Eitem Agenda

Datganiad Llywodraethu Blynyddol Diwygiedig

Cofnodion:

Mae'r tîm llywodraethu wedi bod yn adolygu'r ddogfennaeth lywodraethu ar gyfer y Cyngor ac wedi cynnal adolygiad o'r Cod Llywodraethu Corfforaethol Lleol yng ngaeaf 2023 a arweiniodd at greu'r Fframwaith Llywodraethu newydd a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2024.

 

Yn dilyn cyhoeddi'r Fframwaith Llywodraethu yn llwyddiannus, dechreuodd y tîm llywodraethu adolygu'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol.

 

Gwnaed ymchwil ar Ddatganiadau Llywodraethu Blynyddol awdurdodau lleol Cymru a nodwyd bod gan lawer ohonynt ddogfennau mwy cryno gyda gwybodaeth gryno am eu trefniadau llywodraethu. Gweler enghreifftiau ar Ddatganiad Llywodraethu Blynyddol 2022/23 Cyngor Ynys Môn, Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2022-23 Cyngor Sir Conwy a  Chyngor Sir Ddinbych.

 

Crëwyd y fformat newydd ar gyfer y Datganiad Llywodraethu Blynyddol, ac mae'r ddogfen wedi'i lleihau o'r 36 tudalen cyfredol i 17 tudalen. Gwnaed hyn drwy gyddwyso'r wybodaeth i baragraff byr o dan bob egwyddor wrth gyfeirio at ddolenni i ddogfennau sydd eisoes wedi'u cyhoeddi. Roedd y swyddogaeth a’r broses lywodraethu lawn wedi’u cynnwys yn y Fframwaith Llywodraethu.

Mae Fframwaith Llywodraethu Da 2016 CIPFA mewn perthynas â'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn nodi:

“7.3 Dylai'r datganiad llywodraethu blynyddol ddarparu cyfathrebu ystyrlon ond byr ynghylch yr adolygiad o lywodraethu sydd wedi digwydd, gan gynnwys rôl y strwythurau llywodraethu dan sylw (megis yr awdurdod, yr archwiliad a phwyllgorau eraill). Dylai fod ar lefel uchel, yn strategol ac wedi'i hysgrifennu mewn arddull agored a darllenadwy.

7.4 Dylai'r datganiad llywodraethu blynyddol ganolbwyntio ar ganlyniadau a gwerth am arian ac ymwneud â gweledigaeth yr awdurdod ar gyfer yr ardal. Dylai ddarparu asesiad o effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu'r awdurdod wrth gefnogi'r canlyniadau a gynlluniwyd - nid disgrifiad ohonynt yn unig. Crynhoir elfennau allweddol trefniadau llywodraethu awdurdod yn yr adran nesaf.

7.5 Dylai'r datganiad llywodraethu blynyddol gynnwys y canlynol:

cydnabod cyfrifoldeb dros sicrhau bod system lywodraethu gadarn (gan ymgorffori'r system rheolaeth fewnol) a chyfeiriad at god llywodraethu'r awdurdod,

cyfeiriad at ac asesu effeithiolrwydd elfennau allweddol y fframwaith llywodraethu a rôl y rhai sy'n gyfrifol am ddatblygu a chynnal yr amgylchedd llywodraethu; megis yr awdurdod, y gweithredwr, y pwyllgor archwilio, archwilio mewnol ac eraill fel y bo'n briodol,

barn ar lefel y sicrwydd y gall y trefniadau llywodraethu ei ddarparu a bod y trefniadau'n parhau i gael eu hystyried yn addas i'r diben yn unol â'r fframwaith llywodraethu,

cynllun gweithredu cytunedig sy'n dangos camau a gymerwyd, neu a gynigir, i ddelio â materion llywodraethu sylweddol

cyfeiriad at sut mae materion a godwyd yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol o'r flwyddyn flaenorol wedi’u datrys,

Casgliad – ymrwymiad i fonitro gweithrediad fel rhan o'r adolygiad blynyddol nesaf.”

 

Mae Canllawiau statudol Llywodraeth Cymru ar Ddemocratiaeth mewn Prif Gynghorau yn nodi y gellir defnyddio'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol:

fel teclyn:

       ar gyfer gwelliant corfforaethol;

       gwerthuso cryfderau a gwendidau yn y fframwaith llywodraethu; a

       fel rhan o gynllun gweithredu blynyddol

 

Mae ffurf newydd y Datganiad Llywodraethu Blynyddol wedi'i ysgrifennu i grynhoi'r pwyntiau a'i wneud yn fwy apelgar i ddarllenwyr ac yn hawdd ei ddilyn.

 

Y prif newidiadau:

 

- Lleihau ailadrodd gwybodaeth yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol a’r Fframwaith Llywodraethu.

-Ychwanegu mwy o ddolenni at ddogfennau sydd eisoes wedi’u cyhoeddi

-Dileu dyddiadau pwyllgorau a'u disodli gyda pharagraffau sy'n crynhoi'r gwaith a wnaed mewn pwyllgorau.

-Lleihau gwybodaeth mewn pwyntiau bwled a thablau a'u disodli gan grynodeb byr.

 

CYTUNWYD i gymeradwyo fformat newydd y Datganiad Llywodraethu Blynyddol.

 

Dogfennau ategol: