Eitem Agenda

I ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Democrataidd ar benderfynu os yw Cyngor Sir Ceredigion yn mabwysiadu'r system bleidleisio Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy (PSD)

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor a'r Aelod o’r Cabinet dros Wasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phobl a Threfniadaeth, gyflwyno’r adroddiad i'r Cyngor gan roi braslun o’r opsiynau, y weithdrefn a'r ymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch a ddylid mabwysiadu system bleidleisio Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau Cyngor Sir Ceredigion o hyn ymlaen.

 

Nodwyd y canlynol gan Aelodau’r Cyngor:

 

-       Y byddai’r diwygiad yn y system bleidleisio yn para mewn grym am ddau etholiad yn olynol;

-       Yr effaith ar wardiau gwledig a fyddai'n cwmpasu ardal ddaearyddol fawr o gymharu â’r wardiau trefol;

-       Pryderon y gallai wardiau mwy o faint sydd â 3 - 6 Aelod effeithio ar y cyswllt lleol rhwng Aelodau a’r trigolion;

 -       Llai o dra-arglwyddiaethu gan un blaid, a mwy o gonsensws gwleidyddol a chydweithio;

-       Y byddai trigolion yn mynd at yr Aelod mwyaf effeithiol a diwyd yn y ward;

-       Bod 67% o'r rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad o blaid system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy, a bod 80% o'r bobl iau wedi dangos awydd am newid;

-      Y gallai system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy leihau nifer y seddi diwrthwynebiad;

-       Y byddai gan Gyngor Sir Ceredigion system wahanol i weddill Cymru gan fod y system wedi ei gwrthod gan bob awdurdod arall yng Nghymru, tra bod Aelodau eraill o'r farn y byddai hyn yn gosod Ceredigion fel awdurdod arloesol;

-       Y gost ychwanegol, nad yw’n hysbys, o weithredu system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar adeg pan fo arian yn brin;

-       Ansicrwydd ynghylch ffiniau arfaethedig y wardiau ac anfodlonrwydd gan lawer yn dilyn adolygiad o’r Cynghorau Tref a Chymuned;

-       Bod Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy yn ffordd fwy teg a chynrychioliadol sy'n cynnig dewis rhwng pleidiau ac ymgeiswyr;

-       Bod system bresennol y Cyntaf i'r Felin yn golygu bod yr ymgeisydd sydd â mwyafrif y pleidleisiau yn cael ei ethol, yn hytrach na'r Aelodau a ddaeth yn ail a thrydydd yn y canlyniad;

-       Y byddai’r gwahaniaeth yn y canlyniadau - rhwng y ddwy system - yn fach yng Ngheredigion, sef oddeutu 4%;

-       Y gallai mwy o ymgeiswyr ystyried rhoi eu henw gerbron mewn system lle ceir Ward aml-Aelod;

-       Bod system y Cyntaf i'r Felin yn golygu bod dewis yr etholwyr yn cael ei nacáu pan fydd eu dewis cyntaf yn colli; fodd bynnag, mae system y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy yn cynnig lle i fod yn fwy cynrychioladol o ddewis y trigolion.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Keith Henson y dylai’r bleidlais fod yn Bleidlais Gofrestredig. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Alun Williams a chytunwyd yn unfrydol.

 

Cafwyd Pleidlais Gofrestredig yn unol â Rheol 14.5, Rheolau Gweithdrefn y Cyngor yng Nghyfansoddiad y Cyngor ar yr argymhelliad fod y Cyngor yn penderfynu p’un ai i fabwysiadu’r system bleidleisio Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy neu peidio ar gyfer etholiadau Cyngor Sir Ceredigion o hyn ymlaen.

 

O blaid: Cynghorwyr Shelley Childs, Bryan Davies, Catrin M S Davies, Clive Davies, Gareth Davies, Endaf Edwards, Elaine Evans, Elizabeth Evans, Keith Henson, Hugh Hughes, Sian Maehrlein, Ann Bowen Morgan, Caryl Roberts, Mark Strong, Wyn Thomas, Matthew Vaux, Alun Williams a Carl Worrall (18)

 

Yn erbyn: Cynghorwyr Euros Davies, Gethin Davies, Ifan Davies, Marc Davies, Meirion Davies, Rhodri Davies, Amanda Edwards, Eryl Evans, Gwyn Wigley Evans, Raymond Evans, Rhodri Evans, Wyn Evans, Gwyn James, Maldwyn Lewis, Gareth Lloyd, John Roberts a Keith Evans (17)

 

Ymatal: (0)

 

Gadawodd y Cynghorydd Chris James y cyfarfod cyn y bleidlais gofrestredig.

 

Er mwyn mabwysiadu system o bleidlais sengl drosglwyddadwy roedd yn rhaid i o leiaf ddwy ran o dair o Aelodau’r Cyngor fod o blaid, sef 26 allan o 38.

 

Gan na chyrhaeddwyd y trothwy o 26 nid yw’r argymhelliad yn pasio. O ganlyniad, ni fydd y system bleidleisio yn newid ar gyfer etholiadau llywodraeth leol 2027.

Dogfennau ategol: