 yn gallu mynd rhagddo.

Dogfennau ategol: